YNGHYLCH THEATR A CHANOLFAN GELFYDDYDAU GLAN YR AFON
Mae Glan yr Afon yn ganolfan theatr a chelfyddydau fywiog yng nghanol dinas Casnewydd sy'n dod â chynifer o bobl â phosibl i gysylltiad â'r celfyddydau a chreadigrwydd, gyda pherfformiadau proffesiynol, dangosiadau ffilm a gweithdai.
Glan yr Afon yw’r unig ganolfan theatr a chelfyddydol broffesiynol yng Nghasnewydd ac yn ogystal â meddu ar ddau ofod theatr, mae’n gartref hefyd i oriel gelf, stiwdio ddawns, stiwdio recordio, ystafelloedd gweithdai, ystafell gynadledda a chaffi trwyddedig.
Oriau Agor
Dydd Llun - Dydd Sadwrn
9am – 5pm
Bydd Glan yr Afon ar agor yn hwyrach pan fydd sioe neu ddangosiad sinema gyda’r nos.
yr hyn a gynigiwn
LLOGI LLEOLIAD
Lleoliad a mannau gwahanol i'w llogi
Gyda dwy theatr, oriel gelf, stiwdio ddawns, ystafell gynadledda, tri gweithdy/ystafell ddigwyddiadau, bar, caffi ac ardaloedd cyntedd, gall Glan yr Afon gynnig lleoliad dramatig a chofiadwy ar gyfer cynadleddau, digwyddiadau, achlysuron corfforaethol a mwy.