Accessibility Icon Cliciwch ar yr eicon hwn ar ochr dde eich sgrin i agor ein dewislen hygyrchedd a theilwra ein gwefan i'w gwneud yn haws ei defnyddio a'i llywio.

Mae celf a diwylliant ar gyfer pawb, ond os oes gennych amhariad neu ofyniad penodol o ran hygyrchedd, yn aml gall ymweliad â'r theatr neu ganolfan gelfyddydau fod yn fwy cymhleth. Yng Nglan yr Afon rydym yn ceisio cynnig i'n cwsmeriaid yr arfer gorau oll o ran polisi tocynnau teg a hygyrchedd.

Perfformiadau Hygyrch

Mae Theatr Glan yr Afon yn cynnig amrywiaeth o berfformiadau sy'n cael eu dehongli gan iaith arwyddion Prydain, perfformiadau sy’n cynnwys sain-ddisgrifiad a pherfformiadau hamddenol drwy gydol y flwyddyn.

Cynllun Hygyrchedd Hynt

Mae Hynt yn gynllun hygyrchedd cenedlaethol sy'n gweithio mewn partneriaeth â theatrau a chanolfannau celfyddydau ledled Cymru.

Fel rhan o rwydwaith Hynt, rydym yn rhoi tocyn am ddim i ddeiliaid carden ar gyfer eu cydymaith, gofalwr neu gynorthwyydd personol.

Os oes gennych gerdyn Hynt ffoniwch ein tîm ar 01633 656757 a byddant yn gallu archebu tocyn HYNT i chi. Darllenwch fwy am Hynt yma

 

Llefydd i Gadeiriau Olwyn

Mae'r holl lefydd perfformio yn hygyrch i gadeiriau olwyn.

Mae gan Theatr Glan yr Afon naw lle i gadeiriau olwyn yn y brif theatr - gellir dod o hyd i'r rhain yn y stondinau yn rhes K, N ac ar y balconi yn rhes NN.

Mae gennym un ar ddeg o lefydd cadeiriau olwyn yn y theatr stiwdio, yn y blaen a'r cefn.

Wrth archebu lle ar gyfer cadair olwyn, gwnewch yn siŵr bod ein Swyddfa Docynnau yn ymwybodol o unrhyw ofynion penodol.

Mynediad, Toiledau a Lifftiau

Mae ramp wrth ddrysau blaen a chefn Glan yr Afon. Mae mynediad lifft, mynediad i gadeiriau olwyn a chyfleusterau toiled ar gael ar bob lefel ac eithrio’r islawr.

Parcio i Ddeiliaid Bathodynnau Glas

Gallwch ollwng a chasglu’n union y tu allan i'r fynedfa trwy ddod i fyny at yr atalfeydd ar ochr yr adeilad sy’n agos at y castell. Gwasgwch y swnyn a byddwch yn cael mynediad.

Mae dau le parcio hygyrch ar gyfer deiliaid bathodynnau glas ar bob adeg. Yn anffodus, ni ellir cadw'r mannau hyn, ac maent ar sail y cyntaf i'r felin.

Cŵn Cymorth

Croesewir cŵn cymorth a gellir gofalu amdanynt yn ystod perfformiadau trwy drefnu hyn ymlaen llawn.

Cymorth Meddygol

Mae llawer o'n staff wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf. Os oes angen cymorth arnoch, rhowch wybod i unrhyw aelod o staff, a bydd yn cysylltu â'r person priodol am gymorth.

Rhagolwg o’ch Sedd

I wneud apwyntiad i weld eich sedd ymlaen llaw, i archebu’r gwasanaethau hyn neu os ydych chi eisiau trafod unrhyw beth arall am eich ymweliad, cysylltwch â’r tîm ar 01633 656757, e-bostiwch riverfront.boxoffice@newportlive.co.uk neu galwch heibio a chael sgwrs gyda’n tîm yn y swyddfa docynnau.

Cymorth Gwella Sain

Mae ein ap Mobile Connect yn cefnogi ein cwsmeriaid byddar neu drwm eu clyw. Gellir ei lawrlwytho ymlaen llaw trwy'r App Store. Cyrhaeddwch mewn da bryd i’n tîm eich helpu i roi popeth yn ei le. Bydd angen i gwsmeriaid ddod â'u clustffonau eu hunain neu gallwch gysylltu trwy gymorth clyw.

1. Ymunwch â'n Wi-Fi

2. Lawrlwythwch yr ap gan ddefnyddio un o'r dolenni isod

3. Dewiswch eich sianel sain

Sennheiser MobileConnect – Apps on Google Play

Sennheiser MobileConnect on the App Store (apple.com)

Gall pobl fyddar neu drwm eu clyw a phobl ddall neu bobl ag amhariad ar eu golwg fwynhau hud sinema Glan yr Afon gyda dangosiadau ag is-deitlau a disgrifiadau sain.

Cwsmeriaid ag amhariad ar eu golwg

Mae copïau o'n llyfryn ar gael mewn print bras a fformatau sain ar gais o Glan yr Afon.