Dathlwch Flwyddyn Newydd y Lleuad gyda ni yng Nglan yr Afon

 

Paratowch am daith i ganol Blwyddyn Newydd y Lleuad. Ymunwch â ni ddydd Sadwrn 1 Chwefror am ddiwrnod llawn perfformiadau, gweithdai a gweithgareddau i ddathlu Blwyddyn y Neidr. Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda gorymdaith drwy ganol y ddinas. Mae hwn yn ddigwyddiad teuluol am ddim ac nid oes angen cadw lle.

Dewch draw i Friars Walk am 10am ar gyfer gorymdaith, parêd a Dawns y Llew. O 11am - 5pm, bydd Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn cynnal gweithdai, arddangosiadau, perfformiadau a llawer mwy.

Mae’r digwyddiad hwn am ddim ac nid oes angen cadw lle. Gallwch fynd a dod fel y mynnwch a mwynhau’r hwyl i’r teulu!

Gwnewch nodyn yn eich calendr, dewch â’ch ffrindiau a'ch teulu ynghyd, ac ymgollwch yn ein dathliad cyffrous o Flwyddyn Newydd y Lleuad. Nid dim ond digwyddiad yw hwn; mae'n ddathliad lle gall pawb ddod at ei gilydd i groesawu'r flwyddyn newydd gyda llawenydd ac undod. Peidiwch â cholli'r cyfle i fod yn rhan o rywbeth gwirioneddol arbennig!

Cynhelir y digwyddiad mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, Theatr Glan yr Afon a Chanolfan Gymunedol Tsieineaidd Casnewydd. Mae wedi ei wneud yn bosibl gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Dinas Casnewydd.

 

 

10:00 Gorymdaith yn ymgynnull yn Friars Walk

10:10 Gorymdaith dan arweiniad Lion Dancers

10:50 Lion Dancers yn perfformio tu allan i Glan yr afon

11:00 Lansiad Swyddogol

11:00 - 14:00 Stondin Farchnad y Lleuad - Crefftau Tsieineaidd a Marchnad Bwyd Tsieineaidd

11:00 - 16:00 Gweithdai ac arddangosiadau - Seremoni Te, Bwydydd, Caligraffeg, Gwneud Llusernau, Paentio Wyneb, Arddangos Qi Gong, Gwneud Pypedau UV

16:00 Cerflun Tân Fflam y Neidr

19:30 Baled Mulan

LNY LOGOs.png

how to get involved

Don't forget to wear your best red attire or transform into a snake for this fun family parade. Or why not, create your own lantern to bring along! 

Follow the BBC's 'How to' Pack to create your own lantern, paper cuts and shadow puppet show here!

Download and colour in one of our five Lunar New Year templates, created by Gary Yeung.