
Mae gŵyl gelfyddydol awyr agored am ddim fwyaf Cymru, 'Y Sblash Mawr', yn dychwelyd yr haf hwn!
Paratowch ar gyfer gŵyl gelfyddydol awyr agored am ddim fwyaf Cymru, sy’n dychwelyd i Gasnewydd ddydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Gorffennaf 2025!
Mae Glan yr Afon yn cyflwyno’r ‘Sblash Mawr’, gŵyl flynyddol sy’n denu miloedd i’r ddinas, sy’n cynnwys cerddoriaeth fyw, theatr stryd, perfformiadau dawns, gweithdai, gweithgareddau a chrefft i'r teulu cyfan.
Gyda’r cyfan yn rhad ac am ddim, y digwyddiad deuddydd yw’r profiad perffaith i’r teulu ac i bob oed. Wedi'i ddisgrifio fel "Covent Garden Casnewydd", bydd strydoedd Casnewydd yn troi'n lwyfan awyr agored enfawr. Cadwch y dyddiad yn rhydd ac ymunwch â ni yn yr ŵyl eleni. I gymryd rhan yn Sblash Mawr 2025, cysylltwch â artsdevelopment@newportlive.co.uk.
CAIS AM THEATR STRYD GYMRAEG YN Y SBLASH MAWR
Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon a’r Sblash Mawr am gefnogi darn theatr stryd newydd sbon awyr agored yn y Gymraeg ar gyfer Gŵyl Sblash Mawr 2025 yr haf hwn.
Mae gan y sefydliad £3000 ar gyfer artist neu gwmni i ddatblygu darn o theatr awyr agored sy'n addas i deuluoedd a all fod naill ai'n gyflwyniad statig neu grwydrol (neu ychydig bach o'r ddau). Mae'r ŵyl eleni yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf a dydd Sul 20 Gorffennaf ac mae’n rhaid i'r artistiaid llwyddiannus A) Bod ar gael i berfformio hyd at 3 gwaith ar y ddau ddiwrnod a B) Creu a pherfformio'r gwaith o fewn y ffi a ddyrannwyd.
Dylai'r darn ddathlu'r Gymraeg, bod dim mwy nag 20 munud o hyd a bod yn addas ar gyfer cynulleidfa deuluol. Yn ogystal â'r ffi hollgynhwysol o £3000, gall Glan yr Afon gefnogi gyda gofod i ddatblygu'r darn.

Sut I Wneud Cais?
Mae'r cyfle yn agored i unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn, yn siarad Cymraeg neu'n awyddus i fagu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith, ac yn artist neu'n weithiwr llawrydd yn y sector creadigol, gyda phrofiad neu uchelgais o weithio yn sector y celfyddydau awyr agored.
Anfonwch ddisgrifiad byr aton ni ohonoch chi'ch hun neu’ch cwmni, eich syniad creadigol a pham eich bod yn credu y byddai'r gwaith hwn yn llwyddiannus mewn amgylchedd gŵyl celfyddydau awyr agored.
Dyddiad cau Dydd Sul 30 Mawrth. Anfonwch eich cais drwy e-bost i artsdevelopment@newportlive.co.uk
NODDWYR A PHARTNERIAID
Diolch yn fawr iawn i'n cyllidwyr, noddwyr a phartneriaid am helpu i wneud Sblash Mawr yn bosibl: Eisiau cymryd rhan a dod yn noddwr i Sblash Mawr Edrychwch ar ein pecyn noddi yma!
Mae'r partneriaid blaenorol yn cynnwys:
