Mae Glan yr Afon wedi ymrwymo i gefnogi artistiaid, yn enwedig y rhai sy'n gweithio yn ne Cymru ac rydym yn credu bod eu gwaith yn bwysig i'n cynulleidfaoedd, ein rhaglenni artistig a'n blaenoriaethau.
Gellir gwahodd ein Hartistiaid Cysylltiol i ymuno â'r adeilad ar unrhyw adeg yn eu gyrfa ac fel arfer maent yn gwmnïau neu'n artistiaid y buom yn gweithio gyda nhw mewn ffordd ad hoc ers cryn amser.
Mae pecynnau cymorth wedi'u teilwra at anghenion artistiaid unigol. Er enghraifft, gall cymorth gynnwys gweithredu fel mentor neu gynhyrchydd creadigol parhaus, yn ogystal â chymorth mwy ymarferol fel help gyda cheisiadau am gyllid, gofod ymarfer, cynhyrchu, cymorth technegol a marchnata. Rydym hefyd yn gobeithio dysgu gan arbenigedd ein hartistiaid cysylltiol. Bwriad y berthynas yw arwain at gynhyrchiad neu raglen arall o waith sy'n ennyn diddordeb y gynulleidfa.
Bydd ein perthynas gydag Artist Cysylltiol yn cael ei hadolygu'n rheolaidd er mwyn sicrhau ei bod yn addas ar gyfer yr artist a'r lleoliad. Ni fyddem fel arfer yn disgwyl iddynt bara mwy na thair blynedd.
Ein Hartistiaid a'n Cwmnïau Cysylltiol ar hyn o bryd yw:
Connor Allen
Ers graddio o Brifysgol y Drindod Dewi Sant fel Actor, mae Connor Allen, sy’n enedigol o Gasnewydd wedi gweithio gyda chwmnïau fel Theatr The Torch, Theatr y Sherman, Theatr Tin Shed a National Theatre Wales. Mae'n aelod o Theatr Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr a fe hefyd oedd enillydd Triforces Cardiff MonologueSlam, yn cynrychioli Cymru yn rhifyn yr enillwyr yn Llundain. Mae ei gredydau teledu yn cynnwys Jason yn Our Girl a Zak yn Outsiders gan BBC Cymru. Mae ei waith yn cynnwys Jaime yn Gary Owens Freedom. Fel awdur mae’n aelod o rhaglen ddatblygu Welsh Voices y BBC a grŵp Awduron Cymreig y Royal Court, dan arweiniad Gary Owen. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer No Boundries, Theatr Avant a Dirty Protest.
Wrth sôn am ei berthynas Artist Cysylltiol, dywed Connor: 'Dim ond bachgen o stad cyngor yng Nghasnewydd ydw i felly dw i wedi cyffroi’n lân am y cyfle yma. Mae teulu Glan yr Afon yn griw mor groesawgar a chefnogol, sydd nid yn unig yn dod â'r gorau allan ohonof i yn greadigol ond sydd wedi fy nghefnogi a'm meithrin ers amser maith erbyn hyn. Rwyf wrth fy modd yn cydweithio a rhannu fy mrwdfrydedd ac ymwneud â chynhesrwydd a dwyster y teulu celfyddydol yn Glan yr Afon. Mae’r posibiliadau y bydd y swydd hon yn eu cynnig a'r cyfleoedd a ddaw nid yn unig i fi, ond i'r tîm cyfan yng Nglan yr Afon a chymuned Casnewydd yn hynod gyffrous. Gwn beth y mae'n ei olygu i blant ac artistiaid eraill yng Nghasnewydd weld rhywun fel fi yn y sefyllfa hon, a gobeithio y bydd yn ysbrydoli ac yn meithrin ton newydd o dalent er mwyn ymgysylltu â'r adeilad a'i dîm i ddod â lleisiau enfawr ac amrywiol Casnewydd i’r amlwg.’