Cymorth i Artistiaid
Mae pob agwedd ar ein rhaglen yn cynnwys gweithio gydag artistiaid mewn rhyw ffordd, felly mae’n bwysig i ni ein bod yn rhoi blaenoriaeth i gymorth a datblygu sy’n hygyrch i artistiaid a phobl greadigol sy’n gweithio yn y sector creadigol a diwylliannol yng Nghymru.
Rydym wedi ymrwymo i roi cymorth i artistiaid sy’n gweithio ym myd y theatr, comedi, dawns, cerddoriaeth fyw, theatr stryd a syrcas i wneud gwaith gwych, gyda ffocws penodol ar artistiaid sy’n gweithio yn Ne Cymru. Mae gennym ddiddordeb mewn meithrin syniadau a photensial.
Sut yr ydym yn penderfynu ar bwy i roi cymorth iddo
Mae llawer o geisiadau am gymorth yn dod i law ac yn anffodus ni allwn gynorthwyo â phopeth. I’w gwneud yn haws i artistiaid a chwmnïau sydd â diddordeb mewn gweithio gyda ni, rydym wedi llunio canllawiau ar sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau o ran beth i roi cymorth iddo:
- Rydym yn agored i roi cymorth i syniadau ar y cam ymchwil a datblygu ac ar y cam cynhyrchu lle byddem yn ystyried cynnwys y gwaith gorffenedig yn ein rhaglen. Y gynulleidfa sydd wrth wraidd pob penderfyniad a wneir. Rydym yn ymroi o’n hamser, ein gofod a’n hadnoddau i roi cymorth i artistiaid yng Nghanolfan Glan yr Afon oherwydd ein bod eisiau i artistiaid wneud gwaith sy’n berthnasol i’n cynulleidfaoedd. Rydym eisiau sicrhau bod ein rhaglen yn cynrychioli ein cymuned. Gallwch gael mwy o wybodaeth am ein polisi rhaglennu yma
- Rydym eisiau clywed gan artistiaid sy’n gweithio ledled Cymru a’r DU, er y byddwn bob amser yn rhoi blaenoriaeth i artistiaid a chwmnïau sy’n gweithio yn ardal Casnewydd a Gwent.
-
Mae gwrthdaro yn ein dyddiadur a diffyg gofod yn yr adeilad yn golygu weithiau nad ydym yn gallu rhoi cymorth i artist ar adeg benodol. Gorau po gyntaf y byddwch yn cysylltu â ni. Nid oes rhaid i chi fod wedi sicrhau cyllid cyn i chi gysylltu â ni.
Beth fyddwn yn gofyn amdano yn gyfnewid?
- Byddwn bob amser yn rhoi Cytundeb Artist i chi yn crynhoi’r trafodaethau a gawsom a’r cynlluniau y cytunwyd arnynt. Bydd hyn yn sicrhau y byddwch yn gwybod beth y gallwn ddisgwyl gan ein gilydd fel partneriaid.
- Wrth roi cymorth i artistiaid a gweithio gyda nhw, rydym yn disgwyl i’r artistiaid a’r sefydliadau hynny ymgysylltu â’r adeilad - os ydych yn cael amser da, rhowch wybod i bobl! Ac os nad ydych, rhowch wybod i ni! Rydym yn gwerthfawrogi gonestrwydd - bydd yn ein helpu i feithrin a gwella’r hyn a gynigir gennym.
- Yn dibynnu ar lefel y cymorth, byddwn fel arfer yn disgwyl cael y gydnabyddiaeth ‘Â chefnogaeth Glan yr Afon’ ar unrhyw wybodaeth hyrwyddo (ar bob cam o’r gwaith datblygu / cynhyrchu).
- Rydym wedi ymrwymo i un cyd-gynhyrchiad ar raddfa stiwdio theatr bob tymor llyfryn (hydref/gaeaf a gwanwyn/haf), a gallwch ddysgu mwy am hynny yma.
- Os ydym yn rhoi cymorth i’ch datblygiad, byddwn yn disgwyl cael ein cynnwys mewn trafodaethau a gwaith cynllunio teithiau yn y dyfodol (fel y bo’n briodol). Os ydych yn perfformio yng Nglan yr Afon fel rhan o’r cynhyrchiad gorffenedig, byddwn yn trafod rhannu elw’r swyddfa docynnau gyda chi mewn modd sydd o’ch plaid chi, gyda chanran yn dod yn ôl i’r theatr.
Cysylltu â ni…
Ein Tîm Creadigol sy’n arwain y rhan fwyaf o’r gwaith o roi cymorth i artistiaid yng Nghlan yr Afon, felly dylech gysylltu â nhw yn y lle cyntaf. Anfonwch e-bost at jamie.anderson@newportlive.co.uk gyda chymaint o wybodaeth ag y gallwch am eich syniad:
Fel arfer, mae angen i ni sefydlu rhyw lefel o bartneriaeth gydag artist neu sefydliad cyn y gallwn gynnig y lefelau uchod o gymorth. Felly, y peth cyntaf i’w wneud bob tro yw cysylltu gyda chymaint o wybodaeth â phosibl.
- Beth yw eich syniad
- Pam eich bod eisiau siarad gyda Glan yr Afon amdano
- Amserlen (os yn hysbys)
Os oes gennych sioe fyw yr hoffech i ni ei hystyried ar gyfer ein rhaglen stiwdio theatr, gallwch ddarllen mwy am ein Polisi Rhaglennu Theatr Stiwdio yma ac yna e-bostiwch programming@newportlive.co.uk. Fel arfer rydym yn rhaglennu sioeau ar gyfer ein theatr stiwdio chwech i ddeuddeg mis ymlaen llaw felly sicrhewch eich bod yn neilltuo digon o amser ar eich cyfer eich hun.