Mae ein cwrs 3 Diwrnod Cymorth Cyntaf yn y Gwaith yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr sy'n cael rôl Swyddog Cymorth Cyntaf yn y gwaith. Mae'n rhoi gwybodaeth gynhwysfawr i chi am gymorth cyntaf a'r hyder i'w ddefnyddio.
Ymdrinnir ag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys:
-
Gallu asesu digwyddiad
-
Rhoi cymorth cyntaf i glaf sy’n anymwybodol (gan gynnwys trawiad)
-
Gallu adnabod rhywun sydd ag anaffylacsis
-
Gallu defnyddio chwistrellwr awto yn ddiogel ar gyfer trin rhywun gydag anaffylacsis
-
Gweinyddu cymorth cyntaf i rywun ag anafiadau i esgyrn, cyhyrau a chymalau, gan gynnwys anafiadau tybiedig i'r asgwrn cefn
-
Adfywio cardio-pwlmonaidd. (CPR)
-
Rheoli gwaedu difrifol
-
Rheoli anafiadau i'r asgwrn cefn
-
Rheoli tagu ymwybodol ac anymwybodol
Mae'r cwrs yn defnyddio cyfuniad o ddatblygu gwybodaeth, datblygu sgiliau ac arfer senario realistig i sicrhau bod gan gyfranogwyr yr hyder yn eu gallu i ddarparu gofal pan fydd sefyllfaoedd brys yn codi.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys asesiad ymarferol ac arholiad amlddewis.
Dyddiadau'r Cwrs
Dydd Mercher, 30 Awst 2023
10am - 6pm
Canolfan Byw'n Egnïol
Dydd Iau, 31 Awst 2023
10am – 6pm
Canolfan Byw'n Egnïol
Dydd Gwener, 1 Medi 2023
10am – 6pm
Canolfan Byw'n Egnïol
Dylai dysgwyr wisgo dillad priodol a chyfforddus fel trowsus ac esgidiau gwastad, ac mae'n ofynnol cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu ymarferol a chymhwyso sgiliau.
Mae'r cymhwyster hwn yn ddilys am gyfnod o 3 blynedd. Dylai'r ymgeiswyr ail-gymryd y cymhwyster hwn cyn i'r dystysgrif ddod i ben er mwyn parhau'n gymwys. Er nad yw'n orfodol, argymhellir bod dysgwyr yn diweddaru eu gwybodaeth yn flynyddol.
Cost y cwrs: £220
Gofynion ymgeiswyr:
-
Rhaid bod yn 16 oed ar ddyddiad yr asesiad.
-
Rhaid cwblhau'r cwrs llawn a'r holl oriau dysgu.
-
Cânt eu hasesu yn erbyn yr holl ganlyniadau dysgu yn yr unedau a gymerir.
I archebu lle ar y cwrs ffoniwch 01633 656757 neu e-bostiwch andrew.mort@newportlive.co.uk.