Mae Canolfan Tennis Casnewydd yn cynnal cyrsiau i blant 4-18 oed, sy’n llawn gemau hwyl a hyfforddiant deinamig.
Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal gan hyfforddwyr LTA cwbl gymwysedig sy'n sicrhau bod taith tennis pob plentyn yn digwydd mewn amgylchedd diogel a chynhwysol. Mae'r sesiynau'n darparu ar gyfer pob gallu, cymerwch olwg ar y gwahanol gamau Ieuenctid isod:

Tenis i'r Rhai Bach
Mae tenis tots yn ffordd hwyliog o gyflwyno plant i raced denis a hanfodion y gamp gan ddefnyddio gweithgareddau, ymarferion a gemau hwyliog.
Mae sesiynau wedi'u hanelu at ddatblygu ystwythder, cydbwysedd a chydlyniant, gan ganolbwyntio ar fwynhad.
Caiff chwaraewyr gyfle i gwrdd â phlant eraill ac annog rhyngweithio cymdeithasol.
Bydd rhieni/gwarchodwyr yn cael eu hannog i ddod ar y cwrt i helpu eu plant gydol y sesiynau, felly gwisgwch esgidiau ymarfer os gwelwch yn dda. Mae'n ffordd wych i chi fod yn actif gyda'ch gilydd!
Cynhelir sesiynau ar Dydd Llun am 1:15pm & 3:45pm ar Dydd Sul am 9:15am, £4.70 y plentyn.
Ffoniwch 01633 656757 neu ewch i’r dderbyn fa i sicrhau lle.
*Offer wedi'i ddarparu. Rhaid i oedolion fod yn bresennol yn ystod sesiwn.
Archebwch Nawr
Cam Glas (4 – 6 oed)
Mae'n rhoi'r cyflwyniad perffaith i fyd tennis, nid yr ennill na'r colli sy’n bwysig, ond dysgu'r sgiliau tennis sylfaenol. Bydd defnyddio peli meddal, racedi llai a chyrtiau llai yn helpu plant i wella eu cydbwysedd, eu hystwythder a'u cydsymudiad, wrth ddysgu popeth am y gamp rydym yn ei charu!
£30.25 y mis drwy Ddebyd Uniongyrchol.
Ymuno!
Cam Coch (6 – 8 oed)
Bydd y cam hwn yn edrych ychydig yn debycach i'r tennis rydych chi'n ei adnabod, serfiadau dros yr ysgwydd, ralïau, folïau a sgorio pwyntiau. Bydd cystadlaethau hamddenol yn cael eu cyflwyno, ond peli meddal a chyrtiau bach fydd yn cael eu defnyddio o hyd. Bydd plant yn dysgu popeth sydd angen ei wybod am y gêm sydd o'u blaenau. Bydd hyfforddwyr yn helpu plant i ddatblygu eu cydsymudiad, eu cydbwysedd a'u cyflymder ymhellach.
£30.25 y mis drwy Ddebyd Uniongyrchol.
Ymuno!
Cam Oren (8- 9 oed)
Mae’n bryd paratoi’r plant at ddod yn bencampwyr tennis y dyfodol drwy ddefnyddio’r holl sgiliau y maent wedi'u dysgu hyd yn hyn yn ogystal â rhywfaint o dactegau, sgiliau datrys problemau, a chanllawiau ar chwarae teg ac arweinyddiaeth yn y gamp. Ar y cam hwn bydd plant yn gwybod yr holl reolau a byddant yn serfio ac yn dychwelyd mewn gemau.
Bydd y gwersi'n dal i ddefnyddio peli meddal, racedi llai a chyrtiau llai.
£31.15 y mis drwy Ddebyd Uniongyrchol.
Ffoniwch 01633 656757 neu ewch i’r dderbynfa i gadw lle.
Ymuno!
Cam Gwyrdd (9 - 10 oed)
Mae'n bryd i blant fynd i'r cwrt maint llawn wrth iddynt fynd ati i ddatblygu eu gêm drwy fireinio’r technegau maen nhw wedi'u dysgu hyd yn hyn. Bydd hyfforddwyr yn helpu plant i ddatblygu serfiadau mwy cyson, sgiliau rali a sgorio pwyntiau.
£31.15 y mis drwy Ddebyd Uniongyrchol.
Ffoniwch 01633 656757 neu ewch i’r dderbynfa i gadw lle.
Ymuno!
Cam Melyn (10+ oed)
Gan chwarae ar gwrt llawn gyda pheli’r un maint â’r rhai mae’r chwaraewyr proffesiynol yn eu defnyddio, bydd plant yn parhau i archwilio gwahanol ddulliau gêm ar y cwrt ac yn dechrau dod o hyd i’w harddull eu hunain.
Mae gwersi'n dilyn dull sy'n seiliedig ar gemau a bydd chwaraewyr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn twrnameintiau drwy gydol y flwyddyn.
£31.15 y mis drwy Ddebyd Uniongyrchol.
Ymuno!Cynhyrchion Tenis
Cymerwch olwg ar yr amrywiaeth wych o gynhyrchion tenis rydym yn eu gwerthu yn lleoliadau Casnewydd Fyw.
Gweld Cynhyrchion Tenis