Rhaglen Nofio Ieuenctid ac Oedolion
Mae Casnewydd Fyw yn cynnig rhaglen Nofio Ieuenctid ac Oedolion (Gradd Meistr ffurfiol) a all eich helpu i gyflawni eich nodau nofio!
P'un a ydych yn chwilio am welliannau yn eich techneg nofio a'ch sgiliau neu'n awyddus i ymgymryd â sesiynau hyfforddi gyda chymorth hyfforddwr dynodedig i wella eich lefel ffitrwydd, mae'r sesiynau hyn i chi!
Mae Rhaglen Nofio Ieuenctid ac Oedolion Casnewydd Fyw yn darparu ar gyfer y rhai sy'n anelu at:
- Ddysgu nofio lôn ac ymddygiad priodol
- Adeiladu techneg strôc fwy effeithlon ac effeithiol, gan eich galluogi i arbed egni a nofio'n gyflymach yn y dŵr.
- Gwella eich lefelau ffitrwydd drwy reoli’r anadl yn y dŵr yn ogystal â nofio i roi ymarfer llawn i'ch corff.
- Hyfforddiant i nofio mewn cystadlaethau Meistr neu edrych i gymryd rhan mewn triathlon, cyfarfodydd nofio, digwyddiadau dŵr agored, neu her elusennol ac mae angen rhaglen hyfforddi hyblyg.
Mae'r rhaglen Nofio Ieuenctid ac Oedolion hefyd yn gweithredu fel porth i Nofio Meistr Cystadleuol drwy gysylltu â Chlwb Nofio a Pholo Dŵr Dinas Casnewydd.
Yn addas ar gyfer 13+ oed.