Chwilio am wersi nofio?
Mae gwersi nofio ar gael yn lleoliadau Casnewydd Fyw.
Gwersi Nofio i Blant
Mae dysgu sut i nofio yn sgìl bywyd allweddol i unrhyw blentyn! Rydym yn cynnig rhaglen Dysgu Nofio Nofio Cymru sy'n addysgu'r sgiliau a'r technegau i blant aros yn ddiogel o amgylch dŵr a mwynhau manteision iechyd gweithgareddau yn y dŵr.
Gwersi Nofio i Oedolion
Mae Casnewydd Fyw yn ymroddedig i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i ddysgu sut i nofio ac yn mwynhau’r manteision iechyd y mae gweithgareddau yn y dŵr yn eu cynnig. Mae ein gwersi nofio i oedolion ar gael i bawb; yn bobl nad ydynt yn nofwyr sydd eisiau mentro ychydig i’r dŵr am y tro cyntaf, yn rhai sy'n edrych i oresgyn eu hofn o ddŵr neu bobl sydd ddim ond eisiau gwella eu techneg cyn cystadleuaeth.
Rhaglen Nofio Ieuenctid ac Oedolion
Mae Casnewydd Fyw yn cynnig rhaglen Nofio Ieuenctid ac Oedolion (Gradd Meistr ffurfiol) a all eich helpu i gyflawni eich nodau nofio!
Hyfforddiant Achub Bywydau
Mae Casnewydd Fyw yn cynnig Rhaglen Achub Bywyd i Ddechreuwyr i blant sydd wedi pasio eu gwersi Academi 6 ac a hoffai ddilyn llwybr achub bywyd neu achubwr bywyd.
Cymhwyster Achub Bywyd Cenedlaethol y Gymdeithas Frenhinol er Achub Bywydau
Mae'r cwrs yn para 36+ awr ac mae'n cynnwys atal damweiniau, achub dŵr, gweithdrefnau cymorth cyntaf/dadebru a mwy!
Aelodaeth Nofio
Yn ogystal â'n haelodaeth lawn, rydym yn cynnig aelodaeth ar gyfer nofio yn unig.
Aelodaeth