Mae dysgu sut i nofio yn sgìl bywyd allweddol i unrhyw blentyn!
Rydym yn cynnig rhaglen Dysgu Nofio Nofio Cymru sy'n addysgu'r sgiliau a'r technegau i blant aros yn ddiogel o amgylch dŵr a mwynhau manteision iechyd gweithgareddau yn y dŵr.
I weld argaeledd ar ein rhaglen nofio, siaradwch â’n timau derbynfa neu ffoniwch ein tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid ar 01633 656757.
Swigod 1 & 2
Mae Swigod yn gyflwyniad i’r amgylchedd dŵr gyda chefnogaeth lawn i fabanod a phlant ifanc sydd yng nghwmni oedolyn, wedi’i anelu’n benodol at blant 0-18 mis oed.
Swigod 3 & 4
Mae Swigod yn gyflwyniad i’r amgylchedd dŵr gyda chefnogaeth lawn i fabanod a phlant ifanc sydd yng nghwmni oedolyn, wedi’i anelu’n benodol at blant 18-36 mis oed.
Sblash
Mae Sblash yn annog plant ifanc i ddod yn fwyfwy annibynnol, ac i ddarganfod yr amgylchedd dŵr dan gyfarwyddyd, er mwyn datblygu eu hyder yn y dŵr. Mae wedi’i anelu at blant 3+ oed.
Academïau
Mae Academïau Casnewydd Fyw yn cynnig cyfle i blant ddatblygu eu techneg nofio a'u sgiliau yn raddol mewn amgylchedd sy’n hwyl a braf.
Academi 1 a 2
Academi 1 a 2 yw’r wers i ddechreuwyr ar gyfer plant 7-12 oed yn unig. Yn dilyn Rhaglen Dysgu Nofio, Nofio Cymru, mae ein hacademïau yn canolbwyntio ar ddatblygu pob un o'r pedair techneg strôc nofio mae eu hangen i symud ymlaen i amrywiaeth o weithgareddau dŵr.
Academïau 2 – 6
Yn dilyn Rhaglen Dysgu Nofio Nofio Cymru, mae ein hacademïau yn canolbwyntio ar ddatblygu pob un o'r pedair techneg strôc nofio mae eu hangen i symud ymlaen i amrywiaeth o weithgareddau dŵr.
Llawn ar hyn o bryd
Academïau 7 ac 8
Canolbwyntio ar dechneg a sgiliau nofio uwch ac amrywiol.
Mae Academïau 7 ac 8 yn rhan o Glwb Nofio a Pholo Dinas Casnewydd, sy'n rhoi cyfle i nofwyr hyfforddi ar lefel gystadleuol neu ddysgu sgiliau dŵr arbenigol.
Mae angen Aelodaeth Flynyddol gyda Nofio Cymru ar nofwyr sydd am gystadlu, am ragor o wybodaeth ewch i swimwales.org
Llawn ar hyn o bryd
Gwersi Nofio Iau
Rydyn ni'n cynnig gwersi nofio i blant ychydig yn hŷn sydd am gychwyn eu taith Dysgu Nofio . Bydd gwersi'n canolbwyntio ar sgiliau a datblygiad yn ogystal â diogelwch dŵr gan alluogi plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y dŵr.
Cysylltu â niHome Portal
Rheolwch wersi eich plentyn ar-lein gyda Home Portal. Y cyfan sydd angen ei wneud yw mewngofnodi a thracio cynnydd eich plentyn yn erbyn y meini prawf a bennwyd ar gyfer ei gyfnod cyfredol yn y gwersi nofio. Gallwch hefyd symud eich plentyn i ddosbarth gwahanol ar ôl iddo basio ei gyfnod penodol.
I gofrestru gyda Home Portal, bydd angen y canlynol arnoch:
- Cerdyn adnabod eich plentyn sydd ar gerdyn nofio eich plentyn. Neu, cysylltwch â ni ar 01633 656757 neu e-bostiwch customerservice@newportlive.co.uk
- Dyddiad geni eich plentyn
- Naill ai cyfeiriad e-bost neu god post sy'n cyfateb i'r un a gofnodwyd yn ein cronfa ddata
- Ewch i newportlive.courseprogress.co.uk
- Yna, bydd gennych yr opsiwn i gofrestru pob plentyn sy'n defnyddio'r un cyfeiriad e-bost.
- Anfonir e-bost actifadu ac ar ôl ei dderbyn gallwch actifadu eich cyfrif trwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
Aelodaeth Misol ar gyfer Gwersi Nofio
Mae’r Aelodaeth Misol ar gyfer Gwersi Nofio ar gael am £22.70 y mis. I gofrestru ar gyfer yr aelodaeth Debyd Uniongyrchol ffoniwch 01633 656757 neu ewch i’r dderbynfa.
Cysylltu â niYmunwch â'n Cylchlythyr
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am Newport Live gan gynnwys ein rhaglen nofio i blant a gweithgareddau dyfrol.
Cofrestrwch Nawr