Hwyl a Ffitrwydd yn y Pwll
Am roi cynnig ar y sesiwn daioni yn y dŵr ddiweddaraf, diddanu eich plant yn ystod gwyliau’r ysgol, gwella’ch nofio neu gael parti pen-blwydd yn y dŵr? Mae gennym rywbeth i bawb yn ein phwll ar draws y ddinas!
Dosbarthiadau Ffitrwydd yn y Dŵr
Gallwch wneud ymarfer corff yn y dŵr heb nofio hyd y pwll. Mae ein dosbarthiadau ffitrwydd yn y dŵr yn cyfuno erobeg yn y dŵr gyda symudiadau cryfder a chyflyru sy'n siŵr o gael eich calon i guro. Mae ein dosbarthiadau yn ffordd hwyliog a chymdeithasol o aros yn actif.
Clybiau
Rydym yn cynnig ystod wych o glybiau campau dŵr y gallwch roi cynnig arnyn nhw! Beth am roi cynnig ar ganŵio, neu sesiynau gyda Chlwb Hoci Tanddwr Caerdydd a Chasnewydd
Gweithgareddau Hwyl yn y Pwll
O offer dŵr enfawr i ddisgos pwll, mae gennym lawer i ddiddanu’r plant yn ein pyllau nofio!
Partïon Pen-blwydd yn y Pwll
Heriwch y peiriant tonnau, rhowch gynnig ar y sleid enfawr neu dewch i gael hwyl yn ardal y traeth yng Nghanolfan Casnewydd. Mwynhewch ddisgo pwll, hwyl teganau aer a gemau gwallgof yn y Ganolfan Byw’n Actif. Gall rhieni a phlant bach fwynhau tasgu dŵr a chael hwyl yn y pwll addysgu yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol.