Mae Momentwm yn brosiect i helpu i annog trigolion, cymudwyr ac ymwelwyr yng Nghasnewydd a'r cyffiniau i newid y ffordd maen nhw'n meddwl am ac yn dewis teithio yn y ddinas.
Ein nod yw cefnogi pobl i deithio’n fwy llesol ac i ddewis opsiynau teithio sy'n well iddyn nhw, i’n hamgylchedd ac i genedlaethau'r dyfodol.
Bydd y cynlluniau hyn yn helpu pobl i leihau eu costau teithio, yn gwella ansawdd ein hamgylchedd lleol, yn helpu i leihau tagfeydd ar y ffyrdd ac yn gwireddu’r manteision iechyd corfforol a meddyliol y mae ffordd o fyw mwy actif yn eu cynnig.
Ysbrydoli beicio, cerdded a defnyddio olwynion ar gyfer dinas hapusach ac iachach
Mae Momentwm yn brosiect a gyflwynir gan Casnewydd Fyw drwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, Trafnidiaeth Cymru, Uned Cyflenwi Burns a Llywodraeth Cymru.