Ein nod yw annog mwy o deithiau o amgylch y ddinas ar feic. Rydym yn cynnig sesiynau am ddim gyda hyfforddwyr cymwysedig i wella eich sgiliau beicio, beth bynnag yw eich lefel sgiliau bresennol.
Sesiynau Sgiliau Beicio i Oedolion o bob gallu, o'r rhai nad ydynt erioed wedi reidio beic o'r blaen i'r rhai sydd am wella eu sgiliau. Gofynnwn i bawb fynychu sesiwn "Hanfodion Beicio" (Lefel 1) yn gyntaf fel y gallwn asesu eu lefel sgiliau bresennol. Mae'r sesiynau yn agored i bobl 18 oed neu hŷn ac maen nhw am ddim.
Hanfodion Beicio (Lefel 1)
Sesiynau galw heibio i bobl sydd erioed wedi reidio beic neu sydd heb reidio ers amser maith. Mae'r sesiynau hyn yn cael eu cynnal mewn amgylcheddau di-draffig, sy'n eich galluogi i wella eich sgiliau a'ch hyder.
Llwybrau Beicio (Lefel 2)
Mae'r sesiynau strwythuredig hyn yn eich tywys ar hyd llwybrau defnydd a rennir, lle byddwch yn dechrau defnyddio llwybrau tawel i ffwrdd o draffig ffyrdd a dysgu sgiliau newydd ar strydoedd preswyl tawel
Ar y Ffordd (Lefel 3)
Bydd ein bloc olaf o sesiynau'n dangos i chi sut i reidio'n ddiogel ar ffyrdd, gan roi'r hyder i chi allu reidio ledled Casnewydd.
Archebwch Nawr GWELER EIN FAQS MOMENTWM Cysylltu â ni
Darperir yr holl offer gan gynnwys beiciau a helmedau. Mae croeso i chi ddod â'ch beic eich hun ar yr amod ei fod mewn cyflwr da ac yn addas ar gyfer dysgu a reidio mewn grŵp.
Nid oes angen dillad beicio penodol ar gyfer y sesiynau - ceisiwch osgoi gwisgo dillad llac, yn enwedig trowsus llac, i'w hatal rhag cael eu dal yn y beic. Gallwch wisgo unrhyw fath o esgidiau rydych yn teimlo'n gyffyrddus â nhw, cyn belled â'u bod yn gorchuddio'r traed cyfan, h.y. dim sandalau nac esgidiau agored.
Ymuno Â'n Cylchlythyr
Cewch y newyddion diweddaraf a diweddariadau ynghylch Momentwm, gan gynnwys sesiynau, digwyddiadau a chymorth i fusnesau sydd am fod yn gyflogwr sy’n hyrwyddo beicio.
Cofrestru Nawr