Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Cynhwysol
Mae Casnewydd Fyw yn sefydliad cynhwysol, ac rydym yn darparu nifer o raglenni a mentrau i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb.

Chwaraeon Anabledd
Mae Rhaglen Datblygu Cymunedol Genedlaethol Chwaraeon Anabledd Cymru yn gynllun cenedlaethol sydd â'r nod o ddatblygu a chynnal cyfleoedd chwaraeon a hamdden o ansawdd yn y gymuned i bobl anabl.
Cyflwynwyd Safon Aur insport i Gasnewydd Fyw, mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, yn swyddogol gan Chwaraeon Anabledd Cymru ar 13 Mai 2024, yr ardal awdurdod lleol gyntaf yng Nghymru, gan gydnabod ein hymrwymiad parhaus i anabledd a chynhwysiant.
Mae tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Fyw yn gweithio i ddatblygu cyfleoedd chwaraeon a hamdden i bobl anabl yng Nghasnewydd. Yn ninas Casnewydd, mae digon o ffyrdd i bobl ag anabledd gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol trwy wirfoddoli, hyfforddi a chymryd rhan. Mae'r Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol bob amser yn ymdrechu i ehangu'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl anabl a gwneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghasnewydd yn fwy cynhwysol.
Gweler rhestr isod o rai o'r cyfleoedd cynhwysol sydd ar gael yng Nghasnewydd. Os oes chwaraeon neu weithgaredd yr hoffech gael mwy o wybodaeth am hynny nad yw isod neu os oes gennych wybodaeth am gyfleoedd i'w hychwanegu at y rhestr, cysylltwch â Thomas.hole@newportlive.co.uk.
Lawrlwythwch ein cynghorion gorau ar gyfer helpu clybiau i wneud eich Cyfryngau cymdeithasol a’ch Deunyddiau print yn hygyrch i bawb.
Amserlen Chwaraeon Anabledd
Hon yw’r amserlen ddiweddaraf, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn ffonio'r clybiau ymlaen llaw i wneud yn siŵr nad oes unrhyw newidiadau munud olaf neu ganslo. I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau penodol, cysylltwch â Thomas.hole@newportlive.co.uk neu customerservice@newportlive.co.uk.
Mae'r clwb gymnasteg cynhwysol Head Over Heels yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau.
Amserlen: https://hohgymnastics.co.uk/timetable/
Gwefan: www.hohgymnastics.co.uk
Cyswllt: info@hohgymnastics.co.uk
Amser: Dydd Llun 6.30 - 8pm a Dydd Gwener 5.30 - 7pm
Lleoliad: Canolfan Byw’n Actif
Cyswllt: Casnewydd Fyw
01633 656757
Aml-chwaraeon ar gyfer 16+ oed
Lleoliad: Felodrom Geraint Thomas
Cyswllt: multisport@multisport-shw.co.uk
Sesiynau athletau.
Amser: Mawrth ac Iau
Lleoliad: Stadiwm Casnewydd
Cyswllt: customerservice@newportlive.co.uk
Mae amrywiaeth o weithgareddau ar gael.
Amser: Amrywiol
Lleoliad: Canolfan Blant Serennu, Cwrt Camlas, Ty-du, Casnewydd NP10 9LY
Gwefan: www.sparkleappeal.org
Cyswllt: Family.Liaison.ABB@wales.nhs.uk
Mae beiciau wedi'u haddasu ac â 2 olwyn ar gael. Gellir llogi beic am slot hyd at awr, a hynny am ddim i drigolion Casnewydd. Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan.
Gellir archebu sesiynau ar ein gwefan, drwy ein ap a thrwy ffonio 01633 656757.
Amser: Dydd Mercher a Dydd Sadwrn, 10am – 3pm
Lleoliad: Parc Tredegar, Heol Caerdydd, Casnewydd.
Cyswllt: customerservice@newportlive.co.uk / 01633 656757
Nodwch fod y sesiynau yn rhedeg rhwng mis Mawrth a mis Hydref yn unig.