Mae amrywiaeth eang o feiciau ar gael i'w defnyddio yn ystod y sesiynau gan gynnwys cludwr cadair olwyn, beiciau llaw sengl a dwbl, beiciau gorwedd tair olwyn, tandem Roam, beiciau tair olwyn i oedolion a phlant, beiciau tandem â gyriant cefn a beiciau hybrid.

Beic Tandem Roam
Beic â dwy sedd, gall y ddau feiciwr bedlo ond y beiciwr ar y dde sy’n rheoli’r llywio a’r brecio felly gall y beiciwr ar y chwith feicio mewn gêr sefydlog, olwyn rydd neu niwtral.
Addas ar gyfer:
- Beicwyr sy’n dysgu pedlo.
- Beicwyr nad ydynt yn hyderus yn llywio neu’n brecio.
- Beicwyr nad ydynt yn gallu beicio'n annibynnol.

Tandem Cyfochrog
Beic tandem cyfochrog â dwy sedd; mae gan y ddau feiciwr yr opsiwn i bedlo ond mae llywio a brecio’n cael eu rheoli gan un o’r beicwyr yn unig.
Addas ar gyfer:
- Beicwyr sy’n dysgu pedlo.
- Beicwyr nad ydynt yn hyderus yn llywio neu’n brecio.
- Beicwyr nad ydynt yn gallu beicio'n annibynnol.

Cludwr Cadair Olwyn
Beic cludo ar gyfer defnyddiwr cadair olwyn sy'n caniatáu iddo reidio'r beic heb adael ei gadair olwyn.
Addas ar gyfer:
- Defnyddwyr cadeiriau olwyn nad ydynt yn dymuno gadael eu cadeiriau olwyn.
Sylwch fod terfyn pwysau ar y beic hwn.

Beic Gorwedd Tair Olwyn
Beic tair olwyn sy'n rhoi'r beiciwr mewn siâp lle mae’n gorwedd yn ôl ychydig, sy’n rhoi’r gallu iddo ddosbarthu ei bwysau’n gyfforddus ar draws ardal ehangach.
Hwn yw’r dewis gorau ar gyfer:
• Y rhai sydd angen rhagor o gynhaliaeth i’w cefnau neu sedd fwy.
• Y rhai sy'n ei chael hi'n anodd cydbwyso ar feic tair olwyn.

Beic Tair Olwyn i Oedolion
Beic tair olwyn sy'n caniatáu i feiciwr fod yn hyderus ynghylch ei gydbwysedd a chanolbwyntio ar lywio a phedlo.
Hwn yw’r dewis gorau ar gyfer:
- Y rhai sy'n ei chael hi’n anodd cydbwyso neu gydsymud.
- Y rhai sydd am ganolbwyntio ar lywio a phedlo heb boeni am gydbwysedd.

Beic Tair Olwyn i Blant/Bobl Ifanc
Beic tair olwyn sy'n caniatáu i feiciwr fod yn hyderus ynghylch cydbwysedd a chanolbwyntio ar lywio a phedlo.
Hwn yw’r dewis gorau ar gyfer:
- Y rhai sy'n ei chael hi’n anodd cydbwyso neu gydsymud.
- Y rhai sydd am ganolbwyntio ar lywio a phedlo heb boeni am gydbwysedd.

Beic Tair Olwyn i Blant

Beic Llaw Dwbl
Beic â dwy sedd sy'n cael ei yrru gan y breichiau.
Addas ar gyfer:
- Y rhai y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt i yrru'r beic.
- Beic cymdeithasol.
- Y rhai sy'n ei chael hi’n rhy anodd defnyddio pedalau â'u traed.
- Y rhai sydd am ddatblygu cryfder rhan uchaf y corff.
- Beicwyr nad ydynt yn gallu beicio'n annibynnol.

Beic Llaw Unigol
Beic tair olwyn sy'n cael ei yrru gan y breichiau.
Addas ar gyfer:
- Y rhai sy'n ei chael hi’n rhy anodd defnyddio pedalau â'u traed.
- Y rhai sydd am ddatblygu cryfder rhan uchaf y corff.

Treics Twdlod
Beic bach â thair olwyn sy'n caniatáu i feiciwr fod yn hyderus ynghylch cydbwysedd a chanolbwyntio ar lywio a phedlo.
Gorau ar gyfer:
- Y rhai sy'n ei chael hi’n anodd cydbwyso neu gydsymud.
- Y rhai sydd am ganolbwyntio ar lywio a phedlo heb boeni am gydbwysedd.
- Y rhai sydd angen cefnogaeth gyda llywio/brecio.

Treics Plant
Beic bach tair olwyn sy'n caniatáu i feiciwr fod yn hyderus ynghylch cydbwysedd a chanolbwyntio ar lywio a phedlo.
Gorau ar gyfer:
- Y rhai sy'n ei chael hi’n anodd cydbwyso neu gydsymud.
- Y rhai sydd am ganolbwyntio ar lywio a phedlo heb boeni am gydbwysedd.
- Y rhai sydd angen cefnogaeth gyda llywio/brecio

Treics Plant Iau
Beic tair olwyn sy'n caniatáu i feiciwr fod yn hyderus ynghylch cydbwysedd a chanolbwyntio ar lywio a phedlo.
Gorau ar gyfer:
- Y rhai sy'n ei chael hi’n anodd cydbwyso neu gydsymud.
- Y rhai sydd am ganolbwyntio ar lywio a phedlo heb boeni am gydbwysedd.
- Y rhai sy'n cael trafferth pedlo.