Bydd Casnewydd yn croesawu arddangosfa 80 mlwyddiant Cymru a Brwydr Prydain y mis Medi hwn fel rhan o ddigwyddiadau coffáu cenedlaethol sy'n nodi pennod bwysig yn hanes yr Ail Ryfel Byd.
Er y bydd y daith yn coffáu pawb a ymladdodd yn y Frwydr, canolbwyntir yn bennaf ar y criw awyr Cymreig, gan adrodd eu straeon a'u harwriaeth i gynulleidfa Gymreig fodern.
Bydd yr arddangosfa am ddim ac ar agor bob dydd i'r cyhoedd yn Theatr Glan yr Afon rhwng 20 a 24 Medi.
Mae Brwydr Prydain, y frwydr awyr fwyaf erioed, yn un o'r adegau mwyaf allweddol ac eiconig yn hanes y wlad hon. Roedd yn drobwynt yn yr Ail Ryfel Byd pan safodd Prydain ar ei phen ei hun yn erbyn grym milwrol Hitler, nad oedd atal arno yn ôl pob golwg.
Bydd yr arddangosfa hon yn gyfle perffaith i nifer o bobl yng Nghasnewydd gofio am arwriaeth yr Ychydig Rai.
Dywedodd y Comodor Awyrlu Adrian Williams, Swyddog Awyr Cymru, uwch swyddog yr RAF yng Nghymru: "Rydw i wrth fy modd bod yr Arddangosfa Hanesyddol Cymru a Brwydr Prydain yn dod i Gasnewydd.
Mae'r arddangosfa’n adrodd y stori o safbwynt Cymreig am y tro cyntaf, gan gynnwys gwybodaeth am sut y cyfrannodd gorsafoedd yr RAF yng Nghymru, ynghyd â chymunedau lleol ledled Cymru, i gyd at fuddugoliaeth ym 1940".
Yn ystod haf 1940, roedd pobl gwledydd Prydain yn paratoi am ymosodiad gan yr Almaenwyr, ond cyn iddynt allu gwneud hyn roedd yn rhaid i'w harweinydd ennill goruchafiaeth yn yr awyr.
Lansiodd y Luftwaffe, a oedd yn cynnwys 2,600 o awyrennau, ymosodiad mawr, gyda'r bwriad o ddinistrio amddiffynfeydd awyr gwledydd Prydain - Rheolaeth Awyrennau Ymladd y Llu Awyr Brenhinol o 640 o awyrennau.
Gwrthsafodd peilotiaid yr RAF, a ddaeth yn adnabyddus fel 'Yr Ychydig Rai,' don ar ôl ton o ymladdwyr a bomwyr Almaenig, gan anfon neges glir i'r gelyn na fyddai Prydain byth yn ildio. Roedd gan yr RAF 3,000 o beilotiaid yn gwasanaethu gyda’r Rheolaeth Awyrennau Ymladd, gydag oedran cyfartalog o 20.
Er bod gan y gelyn fwy o niferoedd na Rheolaeth Awyrennau Ymladd yr RAF ym mis Gorffennaf 1940, cynyddodd Prydain gynhyrchiant ei ffatrïoedd ac erbyn mis Hydref yr un flwyddyn, roedd gan y Rheolaeth Awyrennau Ymladd fwy o awyrennau ymladd na'r Luftwaffe.
Cyflawnodd yr RAF fuddugoliaeth yn yr awyr ym mis Hydref 1940 a chanslodd Hitler ei gynlluniau goresgyn. Dywedodd y Prif Weinidog ar adeg y rhyfel, Winston Churchill: "Nid oes cymaint, drwy gydol hanes gwrthdaro dynol, erioed wedi bod yn ddyledus gan gynifer i gyn lleied."