Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn croesawu tair drama gyffrous iawn i'w Theatr Stiwdio dros y misoedd nesaf, ac mae pob un ohonynt yn archwilio themâu pwerus teulu, hunaniaeth a pherthyn.

Smiling man on a blue background with graphics around him

Ar ddydd Sadwrn 11 Mehefin llwyfennir Phil Okwedy: The Gods are all Here. Yn archwilio cydraddoldeb, rhyddid, hiliaeth, teulu a thyfu i fyny heb eich rhieni biolegol mewn perfformiad teimladwy, doniol ac atgofus, mae The Gods Are All Here yn perthyn i bob amser, a nawr.

Wedi'i sbarduno gan ddarganfod cyfres o lythyrau gan ei dad yn Nigeria at ei fam yng Nghymru, dyma berfformiad cymhellol, telynegol a chynnes gan un perfformiwr. 

Mae'r stori gelfydd hon yn gweu myth, cân, llên gwerin a chwedlau’r diaspora Affricanaidd at ei gilydd yn hynod fedrus gyda stori bersonol syfrdanol yn datguddio profiadau Phil o dyfu i fyny fel plentyn o dras ddeuol yng Nghymru’r 1960au a’r 70au.   

Ganed Phil yng Nghaerdydd ac ni fu’n byw erioed gyda'r naill na'r llall o'i rieni. Fe’i maged yn hytrach yn Sir Benfro gan ei fam faeth hirdymor. Yn olrhain y cyfnod hwnnw pan ddywedir  bod plant yn ystyried eu rhieni’n dduwiau, ond heb fyw gyda’i rieni yntau, mae Phil yn ystyried ai duwiau ei ddychymyg oedd ei rieni mewn gwirionedd...

Dywed Phil: 'Wrth i fi ddatblygu fel storïwr, daeth adeg pan oeddwn i'n teimlo'n barod i adrodd am chwedlau ond doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i chwedl oedd yn atseinio gyda fi. Felly, dechreuais wau straeon personol a theuluol gyda gwerin fel math o ymarfer creu chwedlau.  Pan ddes i o hyd i'r llythyrau yn fflat fy mam ar ôl ei marwolaeth, roeddwn i'n teimlo bod angen gwneud mwy gyda nhw na dim ond eu darllen ond doeddwn i ddim yn storïwr eto ac felly doedd gen i ddim syniad beth yn union y gallwn ei wneud gyda nhw.

Nawr, wrth rannu'r sioe hon fy mwriad yw ei bod yn taro tant i bobl eraill, gyda'u straeon teuluol unigol ond hefyd gyda'r gynulleidfa gyfan, oherwydd drwy gydweithio y byddwn yn sicrhau bod pawb yn profi cydraddoldeb, cyfiawnder a rhyddid.'

 

lady in white leaning on bar with whiskey in hand

Daw ail ddrama bwerus sy'n canolbwyntio ar y teulu yr haf hwn gan Novello & Son ar ddydd Gwener 1 Gorffennaf.

Seren y sioe yw Rosamund Shelley fel mam Ivor Novello, cymeriad mawr a fynnai rannu cartref Ivor yn Llundain, a'i fywyd. Wedi'i gosod yn 1938 mae Clara Novello Davies, gwraig gref a diflino, bellach yn ei saithdegau, yn boenus o ymwybodol bod y byd sydd wedi syrthio mewn cariad ag Ivor wedi anghofio ei champau cerddorol hi - ac nad oes ar Ivor bellach ei hangen hi gymaint ag y mae hi ei angen e. 

Gyda'u perthynas mewn cyfnod anodd, yn y ddrama ddoniol ond deimladwy hon, mae Clara yn canu caneuon mwyaf poblogaidd Ivor ac am y tro cyntaf yn wynebu'r digwyddiadau poenus a luniodd ei bywyd rhyfeddol a'i pherthynas gymhleth â'i mab.

O gartref cyffredin yng Nghymru, enillodd Clara Novello Davies enw da ledled y byd fel arweinydd côr a hyfforddwr canu. Enillodd Ei Chôr Merched Brenhinol Cymru wobrau rhyngwladol, fe ganon nhw i aelodau o’r teulu brenhinol ac roeddwn nhw’n aml yn rhannu’r llwyfan gydag Adelina Patti a’i thebyg. Ond doedd ei enwogrwydd yn ddim o'i gymharu ag enwogrwydd ei mab a ddaeth yn seren y ffilmiau mud a llwyfannau’r West End. Ysgrifennodd, cynhyrchodd a pherfformiodd mewn llu o sioeau cerdd godidog ac mae llawer o'i ganeuon yn parhau i fod yn boblogaidd hyd heddiw.

 

Man crouching next to a calendar on an easel

Y ddrama olaf i archwilio hunaniaeth dros yr haf fydd An Indian Abroad ar ddydd Iau 14 Gorffennaf.

Wedi'i lethu gan fywyd dosbarth canol India, mae Krishnan yn ddyn ifanc sy'n awyddus i weld mwy o'r byd. Ar daith o hunan-ddarganfod, mae'n ymweld ag ynys egsotig Prydain Fawr i 'ganfod ei hun'.

Yn y sioe bydd cynulleidfaoedd yn gweld yr hyn mae taith Krishnan yn ei ddysgu iddo am y byd, amdano'i hun, a’r hyn sy’n digwydd hefyd pan fo’n syrthio mewn cariad â Saesnes.

Sioe gyntaf Pariah Khan yw An Indian Abroad ac mae’n archwilio themâu hil, diwylliant a hunaniaeth yn y Brydain gyfoes.

 

I gael gwybod mwy am y perfformiadau gwych hyn yng Nglan yr Afon dros y misoedd nesaf ac i archebu tocynnau, ewch i casnewyddfyw.co.uk/Riverfront neu ffoniwch y tîm archebu ar 01633 656757.