
Os ydych yn aelod o Gasnewydd Fyw, mae arnom eich angen chi!
Yr haf hwn rydym am eich helpu chi i deimlo fel archarwr a chyflawni'ch nodau ffitrwydd.
Os ydych yn edrych i golli pwysau, cryfhau’ch cyhyrau neu wella ffitrwydd wrth gael hwyl - dyma'r her i chi!
Dros 6 wythnos, bydd ein tîm ffitrwydd yn eich helpu i gyfateb â’r her.
Bydd pob aelod sy'n ymuno â'r her yn derbyn cefnogaeth bersonol wedi'i theilwra, sesiwn 1 i 1 ychwanegol gyda hyfforddwr a mynediad at sesiynau hyfforddi grwpiau bach.
Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn heriau ac olrhain eich cynnydd yn ddigidol.
Siaradwch â hyfforddwr ffitrwydd yng Nghanolfan Casnewydd, y Ganolfan Nofio a Thenis Ranbarthol ac yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas i ddarganfod mwy a chofrestru ar gyfer her archarwr yr haf.
Aelodaeth Ffitrwydd i Bawb!
Mae aelodaeth Casnewydd Fyw yn eich galluogi chi i fanteisio ar y campfeydd, y pyllau nofio a’r dosbarthiadau ymarfer corff a geir ym mhob un o'n canolfannau.
Fel rhan o'ch aelodaeth, gallwch fanteisio ar gymorth ffitrwydd personol am ddim sy’n cynnwys sesiwn groeso, archwiliad iechyd, rhaglen (cynllun ffitrwydd) a sesiwn 1 i 1 wythnosol gyda hyfforddwr ffitrwydd.
Dim contractau! Dim ffioedd ymaelodi!
Peidiwch ag oedi! Ymunwch â ni heddiw!
Oedolion
Dros 60 oed
Aelodaeth lawn i oedolion rhwng 60 oed a throsodd.
£20.40/mis
£183.60/blwyddyn
Consesiynau
Rydym yn cynnig aelodaeth ratach i'r rhai ar fudd-daliadau penodedig a myfyrwyr.
£18.40/mis
£165.60/blwyddyn
Gwasanaethau Argyfwng a’r Lluoedd Arfog
Fe wnaethon ni gynnig aelodaeth â gostyngiad i weithwyr y gwasanaeth argyfwng, gweithwyr y GIG a phersonél y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr.
£28 /mis
£252 /blwyddyn
Covid-19 Commitment

Mae Casnewydd Fyw wedi ymrwymo i’ch cadw’n ddiogel!
Nod ymrwymiad Covid-19 Casnewydd Fyw yw rhoi tawelwch meddwl i’n cwsmeriaid wrth iddynt ymlaelodi neu ddefnyddio ein cyfleusterau.
Rydym yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac UK Active ac rydym wedi cael Cymeradwyaeth Ymateb i Covid-19. Mae hyn yn cynnwys mwy o lanhau, llai o bobl, mesurau ymbellhau cymdeithasol, a gwisgo gorchuddion wynebau yn ein holl ganolfannau.
Gallwch ddod o hyd i’n canllawiau llawn yma.