Yn dilyn llwyddiant anhygoel dathliadau'r llynedd, a ddenodd dros 3,500 o bobl i ganol y ddinas, mae Casnewydd wrth ei bodd yn croesawu ei gŵyl Blwyddyn Newydd y Lleuad yn ôl ar gyfer 2025.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd, Canolfan Gymunedol Tsieineaidd Casnewydd, a Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn cydweithio am flwyddyn arall i gynnal dathliadau Blwyddyn Newydd y Lleuad yng nghanol Casnewydd. Ddydd Sadwrn 1 Chwefror, bydd y ddinas yn trawsnewid i fod yn hwb bywiog o ddiwylliant a dathliadau, gan anrhydeddu Blwyddyn y Neidr.
I nodi'r diwrnod pwysig hwn yng nghalendr y lleuad, bydd y diwrnod yn dechrau gyda gorymdaith wedi’i harwain gan ddawnswyr llew, gan ddechrau yn Friars Walk am 10am a gwneud eu ffordd trwy ganol y ddinas i Theatr Glan yr Afon. Anogir mynychwyr i ddod â'u llusernau eu hunain neu wisgo eu dillad coch gorau i ymuno yn yr hwyl. Rhwng 11am a 4pm, bydd Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn cynnal cyfres gyffrous o weithdai, arddangosiadau, perfformiadau a gweithgareddau teuluol, gan gynnwys crefftau, paentio wynebau, a marchnad grefft a bwyd Tsieineaidd.
"Rydym yn falch iawn o gefnogi dathliadau Blwyddyn Newydd y Lleuad y ddinas unwaith eto," meddai Emma Corten, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros ddiwylliant a chyfathrebu.
“Creodd digwyddiad y llynedd wefr wych yng nghanol y ddinas, gan ddod â phobl o gymunedau ledled Casnewydd ynghyd, ac ni allaf aros i weld beth sydd ar y gweill yn y digwyddiad eleni.”
“Dyma ddechrau cyfres gyffrous o ddigwyddiadau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer canol y ddinas dros y misoedd nesaf, ac rwy'n gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosibl yn ymuno â ni yn yr hyn sy'n siŵr o fod yn ddathliad bywiog!” Bydd y dathliad, o’r enw ‘Y Neidr yn Deffro,’ yn tynnu sylw at amrywiaeth o grefftau a thraddodiadau Tsieineaidd, gan gynnwys seremoni de, caligraffeg, Qi Gong, origami, a thorri papur Tsieineaidd, ochr yn ochr â cherddoriaeth a pherfformiadau bendigedig. Daw'r dathliadau i ben gan ddadorchuddio cerflun tân o sarff y tu fas i Theatr Glan yr Afon, ac yna’r sioe un fenyw gyfareddol, ‘Balad Mulan,’ wedi'i hysbrydoli gan yr arwres Tsieineaidd go iawn y tu ôl i’r ffilm wedi’i hanimeiddio a’r ffilm fyw gan Disney.
Dywedodd cadeirydd Canolfan Gymunedol Tsieineaidd Casnewydd, May Ling Evans, “Mae Canolfan Gymunedol Tsieineaidd Casnewydd wedi bod yn brysur yn
paratoi ar gyfer y digwyddiad ac yn edrych ymlaen yn fawr at ychwanegu stondinau bwyd newydd. Gobeithio y bydd pawb yn dod draw i fwynhau dathliadau Blwyddyn Newydd y Lleuad gyda'i gilydd.”
Ychwanegodd Sharon Casey, Pennaeth Theatr, Celfyddydau a Diwylliant yn Theatr Glan yr Afon: “Rydym wrth ein bodd yn cydweithio â Chanolfan Gymunedol Tsieineaidd Casnewydd a Chyngor Dinas Casnewydd unwaith eto i ddathlu Blwyddyn Newydd y Lleuad. Mae hwn yn argoeli i fod yn ddiwrnod llawn llawenydd, creadigrwydd, ac ysbryd cymunedol i bobl o bob oedran. Allwn ni ddim aros i groesawu pawb i Lan yr Afon ar gyfer y digwyddiad bywiog a chofiadwy hwn sy'n dod â chymunedau at ei gilydd.”
I gael rhagor o wybodaeth am ddathliadau Blwyddyn Newydd y Lleuad Casnewydd a sut i gymryd rhan mewn gweithgareddau gartref, ewch i newportlive.co.uk/cy/Theatr-a-Chelfyddydau/Gwyliau-a-Digwyddiadau/lunar-new-year/ Cafodd dathliad Blwyddyn Newydd y Lleuad ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, sy’n cefnogi dathliadau diwylliannol ac ymgysylltu â'r gymuned.