Mae Casnewydd ar fin bod yn ferw o gerddoriaeth wrth i Lwybr Cerdd Casnewydd gymryd y ddinas drosodd ddydd Gwener 28 a dydd Sadwrn 29 Mawrth 2025. Mae'r digwyddiad cyffrous hwn yn dathlu tirwedd gerddorol gyfoethog Casnewydd, gan gynnig cyfle unigryw i archwilio gigs ar draws sawl lleoliad.
Fel un o'r lleoliadau allweddol, bydd Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn gartref i leinyp anhygoel o gerddoriaeth fyw a gweithdai rhyngweithiol ar ddydd Sadwrn 29 Mawrth. O gerddorion lleol talentog i sesiynau creadigol ymarferol, fe fydd rhywbeth at ddant pawb.
Cerddoriaeth Fyw yn y Cyntedd Mwynhewch brynhawn o berfformiadau byw gwych:
· 12pm – Keys Collective
· 1pm – Jess Marie
· 2pm – Moonlight Crisis
· 4pm – Alexandra Dock
Gweithdai a Sesiynau Rhyngweithiol Cymerwch ran yn y gweithdai difyr hyn drwy gydol y dydd:
· 11am - 4pm: Creu Offerynnau o Sbwriel (Cyntedd) – Cyfle i greu eich offeryn eich hun gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu!
· 11am – 12pm: ‘Arwyr y Dosbarth Gweithiol’ – Taith Hanes Cerddoriaeth Casnewydd (Ystafell Gynadledda) – Plymio'n ddwfn i sîn gerddoriaeth chwedlonol Casnewydd.
· 11am – 1pm: Bore Cerddoriaeth Operasonic (Theatr y Stiwdio) – Cyflwyniad hamddenol a hwyliog i gerddoriaeth fyw i blant 6-12 oed (darperir offerynnau!).
· 2pm – 4pm: Prynhawn Cerddoriaeth Operasonic (Theatr y Stiwdio) – Sesiwn gerddoriaeth ymarferol i blant 12+ oed (darperir offerynnau!).
· 3pm – 5pm: Sain a Hwyl Synhwyraidd gydag Operasonic (Stiwdio Ddawns) – Dan arweiniad artistiaid a cherddorion byddar, gan gynnwys drymio, ffidil a chelf synhwyraidd.
· 3pm – 4pm: Gweithdy Diwylliant Hip Hop (6-10 oed) – Archwiliwch fyd hip hop gyda dau o artistiaid hip hop blaenllaw Cymru.
· 4pm – 5pm: Gweithdy Diwylliant Hip Hop (9-16 oed) – Archwiliwch fyd hip hop gyda dau o artistiaid hip hop blaenllaw Cymru.
Mae'r diwrnod cyffrous hwn yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn RHAD AC AM DDIM, gan gynnig profiad bythgofiadwy i deuluoedd a phobl sy'n caru cerddoriaeth. Peidiwch â cholli'r dathliad anhygoel hwn o dreftadaeth gerddorol a chreadigrwydd Casnewydd!
Dysgwch fwy am y Llwybr Cerdd Casnewydd yma: Newport Music Trail | Newport City Council