
Cynhaliodd Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon eu noson gwesteion panto flynyddol ddydd Iau 1 Rhagfyr, fel rhan o'u hwythnos agoriadol. Dechreuodd y pantomeim hirddisgwyliedig ddydd Mawrth 29 Tachwedd ac mae'r adeilad wedi bod yn fwrlwm o gyffro.
Roedd Glan yr Afon yn falch o groesawu rhestr hir o westeion gan gynnwys y Dirprwy Faer, y Cynghorydd John Jones a'r Dirprwy Faeres, Maria Jones, yn ogystal â newyddiadurwyr a chefnogwyr lleol o gymuned Casnewydd. Cafodd y gwesteion eu diddanu gan y gantores Katherine Rees a'r gitarydd John Close, a chwaraeodd set o ganeuon Nadoligaidd i groesawu hwyl yr ŵyl. Yn ogystal, cafwyd dewis o ddiodydd a bwydydd Nadoligaidd i bawb eu mwynhau cyn i'r sioe ddechrau. Gwahoddwyd y gwesteion hefyd i gyfarfod â'r cast ar ôl y sioe gyda Richard Elis yn serennu fel The Millar’s Son a Geraint Rhys Edwards fel Robin Hood.
''Mae ein noson westeion yn gyfle gwych i ni groesawu ffrindiau, cydweithwyr, a chefnogwyr i Lan yr Afon i ddathlu ein pantomeim blynyddol. Mae’r tymor panto bob amser yn amser cyffrous o'r flwyddyn yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, ond eleni rydym wrth ein boddau o fod yn croesawu pawb yn ôl i'r adeilad ar ôl tair blynedd heb ein pantomeim blynyddol ar y prif lwyfan. Robin Hood yw’r cyfle perffaith i bawb o bob oed brofi’r theatr a chofleidio ysbryd y Nadolig ac, i lawer o'n haelodau iau yn y gynulleidfa, dyma fydd eu profiad cyntaf o bantomeim. Fel bob amser, mae ein pantomeim yn llawn hud ac antur ac mae gennym ambell sypréis i’r gynulleidfa.'' Gemma Durham, Pennaeth Theatr, y Celfyddydau a Diwylliant yng Nglan yr Afon.
Mae amserlen y tîm yn Nglan yr Afon yn brysur dros y pum wythnos nesaf gyda pherfformiadau cefn-wrth-gefn yn rhedeg tan 7 Ionawr 2023. I archebu tocynnau i weld Robin Hood, ewch i'r wefan: www.newportlive.co.uk/Riverfront neu cysylltwch â thîm y Swyddfa Docynnau ar 01633 656757