Wrth i'r gwyliau ddod i ben ac i ni wella o haf llawn hwyl, mae ein sylw yn cael ei dynnu at y digwyddiad mawr nesaf yn ein calendr, sef pantomeim. Mae Theatr Glan yr Afon yn falch iawn o groesawu Robin Hood i'r llwyfan ym mis Tachwedd 2022. Mae wedi bod yn amser hir i aros ond nawr bod hynny y ‘tu ôl i ni’, mae’r Theatr nôl o ddifri ac yn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu!
Gyda chymysgedd o wynebau newydd a chyfarwydd, mae Glan yr Afon yn falch iawn o gyhoeddi cast anhygoel ein cynhyrchiad hir-ddisgwyliedig.
Mae Richard Elis yn dychwelyd i Glan yr Afon fel Much the Millars Son. O berfformio ledled y byd yn y Gymraeg a’r Saesneg i ymddangos yn yr operâu sebon adnabyddus, Eastenders a Coronation Street, mae Richard Elis yn un o ffefrynnau pantomeim Casnewydd. All Glan yr Afon ddim aros i'w gael yn ôl gyda’i anhrefn gomig!
Yn chwarae’r arwres hardd a thestun cariad Robin Hood, sef Maid Marian, mae gennym Rhiannon Porter. Yn fwyaf adnabyddus am gyrraedd y rownd derfynol i gynrychioli’r DU yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2018, mae gan Rhiannon gyfoeth o brofiad o berfformio.
Mae Aled Pugh a fydd yn ymuno â'r cast ar lwyfan Glan yr Afon fel y cymeriad didrugaredd, y Sheriff of Nottingham. Yn fwyaf adnabyddus am ei gymeriad doniol Gymreig yn y cynhyrchiad teledu, Stella (Tidy Productions ar gyfer Sky), enillodd Aled wobr BAFTA Cymru am yr Actor Gorau yn 2010 am ei bortread o Ryan yn yr addasiad ffilm o Ryan & Ronnie (Boomerang).
Yn chwarae rhan Mandragoria, mae Rhiannon Howys wrth ei bodd ei bod yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf ar lwyfan yng Nghymru, gwlad ei rhieni. Hyfforddodd Rhiannon yn Academi Cerddoriaeth a Chelf Ddramatig Llundain ac mae ganddi restr ddiddiwedd o gredydau theatr gan gynnwys Punk Fairy yn Jack and the Beanstalk (Belgrade, Cofentri), Booth Singer yn Cats (taith y DU) a Jan yn Grease (Dominion a Chaergrawnt).
Mae Steven Elliot wedi gweithio gyda llawer o gwmnïau theatr o safon uchel ledled y DU, ac mae wedi ymddangos mewn amrywiaeth o gynyrchiadau teledu a ffilm adnabyddus gan gynnwys The Crown, Da Vinci's Demons, Holby City, The Watcher in the Woods, Les Misérables a llawer mwy! Mae Glan yr Afon yn edrych ymlaen at groesawu Steven i'r llwyfan fel y cymeriad annwyl a charedig, Friar Tuck.
Gydag awydd cryf am ganu ac adrodd straeon trwy gân, bydd Phoebe Holmes yn chwarae rhan Little Joan, partner ffyddlon Robin Hood. Daw Phoebe yn wreiddiol o Wrecsam ond erbyn hyn mae hi'n gweithio yn Llundain lle mae hi'n aelod o unig gôr menywod Llundain.
Cyn mynd, allwn ni ddim anghofio sôn am y prif ddyn ei hun, Robin Hood. Geraint Rhys Edwards sy'n chwarae'r herwr arwrol. Mae Geraint yn hanu’n wreiddiol o Gaerdydd ac mae'n siaradwr Cymraeg brodorol. Mae wedi gweithio ar draws theatr a theledu dros y blynyddoedd ers graddio o Goleg Theatr a Pherfformio Rose Bruford gyda BA (Anrhydedd) mewn Actio yn 2011. Dyma fydd yr eildro i Geraint weithio gyda Theatr Glan yr Afon a'i dro cyntaf yn chwarae Robin Hood ac, a dweud y gwir, ni allai ei gyffro fod yn uwch. Mae’n amser i ni weld y Trywsanau!
Yn ymuno â’r cast gwych hwn ar y llwyfan bydd ein hensemble hynod dalentog: Koda Holland-Smith, Alicia Witt, Remi Ferdinand, Elliott Parry, Jordan Bowers a Chloe Bramall.
"Casnewydd yw fy nghartref pantomeim ers 15 mlynedd. Mae'r cwmni eleni yn un o'r rhai mwyaf aruthrol o dalentog a medrus a welais yn ystod yr amser hwnnw. Dwi wrth fy modd bod panto yn ôl yng Nghasnewydd, ac allwn ni ddim aros i rannu'r cynhyrchiad â chi dros gyfnod y Nadolig hwn,” Jamie Anderson, Cynhyrchydd Creadigol Llawrydd Dros Dro - Robin Hood, Glan yr Afon.
Bydd Robin Hood yn rhedeg rhwng dydd Mawrth 29 Tachwedd a dydd Sul 7 Ionawr yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon. Peidiwch â cholli dychweliad hudolus Casnewydd i bantomeim - archebwch eich tocynnau nawr!