Mae Jones y Ddawns yn falch o’ch gwahodd i ymuno â sesiwn flasu arbennig ar gyfer ein gweithdai Quiet Beats arloesol y byddwn yn eu rhedeg ar draws De Cymru'r mis Tachwedd a Rhagfyr hwn.
Bydd y sesiynau’n cael eu rhedeg gan yr Artist Dawns amlwg o Gymru, Amber Howells, gyda chefnogaeth yr awdur a’r perfformiwr BSL, Sarah Adedeji.
Rydym am ddefnyddio’r sesiynau hyn i gyfarfod y gymuned f/Fyddar ehangach yn Ne Cymru ac i brofi’r angen i ni ddatblygu ein Cwmni Ifanc Jones y Ddawns mewn mannau eraill.
Byddwn yn creu cyfleoedd i chi ffynnu trwy ddawns mewn amgylchedd sy’n deall y rhwystrau posibl ac sy’n gwneud ei orau i gael gwared arnyn nhw, gan roi cymaint o gyfle i chi lwyddo â’ch cyfoedion sy’n clywed.
Trwy’r sesiynau hyn byddwch yn:
-
cael eich gwerthfawrogi a’ch annog i gyflawni eich potensial.
-
cael cyfle i archwilio eich creadigrwydd personol gydag artist dawns amlwg.
-
cynyddu hyder corfforol
-
cyfarfod a llunio cyfeillgarwch gyda phobl ifanc b/Byddar eraill yn eich ardal.
-
cael eich annog a’ch cefnogi i ddod o hyd i gyfleoedd dawns eraill a allai fod yn addas i chi yn yr ardal leol os dymunwch.
-
cael eich annog i ymuno â’n cwmni ifanc a chael eich galluogi trwy fwrsariaethau teithio i ymuno â sesiynau cyson pan fydd hynny’n bosibl.
Byddwch hefyd yn cael llawer o hwyl!
Dim profiad yn angenrheidiol. Rydym yn cefnogi’r holl aelodau o’r cwmni ifanc, a’r rhai sy’n cymryd rhan yn y sesiynau blasu yma i ffynnu ar eu lefel eu hunain mewn amgylchedd cefnogol, hapus.
Bydd yr holl weithdai Quiet Beats yn cael eu cefnogi gan gyfieithydd profiadol a bydd ymwybyddiaeth f/Fyddar yn ganolog i’r ffordd y byddwn yn rhedeg y sesiynau.
Mae awr gyntaf y sesiwn i bawb drio ac yna gall unrhyw un sy’n hŷn neu sydd eisiau parhau i ddysgu mwy o goreograffi aros am yr amser cyfan.
Bydd y sesiynau ar Dydd Sadwrn 2 Rhagfyr:
-
2-3pm (7-16oed) Gemau croeso a dawnsio - dod i adnabod ein gilydd
-
3:15-5pm (11-16 oed) orhai hŷn yn aros ymlaen am fwy o ddawns a choreograffi
Mae’r sesiynau am ddim i’w mynychu ond mae angen i chi eu harchebu drwy wefan Jones y Ddawns: https://www.jonesthedance.com/workshops
Cofiwch gysylltu os oes gennych unrhyw ymholiadau:
Kama Roberts (cynhyrchydd) info_and_admin@jonesthedance.com
Amber (Swyddog Dawns) quietbeats@jonesthedance.com
Dysgwch ragor am Jones y Ddawns ar ein gwefan jonesthedance.com