Yr haf hwn, mae Adam Peaty MBE, enillydd tair medal Aur Olympaidd, yn teithio drwy wledydd Prydain gan ysbrydoli nofwyr ifanc ar hyd a lled y deyrnas. Fel rhan o'i daith Clinigau Rasio AP bydd yn ymweld â'r Ganolfan Tenis a Nofio Rhanbarthol yng Nghasnewydd yn ogystal â 9 canolfan chwaraeon arall yn Lloegr a'r Alban gyda'i Dîm AP gan gynnwys hyfforddwyr nofio, hyfforddwyr cryfder a chyflyru, seicolegwyr chwaraeon, rheolwyr tîm ac arbenigwyr datblygu talent.
Hwn fydd ei daith wyneb yn wyneb gyntaf ers dechrau pandemig Covid-19 ac mae wedi ei sbarduno i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o athletwyr sydd am ddilyn yn ôl ei droed. "Mae'n golygu llawer i mi allu ysbrydoli athletwyr iau gan fy mod yn gwybod, pan oeddwn yn ifanc, fy mod bob amser yn edrych i fyny at y nofwyr elît ar y pryd, ac mae'r effaith gadarnhaol y gallaf ei chael arnynt mor bwerus".
Mae'r tîm wedi creu diwrnod ysgogol gan ddod â chefnogaeth at ei gilydd i athletwyr a rhieni gael y profiad gorau posibl ar eu taith nofio. Dros ddiwrnod cyfan, bydd nofwyr yn treulio amser yn hogi eu sgiliau yn y pwll yn ogystal ag adeiladu eu sgiliau tir sylfaenol. Bydd nofwyr hefyd yn cael sesiwn gyda seicolegydd perfformiad Adam a byddant yn mynd i mewn i "gampfa’r meddwl", gan fireinio eu sgiliau meddwl i fod yn rasiwr sydd wedi ei sbarduno ac sy'n canolbwyntio mwy.
Ochr yn ochr â thair gorsaf nofio, mae ychwanegiad newydd ar gyfer taith 2021, gyda'r nod o roi cipolwg cefnogol i rieni ar y byd nofio a datblygu athletwyr. Yna bydd pawb yn dod at ei gilydd ar gyfer rhan olaf y diwrnod lle bydd Adam yn archwilio ei daith hyd at 2021 yn ogystal â rhoi cyfle i nofwyr a rhieni ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.
Dwedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw sy'n rhedeg y Ganolfan Tenis a Nofio Rhanbarthol "Mae'n wych gallu croesawu Adam a'i dîm i'n cyfleusterau. Roedd yn wych gallu gwylio ei lwyddiant yn Tokyo ac rydym yn gwybod y bydd yn ysbrydoliaeth i'r genhedlaeth nesaf o nofwyr sy'n mynychu'r clinigau rasio yng Nghasnewydd."
Bydd y tîm yn teithio dros 1500 milltir mewn 10 diwrnod a gyda chyfyngiadau'n codi mewn pryd a chlybiau ym mhob man yn chwilio am obaith yn dilyn 18 mis o frwydro, gobeithio y bydd y daith yn hwb mawr ei angen i'r gymuned nofio. I gael gwybod mwy am stori Adam a Chlinigau Rasio AP, ewch i https://clinics.aprace.club/story