Mae Casnewydd Fyw yn nodi pen-blwydd cyntaf ei rhaglen Fel Tîm hynod lwyddiannus—menter bêl-droed lawr gwlad yng Nghasnewydd sydd wedi bod yn grymuso merched 7-11 oed i ddatblygu eu sgiliau pêl-droed, eu hyder a'u cyfeillgarwch.  Ers ei lansio flwyddyn yn ôl, mae Fel Tîm wedi cynnig lle hwyliog a chynhwysol i dros 60 o ferched gymryd rhan mewn sesiynau pêl-droed rheolaidd, waeth beth fo'u profiad neu allu.

I ddathlu'r garreg filltir hon, bydd Casnewydd Fyw yn cynnal digwyddiad pen-blwydd arbennig ar 27 Medi yn Felodrôm Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, lle gwahoddir y gymuned i ymuno rhwng 4:30pm a 6:30pm. Bydd y digwyddiad yn edrych yn ôl ar y cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn dathlu’r effaith gadarnhaol mae Fel Tîm wedi'i chael ar bêl-droed merched yng Nghasnewydd.

Dros y 12 mis diwethaf, mae Fel Tîm wedi helpu i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ferched i ddechrau pêl-droed, gyda llawer ohonynt wedi mynychu eu gêm fyw gyntaf erioed drwy'r rhaglen.  Boed yn bloeddio cefnogaeth i dîm pêl-droed Sir Casnewydd, yn mwynhau cyffro rownd derfynol Cwpan Cymru rhwng timau merched Dinas Caerdydd a Wrecsam, neu fynychu gêm Gwalia, mae'r profiadau hyn wedi dyfnhau eu cariad at y gêm.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Fel Tîm wedi bod yn fwy na rhywbeth yn ymwneud â phêl-droed yn unig—mae hefyd wedi bod yn fater o helpu merched i fagu hyder, datblygu cyfeillgarwch, a theimlo'n rhan o gymuned gefnogol. Mae wedi creu gofod lle gallant fwynhau'r gêm a thyfu fel unigolion. Fel y dywedodd un cyfranogwr ifanc:

"Mae Fel Tîm yn helpu merched i deimlo'n hyderus yn chwarae pêl-droed.  Mae hefyd yn magu hyder iddyn nhw ymuno â thîm."

Dyma Logan Busuttil, Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol a Gweithgarwch Corfforol Casnewydd Fyw yn trafod y llwyddiannau:

"Mae gweld hyder y merched hyn yn cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un o fy mhrofiadau mwyaf balch fel hyfforddwr. Yr hyn sydd wedi bod yn arbennig iawn yw eu gweld nid yn unig yn datblygu fel pêl-droedwyr, ond hefyd fel ffrindiau, gyda chefnogaeth eu teuluoedd a'r gymuned o'u cwmpas."

Mae'r effaith amlhaenog yn glir. Mae mwy o ferched bellach yn ymuno â thimau llawr gwlad lleol, wedi'u hysbrydoli gan y sgiliau maen nhw wedi'u dysgu a'r cyfeillgarwch maen nhw wedi'u meithrin trwy Fel Tîm.  Mae'r rhaglen wedi dod yn borth i ferched archwilio rhagor o gyfleoedd pêl-droed, boed hynny'n chwarae i dîm lleol neu'n parhau yn actif gyda ffrindiau.

Wrth i Fel Tîm symud i'w hail flwyddyn, uchelgais Casnewydd Fyw yw adeiladu ar y llwyddiant trwy gynyddu nifer yr hyfforddwyr benywaidd o fewn y rhaglen. Dywedodd Steve Ward, Prif Swyddog Gweithredol, Casnewydd Fyw:

"Mae Fel Tîm wedi bod yn enghraifft wych o sut y gall chwaraeon fod yn offeryn pwerus ar gyfer ymgysylltu â'r gymuned a thwf personol. Mae gweld hyder y merched yn codi a'u brwdfrydedd dros ddatblygu pêl-droed wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig.  Rydym wedi ymrwymo i ehangu'r rhaglen ymhellach, yn enwedig trwy gynyddu nifer yr hyfforddwyr benywaidd i ddarparu modelau rôl hyd yn oed mwy cadarnhaol ar gyfer y genhedlaeth nesaf.  Mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym yr isadeiledd yn y ddinas er mwyn i'r rhaglenni hyn barhau a ffynnu."

 

Bydd hyn yn rhoi mwy o fodelau rôl i gyfranogwyr eu hedmygu, yn ogystal â helpu i ysbrydoli hyd yn oed mwy o ferched i gymryd rhan yn y gêm. Dywedodd Chloe Powton, Swyddog Datblygu Gweithgarwch Corfforol Casnewydd Fyw:

"Mae wedi bod yn wych gweld pa mor bell yr ydym wedi dod mewn dim ond 12 mis. Mae dros 60 o ferched wedi ymuno â Fel Tîm a chael cyfleoedd newydd mewn pêl-droed. Ein blaenoriaeth nesaf yw cynyddu nifer yr hyfforddwyr benywaidd yn y rhaglen, gan sicrhau bod y merched yn parhau i gael eu hysbrydoli a'u cefnogi ar y cae ac oddi arno."

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) hefyd wedi cydnabod twf Fel Tîm a'i effaith ar bêl-droed merched yng Nghasnewydd. Dywedodd Simon Lu, o Gymdeithas Bêl-droed Cymru:

"Mae Fel Tîm wedi cyfrannu'n aruthrol at y cynnydd yn nifer y merched sy'n chwarae pêl-droed ar hyd a lled Casnewydd. Rydym yn gweld mwy o gyfranogiad mewn ysgolion, clybiau a lleoliadau cymunedol, i gyd diolch i'r amgylchedd cynhwysol a grymusol mae Fel Tîm yn ei greu. Mae'n gosod y llwyfan ar gyfer dyfodol pêl-droed merched yng Nghasnewydd."

Mae Casnewydd Fyw yn gwahodd y gymuned leol, teuluoedd a chefnogwyr pêl-droed i ddathlu blwyddyn gyntaf Fel Tîm yn y digwyddiad arbennig ar 27 Medi. Bydd y noson yn cynnwys gweithgareddau pêl-droed, gemau, a'r cyfle i edrych yn ôl ar flwyddyn anhygoel i bêl-droed merched yng Nghasnewydd.