• slide
  • slide
  • slide

 

Mae Casnewydd Fyw yn falch o gyhoeddi bod Cwpan Merched Uwchradd cyntaf erioed Casnewydd Fyw wedi’i gynnal yn llwyddiannus, digwyddiad arloesol a gynlluniwyd i hyrwyddo ac ehangu pêl-droed merched yn ysgolion uwchradd y ddinas.

Cynhaliwyd y Cwpan Merched Uwchradd ar 17 Mai 2024 yn Ysgol Gyfun Basaleg a gwelwyd dros 140 o ferched yn cymryd rhan o naw o bob deg ysgol uwchradd yng Nghasnewydd, yn benodol o flynyddoedd 7 ac 8.

Wedi'i drefnu gan dîm Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Fyw, crëwyd y digwyddiad hwn mewn ymateb i'r galw mawr am bêl-droed merched yng Nghasnewydd, fel y nodwyd drwy'r Arolwg Chwaraeon Ysgolion. O ganlyniad, mae'r tîm wedi sefydlu sesiynau pêl-droed merched wythnosol ym mhob ysgol uwchradd yng Nghasnewydd, ynghyd â sesiynau pêl-droed llwyddiannus 'Fel Tîm' Casnewydd Fyw. Paratôdd y mentrau hyn y ffordd ar gyfer y twrnamaint, ac mae'r Cwpan yn dyst i'r ymrwymiad hwn, gan gynnig cyfle i fyfyrwyr arddangos eu sgiliau a dyfnhau eu cariad at y gamp.

Rhannodd Lauren Bourne, Swyddog Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Cymunedol Casnewydd Fyw, ei brwdfrydedd am y digwyddiad, gan ddweud, "Roedd hi'n ddiwrnod gwych ac roedd y merched i gyd wrth eu boddau! Roedd yr awyrgylch yn anhygoel, a chwaraeodd pawb lawer o bêl-droed."

Mynegodd Abigail McGoldrick, athrawes o Ysgol John Frost, ei diolchgarwch hefyd: "O'n i jyst eisiau dweud pa mor werthfawr oedd y sgidiau pêl-droed a'r padiau coes sbâr - fe wnaethon nhw wir wneud gwahaniaeth. Roedd y gemau cyfeillgar yn help enfawr wrth reoli chwaraewyr a sicrhau bod pawb yn cael amser teg ar y cae. Diolch unwaith eto am eich holl waith caled – mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr gen i a'm myfyrwyr!"

Ategodd Laura Jones, athrawes o Ysgol Rougemont, y teimladau hyn, gan ddweud, "Diolch yn fawr iawn am ein gwahodd i Gwpan Merched Uwchradd Casnewydd Fyw. Cafodd fy merched amser gwych a chyfle gwych i chwarae llawer o gemau. Byddem wrth ein bodd yn cael mwy o gystadlaethau y flwyddyn academaidd nesaf."

Soniodd Andrea Ovey, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Casnewydd Fyw, am lwyddiant y digwyddiad: "Rydym wrth ein bodd o weld ymateb mor gadarnhaol i Gwpan Merched Uwchradd Casnewydd Fyw. Mae'r digwyddiad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i feithrin cynwysoldeb a grymuso merched ifanc drwy chwaraeon. Mae brwdfrydedd a chyfranogiad yr ysgolion yn wirioneddol ysbrydoledig, ac rydym yn ymroddedig i barhau â'n hymdrechion i hyrwyddo pêl-droed merched ledled Casnewydd. Ein nod yw cynnig mwy o gyfleoedd i ferched ifanc ragori ac adeiladu angerdd gydol oes am chwaraeon a gweithgarwch corfforol."

Mae Cwpan Merched Uwchradd Casnewydd Fyw yn gam sylweddol ymlaen o ran hyrwyddo pêl-droed merched yng Nghasnewydd, gan feithrin ymdeimlad o gymuned, gwaith tîm, ac angerdd am y gamp ymhlith merched ifanc. Mae Casnewydd Fyw yn parhau i fod yn ymrwymedig i feithrin y cyfleoedd hyn ac yn edrych ymlaen at gynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

Mae Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Fyw yn rhoi cyfleoedd chwaraeon i blant, teuluoedd, ysgolion, cymunedau, clybiau chwaraeon a grwpiau lleol ledled Casnewydd.  Maen nhw’n ymdrechu i wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau ac yn annog mwy o bobl i wirioni ar chwaraeon am oes, gan ysbrydoli pobl i fod yn hapusach ac iachach. Mae parch mawr at y tîm yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol ymhlith partneriaid fel Chwaraeon Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent ac maent wedi ennill gwobrau a chael eu cydnabod am eu harloesedd a'u harfer da.  

Mae Casnewydd Fyw yn ymddiriedolaeth elusennol sy'n rheoli canolfannau hamdden, lleoliadau a gwasanaethau ledled Casnewydd, Cymru.  Wedi ymrwymo i ysbrydoli pobl i fod yn hapusach ac iachach, mae Casnewydd Fyw yn ymdrechu i greu cyfleoedd ar gyfer rhagoriaeth ac i ymgysylltu â'r gymuned.