Bydd y gala "Dysgu Nofio" yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 29 Mawrth o 1.15pm yn y Ganolfan Tennis a Nofio Rhanbarthol ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd.

Dyma'r gala gyntaf i gael ei chynnal gan Casnewydd Fyw - a bydd yn agored i bob plentyn yn y rhaglen Dysgu Nofio sy'n dysgu ar lefel Academi 5+ ac uwch o ddim ond chwech oed.

"Rydyn ni wedi bod eisiau lansio gala nofio i blant ers tro" eglurodd y Cydlynydd Campau Dŵr, Owain Baulch "ac wrth i'n darpariaeth dyfu, roedd yn ymddangos fel yr amser perffaith i'w wneud eleni - rydym yn gobeithio y bydd yn un o sawl gala yn y dyfodol hefyd!"

Bydd y gala yn cynnwys 5 ras, a bydd yn costio £1 yn unig i gystadlu ym mhob un – a thrwy dalu i gystadlu mewn un ras yn unig, bydd pob ymgeisydd yn gymwys i gystadlu mewn ras gicio am ddim hefyd!

Bydd y rowndiau yn cael eu rhannu yn ôl gallu a nifer yr ymgeiswyr, felly mae'n gyfle gwych i holl nofwyr uchelgeisiol Casnewydd Fyw guro'r cloc a nofio mor gyflym ag y gallant gan brofi hwyl gala nofio.

"Mae ein gwersi nofio a'n gwersi nofio dwys yn ystod y gwyliau yn boblogaidd iawn" esboniodd Andrea Ovey, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Casnewydd Fyw. "Mae'n dangos faint o ddiddordeb a brwdfrydedd sydd i nofio yma yng Nghasnewydd. Gyda'n gala nofio gyntaf i blant yn ein rhaglen Dysgu Nofio, ein nod yw meithrin yr angerdd hwn ymhellach, gan annog ein nofwyr ifanc i wella eu sgiliau a datblygu cariad gydol oes at y gamp."

Swim Gala Stock Image.jpg