Aspire Logo

Mae Casnewydd Fyw yn falch o gyhoeddi ei fod wedi cymryd y contract yn swyddogol ar gyfer rhaglen Aspire ym mis Awst, gan nodi cam sylweddol ymlaen o ran darparu cyfleoedd addysg ac ymgysylltu ag ieuenctid i bobl ifanc yng Nghasnewydd.

Bydd rhaglen Aspire yn gweithredu yn ystod y tymor, bum diwrnod yr wythnos, gan gynnig amgylchedd dysgu addysgol amgen i fyfyrwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11. Ar hyn o bryd, mae Aspire yn gysylltiedig â thair ysgol uwchradd yng Nghasnewydd: Ysgol Uwchradd Llyswyry, Ysgol Uwchradd Llan-wern, ac Ysgol Uwchradd John Frost.

Mae'r prosiect arloesol hwn wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer myfyrwyr ifanc sydd wedi cael eu hatgyfeirio gan eu hysgolion priodol ac a fyddai'n ffynnu mewn lleoliad amgen y tu allan i'r system addysgol brif ffrwd. Mae Aspire wedi sefydlu darpariaethau yn strategol mewn tair canolfan gymunedol leol sydd wedi'u lleoli'n gyfleus ger yr ysgolion sy'n cymryd rhan. Mae'r canolfannau hyn yn cynnwys Hyb y Dwyrain yn Ringland, Canolfan Gymunedol Dwyrain Casnewydd yn Moorland, a Chanolfan Gymunedol Dyffryn.

Mae Aspire yn mynd y tu hwnt i’r arlwy addysgol traddodiadol trwy ddarparu cwricwlwm amrywiol i fyfyrwyr sy'n cynnwys TGAU, cymwysterau cyfatebol BTEC, a chymwysterau seiliedig ar waith. Ar ben hynny, mae'r prosiect yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygiad sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol hanfodol trwy ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys chwaraeon, coginio, sgiliau bywyd, addysg awyr agored a phrofiadau ymgysylltiol eraill.

"Mae Aspire yn gweddnewid bywydau pobl ifanc yng Nghasnewydd sy'n wynebu heriau mewn addysg prif ffrwd am wahanol resymau." meddai Holly, Uwch Swyddog Datblygu Ieuenctid Aspire Casnewydd Fyw. "Mae'r prosiect hwn yn gyfle unigryw i'r unigolion hyn ragori mewn addysg a chyrraedd eu potensial llawn. Credwn yn gryf fod pob person ifanc yn haeddu cyfle i ffynnu yn academaidd ac yn bersonol ac Aspire yw ein hymrwymiad i ddarparu'r cyfle hwnnw. Trwy gynnig amgylchedd dysgu amrywiol a chefnogol, ein nod yw grymuso'r myfyrwyr hyn nid yn unig gyda chymwysterau academaidd ond hefyd gyda sgiliau bywyd hanfodol a'r hyder i ddilyn eu breuddwydion. Nid dewis arall yn unig yw Aspire; mae'n brofiad addysgol trawsnewidiol sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer dyfodol mwy disglair i bobl ifanc Casnewydd."

Nod pennaf prosiect Aspire yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar bobl ifanc 14 i 16 oed yng Nghasnewydd ar gyfer eu hymdrechion yn y dyfodol. Trwy feithrin amgylchedd lle gall myfyrwyr ffynnu, nod Aspire yw eu paratoi ar gyfer y camau nesaf yn eu bywydau, gan sicrhau eu bod yn cael y profiad addysgol gorau posibl.

Dywedodd Steve, Prif Swyddog Gweithredol Casnewydd Fyw "Wrth ymgymryd â rhaglen Aspire, mae Casnewydd Fyw yn croesawu partneriaeth addysgol drawsnewidiol a fydd yn newid bywydau pobl ifanc yng Nghasnewydd. Nid dewis arall yn unig yw Aspire; mae'n gyfle gwych i'n pobl ifanc. Rydym yn falch o arwain rhaglen addysg amgen Aspire Cyngor Dinas Casnewydd, sydd wedi ymrwymo i roi cyfle i bob person ifanc ffynnu yn academaidd ac yn bersonol. Gyda'n gilydd, rydym yn creu dyfodol mwy disglair i Gasnewydd."

Yn debyg iawn i ysgolion traddodiadol, mae prosiect Aspire yn gweithredu pum diwrnod yr wythnos, rhwng 9:30am a 2:30pm, gan sicrhau bod gan fyfyrwyr amgylchedd dysgu cefnogol ac wedi ei strwythuro.

Mae Casnewydd Fyw yn llawn cyffro i fod yn flaenllaw gyda’r fenter addysgol hon, ac rydym wedi ymrwymo i gael effaith gadarnhaol ar fywydau'r bobl ifanc hyn.

Am fwy o wybodaeth am brosiect Aspire, cysylltwch â Karl, Pennaeth Chwaraeon Cymunedol a Lles yn karl.reed@newportlive.co.uk.