Ddydd Mercher 20 Medi 2023, mae Casnewydd Fyw yn dathlu Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol drwy groesawu aelodau o'r cyhoedd i'w lleoliadau i archwilio ei dosbarthiadau ymarfer corff, offer ffitrwydd arloesol, cwrdd â'r hyfforddwyr ffitrwydd a darganfod mwy am sut y gall Casnewydd Fyw helpu pobl o bob oed i gyflawni eu nodau iechyd a lles.
Mae'r Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol yn ddigwyddiad blynyddol sy'n codi ymwybyddiaeth ac yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y mae gweithgarwch corfforol yn ei chael ar iechyd unigolyn. Mae'r digwyddiad cenedlaethol yn annog pawb i fod yn egnïol a blaenoriaethu eu lles. Y thema eleni yw 'Eich Iechyd yw Eich Cyfoeth' ac mae trefnwyr y digwyddiad eisiau i unigolion ystyried eu cyfranogiad ar y diwrnod fel eu camau cyntaf mewn taith iechyd llawer mwy.
Yn ogystal â bod yn ddarparwr blaenllaw o wasanaethau ffitrwydd a hamdden yn ardal Casnewydd, mae Casnewydd Fyw yn ymddiriedolaeth elusennol sy'n darparu gweithgareddau chwaraeon, hamdden a diwylliannol i ystod eang o gymunedau ledled Casnewydd. Gyda'r weledigaeth i 'ysbrydoli pobl i fod yn hapusach ac yn iachach', mae Casnewydd Fyw yn annog pobl o bob oed a lefel ffitrwydd i ymuno â nhw ar gyfer y digwyddiad cenedlaethol i weld sut y gallant eu helpu a'u cefnogi i gyflawni eu nodau iechyd, ffitrwydd a lles.
Mynegodd Richard Dale, Pennaeth Datblygiad Busnes Casnewydd Fyw ei frwdfrydedd dros y digwyddiad, gan ddweud, "Rydym yn gyffrous i agor ein drysau ar gyfer Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol. Mae'n gyfle gwych i edrych ar ein cyfleusterau a siarad â'n tîm am eich nodau ffitrwydd a sut y gallwn eich helpu i'w diwallu. Rydym yn ymfalchïo yn y rhaglenni pwrpasol a ddarparwn i'n haelodau; gydag ystod eang o aelodaeth, cefnogaeth bersonol, gwiriadau iechyd rheolaidd, mynediad i'n tîm talentog o hyfforddwyr ac ystod eang o ddosbarthiadau ymarfer corff, gallwn eich cefnogi bob cam o'r ffordd i'ch helpu i gyflawni eich nodau ffitrwydd."
Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw, "Mae'r diwrnod agored yn gyfle gwych i bawb ddysgu am bopeth sydd ar gael yn Casnewydd Fyw. Mae gweithgarwch corfforol yn ffactor hanfodol wrth gynnal a gwella eich iechyd a'ch lles cyffredinol ac mae'r Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol yn amser perffaith i'n helpu i dynnu sylw at hyn. Dewch draw i weld sut y gallwn eich cefnogi i ddod yn hapusach ac yn iachach."
Ymunwch â Casnewydd Fyw ar 20 Medi rhwng 8am ac 8pm yng nghampfa newydd canol y ddinas, Station, yng Nghanolfan Cambrian, yng Nghanolfan Tennis a Nofio Ranbarthol neu yn Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas. Neu'r Ganolfan Byw'n Actif ym Metws rhwng 4pm ac 8pm i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Ffitrwydd. P'un a ydych chi'n frwd dros ffitrwydd neu megis dechrau eich taith lles, mae'r Diwrnod Agored hwn yn gyfle perffaith i ddarganfod mwy am yr hyn sydd ar gael i chi yn Casnewydd Fyw, tra'n cefnogi'r Ymddiriedolaeth Elusennol.