Mae Prawf Iechyd yn ffordd wych o osod man cychwyn ac i chi gadw golwg ar eich cynnydd trwy gydol eich taith ffitrwydd.
Mae Casnewydd Fyw yn cynnig Prawf Iechyd AM DDIM a gynhelir gan ein timau ffitrwydd cwbl gymwys gan ddefnyddio peiriannau InBody a Tanita o'r radd flaenaf sy'n mesur:
· Pwysau
· BMI (Mynegai Màs y Corff)
· Braster y Corff
· Braster Perfeddol (Braster Peryglus o Amgylch yr Organau Mewnol)
· Màs y Cyhyrau
· Lefelau Hydradu
· Dwysedd yr Esgyrn
Mae mesuriadau'r corff a gofnodir yn cael eu lanlwytho'n awtomatig i app Iach ac Actif Casnewydd Fyw, gan eich galluogi i gadw golwg ar eich statws iechyd, rheoli eich rhaglen hyfforddi a rhannu eich data symud â'r tîm ffitrwydd i dderbyn cymorth hyfforddiant personol.
Cynhelir archwiliadau iechyd yn y lleoliadau canlynol: y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol, Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas a Chanolfan Casnewydd.
Cyfle i Ennill!
Archebwch Brawf Iechyd AM DDIM yn ystod mis Rhagfyr i gael cyfle i ennill Huawei Band 4.*
Mae'r traciwr gweithgareddau yn cyfrif eich camau, curiad y galon, calorïau wedi'u llosgi, a'r pellter a deithiwyd, fel y gallwch gael syniad clir o'ch iechyd a'ch ffitrwydd i greu trefn hyfforddi fwy effeithiol.
Gellir archebu profion iechyd ar-lein, trwy app Casnewydd Fyw (gyda chymorth staff y gampfa) neu drwy ffonio 01633 656 757.