Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn croesawu amrywiaeth o enwau mawr ym myd comedi i'w llwyfan dros y misoedd nesaf ac maent yn gwahodd cynulleidfaoedd i ymuno yn yr hwyl.
Nos Wener 13 Mai bydd Scott Bennett, a ddisgrifiwyd yn ddiweddar gan yr Evening Standard fel "Live Comedy’s best kept secret” yn cyflwyno ‘Great Scott’. Mae Scott wedi ysgrifennu ar gyfer llawer o berfformwyr uchel eu proffil fel Chris Ramsey a Jason Manford, ac yn ddiweddar gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar Live at the Apollo ar BBC 1. Gyda galw mawr amdano fel awdur comedi a gydag ymddangosiadau rheolaidd ar The News Quiz a The Now Show ar BBC Radio 4, mae dyfodol disglair i Scott.
Alfie Moore: Fair Cop Unleashed fydd ar y llwyfan ar nos Sadwrn 25 Mehefin. Mae Fair Cop Unleashed yn seiliedig ar ddigwyddiad dramatig go iawn o lyfr achosion heddlu Alfie, sy’n cyn-blismon ac yn un o sêr Radio 4. Dyma gyfle i ail-fyw helyntion noson lawn cyffro pan ddaeth clown rhyfedd i’r dref, gyda mwy nag un bywyd o’r herwydd yn y fantol. Doedd neb yn chwerthin bryd hynny - ond mae’r sioe’n siŵr o’ch goglais! Mwynhewch frand unigryw Alfie o hiwmor wedi'i blethu'n ddoniol ynghyd â'i farn bersonol ar fywyd yn deillio o’i brofiad ar rengoedd blaen yr heddlu.
Yn yr hydref, ar ddydd Sadwrn 12 Tachwedd, bydd Jayde Adams yn cyflwyno ei sioe newydd 'Men, I Can Save You.' Yn gomediwraig ac actor sydd wedi ennill sawl gwobr, cafodd sioe arbennig Jayde Adam ei rhyddhau ar Amazon Prime gan dderbyn clod byd-eang, a chafodd ei rhestru ar gyfer Emmy. Mae dros 156 miliwn wedi ei gwylio. Mae Jayde yn un o sêr cyfres deledu fuddugol BAFTA Sophie Willan, Alma's Not Normal (BBC Two), y ffilm Take That, Greatest Days sydd ar y gweill, a hefyd Good Omens Neil Gaiman (Amazon Prime). Hi yw cyd-gyflwynydd y gyfres a enwebwyd ar gyfer BAFTA Snackmasters a'r llwyddiant mawr ar Netflix, Crazy Delicious.
Bydd y digwyddiau misol poblogaidd Aftermirth a’r Comedy Shed hefyd yn parhau yng Nglan yr Afon dros y misoedd nesaf.
Ar ddydd Mawrth olaf pob mis am 11.30am, mae Aftermirth yn glwb comedi i oedolion yn ystod y dydd y gall rhieni ei fynychu gyda'u babanod o dan 18 mis oed. Bydd comedïwyr blaenllaw yn cyflwyno eu sioeau clwb poblogaidd felly bydd y deunydd yn aeddfed ac yn sicr ar gyfer oedolion sy’n mwynhau adloniant comedi o'r ansawdd gorau ond efallai'n ei chael hi'n anodd mynychu gyda’r nos oherwydd gofynion gofal plant.
Mae’r Comedy Shed yn digwydd ar ddydd Gwener olaf y mis. Dros y misoedd nesaf bydd y clwb hamddenol, ar ffurf cabaret, yn croesawu comedïwyr fel Eleri Morgan, Tom Ward, Raj Poojara, Jake Lambert a mwy. Mae'r perfformwyr i gyd i’w gweld ar wefan Casnewydd Fyw.
I gael gwybod mwy am y digwyddiadau comedi gwych hyn yng Nglan yr Afon dros y misoedd nesaf ac i archebu tocynnau, ewch i casnewyddfyw.co.uk/Riverfront neu ffoniwch y tîm archebu ar 01633 656757.