CULTIVATE yw digwyddiad perfformiad crafu newydd Glan yr Afon sy'n caniatáu i Gynulleidfaoedd gwrdd ag Artistiaid wrth iddynt rannu perfformiadau byr o waith newydd sbon sydd ar y gweill.
Ar hyn o bryd rydym yn ceisio cysylltu ag amrywiaeth eang o Artistiaid/Casgliadau/Grwpiau sy'n canolbwyntio'n bennaf ar Berfformiad Byw ar gyfer y llwyfan.
Rydym yn deall bod y term "Perfformiad Byw" yn anhygoel o agored a dyna beth rydym yn gyffrous iawn amdano, gan fod CULTIVATE yn cynnig llwyfan agored ar gyfer syniadau newydd radical, annodweddiadol a blaengar. Rydym am groesawu Artistiaid sydd â gweledigaeth ac ymagwedd unigryw fel y gallwn weithio gyda'n gilydd i feithrin ffyrdd newydd o rannu syniadau â'n cynulleidfaoedd a'n cymunedau.
YR HYN RYDYM YN EI GYNNIG
Rydym yn cynnig cyfle i Artistiaid/Grwpiau wneud cais am gyfnod preswyl byr yn theatr Glan yr Afon a fydd yn arwain at rannu perfformiad byr o waith newydd fel rhan o Noson Grafu CULTIVATE nos Iau 12 Mai 2022.
Bydd artistiaid/grwpiau yn derbyn:
- 3x diwrnod o le ymarfer yng Nglan yr Afon
- Cymorth gan Gynhyrchydd Creadigol llawrydd
- Cymorth technegol ar gyfer perfformiad fel rhan o Noson Grafu Cultivate
- £150 (fesul Artist/Grŵp) am dreuliau
- Fersiwn wedi'i ffilmio o'r gwaith i'w ddatblygu yn y dyfodol.
YR HYN RYDYM YN CHWILIO AMDANO
Datganiadau o ddiddordeb gan Artistiaid a Grwpiau (grwpiau cydweithredol, cwmnïau, parau ac ati) y mae ganddynt syniad a fyddai'n elwa o gael ei ddatblygu ymhellach fel rhan o CULTIVATE. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn gwaith a fydd, mae’n debyg, yn elwa o gael ei rannu o flaen cynulleidfa fyw.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn gwaith sy'n cael ei arwain gan Artistiaid o grwpiau sydd fel arfer ar gyrion y gymdeithas. Rydym am gefnogi pobl i archwilio syniadau a naratifau penodol wedi'u llywio gan brofiad a phroffil Artistiaid/Grwpiau y gall eu gwaith ddylanwadu ar sgwrs ehangach â chynulleidfaoedd a chymunedau.
Fel rhan o'r cynnig hwn rydym am sicrhau bod pawb yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel a’u bod yn gallu archwilio eu gwaith i'r eithaf. I’r perwyl hwn, gall unigolion amlinellu unrhyw anghenion penodol a allai fod ganddynt isod.
Yn achos gwaith arweiniol Anabledd, rydym yn awyddus i gyd-ddatblygu atodiad mynediad wedi'i deilwra i'ch anghenion penodol, os bydd cais yn llwyddiannus.
Yn gyffredinol, rydym yn chwilio am gyfanswm o 4 Artist/Grŵp a fydd yn ffurfio arddangosfa gyffrous o berfformiadau gwaith ar y gweill fel rhan o Noson Grafu CULTIVATE.
Ni ddylai pob perfformiad bara mwy na 25 munud.
Dylai'r holl waith fod yn addas ar gyfer cynulleidfaoedd 14+ oed.
Bydd pob Artist/Grŵp yn gweithio gyda Chynhyrchydd Creadigol i deilwra modelau adborth cynulleidfaoedd, fel rhan o'r digwyddiad.
DYDDIAD CAU AR GYFER CEISIADAU: Dydd Gwener 15 Ebrill 2022
GWNEUD CAIS: https://docs.google.com/forms/d/1gkhBJSB6C3tJ2PamZRCYdBfocuFT7qtlJ65uSKcz3Zg/edit
RHAGOR O WYBODAETH: E-bost justinteddycliffe@hotmail.com
Cyfle i berfformio gwaith newydd i gynulleidfa agored a chyfeillgar er mwyn casglu adborth y mae mawr ei angen ar brosiectau arbrofol newydd.
Cyfle i gynnal ymarfer agored neu ddarllen sgript o flaen torf gyfeillgar i brofi sgript neu ddrama newydd gyffrous.
Cyfle i greu rhywbeth newydd, gyda mynediad i le am ddim, a chymorth cynhyrchydd creadigol yng Nglan yr Afon.
Cyfle i ddatblygu eich ymarfer trwy gymryd peth amser i feddwl am brosiectau newydd a gwaith newydd cyn rhannu rhywbeth â chynulleidfa.