Nawr bod Tymor yr Hydref yn dirwyn i ben yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, mae’n werth i ni edrych yn ôl ar rai o'r prosiectau a'r digwyddiadau gwych rydyn ni wedi bod yn rhan ohonynt dros y misoedd diwethaf.

Fis Hydref oedd Mis Ymwybyddiaeth Corachedd a braint oedd cael dathlu gydag arddangosfa Short Perspectives a gynhaliwyd gan Danielle Webb ac a gefnogwyd gan Urban Circle. Lansiwyd yr arddangosfa gyda digwyddiad a dangosiad o'r ffilm 'Short Perspectives'. Tynnodd yr arddangosfa sylw at hygyrchedd a chynhwysiant ac anogodd bobl i ddysgu am bobl sydd â’r cyflwr Corachedd yn ein cymuned a'u dathlu.

Croesawodd Oriel yr islawr yr artist Neale Howells ac Arddangosfa Pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru. Roedd Glan yr Afon yn un o'r llu o leoliadau a gynhaliodd y digwyddiadau dros dro oedd wedi’u trefnu i nodi a dathlu 10 mlynedd ers agor Llwybr yr Arfordir.

Lansiwyd 'ROOTS' ym mis Hydref hefyd, sef ein clwb celf misol i fenywod a merched o gymunedau lleiafrifol byd-eang, lansiwyd y Gynhadledd Roma Ryngwladol a ffarweliwyd â'r prosiect goleudy gyda gorymdaith llusernau a chyfres o weithdai.

Rhwng 29 Hydref a 5 Tachwedd roedd holl leoliadau Casnewydd Fyw yn prysuro gyda phlant yn cymryd rhan yng ngweithgareddau hanner tymor mis Hydref. Gwelsom weithdai poblogaidd fel Heidi Makes, Clwb Gwnïo Oh! Susannah a Dydd Sadwrn Crefftus yn dychwelyd, yn ogystal â rhai newydd, gan gynnwys Future Creatives mewn partneriaeth â'r Sefydliad Materion Cymreig. Am fwy o wybodaeth am weithdai yn Glan yr Afon ewch i'n gwefan Perfformiadau i ddod | Perfformiadau yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon (casnewyddfyw.co.uk) neu cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 01633 656757.

Fel rhan o ŵyl Gwrthryfel Casnewydd, cynhaliodd Glan yr Afon y gweithdy Sgyrsiau Creadigol lle'r oedd pobl yn creu collages gan ddefnyddio papurau newydd a chylchgronau Cymreig ac yn cynnal sgyrsiau diddorol am ddyfodol y wlad. Bu'r ŵyl yn llwyddiant ysgubol ac mae'n parhau i gydnabod pwysigrwydd y digwyddiad yn hanes Casnewydd.

Bob blwyddyn mae Casnewydd Fyw yn cefnogi gŵyl Art on The Hill, sy’n para’r penwythnos ac yn dathlu cymuned greadigol Casnewydd a'i gwaith. Eleni, cynhaliodd Glan yr Afon y Farchnad Gwneuthurwyr sy'n dod â chrefftwyr, gwneuthurwyr, artistiaid a busnesau annibynnol at ei gilydd i greu marchnad gymunedol wych, leol. Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol ac rydym eisoes yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf.

Mae ein mannau perfformio gwych yn Theatr Glan yr Afon wedi bod mor brysur ag erioed, gyda'n prif theatr a theatr stiwdio yn llwyfannu amrywiaeth enfawr o berfformiadau. Clywsom gan sylwebydd Tour De France ITV, Ned Boulting; cawsom ein syfrdanu gan berfformiad grymus o Angel gan Theatr Torch, a chawsom gynulleidfa enfawr gyda'r sioe deuluol, The Owl at Home gan Theatr Iolo. Daeth Theatr Bara Caws hefyd i Glan yr Afon gyda'u perfformiad hynod lwyddiannus, Un Noson Ola Leuad. Dychwelodd Cultivate, noson sgratsh Glan yr Afon, ond y tro hwn gyda myfyrwyr o Brifysgol De Cymru.

Gan barhau â'u gwaith anhygoel gyda'r gymuned, mae ein tîm Datblygu ac Ymgysylltu â'r Celfyddydau wedi gweithio gyda Llamau, elusen sy'n cefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, a grŵp Teuluoedd Gyda'n Gilydd sy'n cefnogi mamau newydd wrth fynd i'r afael â theimlo’n unig ac iselder. Trefnwyd teithiau grŵp i'r panto ac amryw o weithdai gyda'r gwahanol grwpiau.

Roeddem wrth ein bodd yn gweld Pantomeim Glan yr Afon yn dychwelyd. Mae'r Theatr wedi'i haddurno ag iorwg, llythrennau anferth ac arwyddion sydd wedi'u haddurno'n hyfryd gan ysgolion a grwpiau lleol. Cafodd llawer o'r llythrennau a'r arwyddion eu rhoi yn garedig gan Smurfitt Kappa. Gan gydnabod bod y Nadolig yn gallu bod yn gyfnod unig neu anodd i rai, eleni mae ffocws arbennig wedi'i roi ar les. Mae wal les i'r Oriel Gelf gyda choeden wedi ei haddurno â llythyrau o ddiolchgarwch gafodd eu hysgrifennu gan blant mewn ysgolion lleol. Dewch i ymweld â'r oriel, darllenwch y llythyrau ac ysgrifennu un eich hun hyd yn oed.

Cynhaliodd Glan yr Afon noson westai ar 1 Rhagfyr, gan groesawu ffrindiau, cydweithwyr a chefnogwyr y lleoliad. Bu'r noson yn llwyddiant ysgubol ac mae'r perfformiad wedi derbyn adolygiadau canmoliaethus. Disgrifiodd Entertainment South Wales y sioe fel panto llwyddiannus dros ben oedd heb os y digwyddiad na ellir ei golli yng Nghasnewydd y Nadolig hwn a rhoddodd Wales Online sgôr o ''un biliwn allan o 10'' i’r perfformiad.

Mae Robin Hood yn y theatr tan 7 Ionawr, felly archebwch eich tocynnau nawr os nad ydych chi wedi gwneud hynny'n barod: Casnewydd Fyw | Digwyddiadau

Fel pob tymor arall, mae'r un yma wedi bod yn brysur. Gyda chymaint yn mynd ymlaen, mae'n amhosib crynhoi'r cyfan mewn un. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan, cefnogi a mynychu unrhyw ddigwyddiadau a gweithgareddau rydym wedi'u trefnu. Os hoffech ymuno a chymryd rhan, anfonwch e-bost atom ar customerservice@newportlive.co.uk neu ffoniwch ni ar 01633 656757.