Newport Live instructor talking  to two young boys on fitness bikes

Rhaglen Addysg Amgen – Ailagor 

Bydd Casnewydd Fyw yn croesawu ei raglen addysg amgen yn ôl yn sgil ailagor ysgolion o ddydd Llun 29 Mehefin. Bydd y tîm yn dilyn neges allweddol Llywodraeth Cymru drwy ddarparu swyddogaeth hollbwysig "Ailgydio, Dal i fyny, Paratoi ar gyfer yr haf a mis Medi" ar gyfer ein pobl ifanc a'u teuluoedd. 

Mae'r tîm yn edrych ymlaen at ddarparu amgylchedd cyfeillgar, diogel, gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith, i gynnig cyfleoedd personol i gael cymorth gyda lles cymdeithasol ac emosiynol, yn ogystal â meithrin cydnerthedd yn dilyn cyfnodau estynedig o fod yn ynysig a mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau i ddysgu parhaus.
Bydd pob un o'n pobl ifanc yn gallu manteisio ar o leiaf 7.5 awr o amser cyswllt yr wythnos yn ogystal â chymorth digidol lle bo angen, er mwyn sicrhau bod ein dysgwyr yn parhau mewn cysylltiad, a bod eu diddordeb wedi eu gynnau mewn ffordd sy’n ysbrydoli.   

Drwy gydol yr haf bydd y staff yn gweithio'n ddiflino i baratoi a sefydlu rhaglen ysbrydoledig a difyr yn barod ar gyfer mis Medi a fydd yn rhoi sylw arbennig i wella sgiliau bywyd, ymgysylltu â'r gymuned a chyflawni’n addysgol.   

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen addysg amgen, cysylltwch â enquiries@newportlive.co.uk