Bydd strydoedd canol Casnewydd yn llawn hud arbennig, gwisgoedd gwarthus, golygfeydd ysblennydd a gwallgofrwydd cerddorol cyn bo hir.

Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon yn brysur yn paratoi ar gyfer gŵyl celfyddydau awyr agored am ddim fwyaf Cymru, Sblash Mawr, a fydd yn dod i Gasnewydd ar 22 a 23 Gorffennaf.

Cafodd y rhagflas cyntaf ei ryddhau 3 wythnos yn ôl ac rydym yn falch iawn o allu rhoi gwybod i chi fod gennym y wybodaeth ddiweddaraf am hyd yn oed mwy o berfformwyr a fydd yn llenwi’r strydoedd ac yn eich syfrdanu chi i gyd gyda theatr stryd hynod ddoniol!

SWAN IN LOVE (with logos).jpg

Yn dychwelyd gyda'u wigiau melyn llachar mae Gary a Pel, ond y tro hwn byddant yn pedlo i galonnau cynulleidfaoedd; gan wahodd pawb i ddawnsio’n araf, tynnu lluniau a mwynhau 'reid ramantus' ar eu pedalo alarch 7 troedfedd. Byddwch yn barod ar gyfer Swan in Love, perfformiad cerdded bendigedig a hardd. 

Big Splash 2023 Holes

Yn hardd, hwyliog, chwareus, cyfranogol ac anhygoel; bydd Karina Jones, artist cylchynau awyrol yn arddangos Holes, perfformiad am ddwy fenyw, un â nam ar y golwg, sy'n cwympo trwy dwll dirgel yn y gofod ac yn ein tywys trwy eu taith hynod ddychmygus. Mae'n dangos profiad pobl sydd â nam ar y golwg o'r dechrau ac yn ei wreiddio yng nghalon y perfformiad i bawb. Mae'r sioe yn ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg gyda disgrifiad sain wedi'i fewnosod. 

Big Splash Captive

Nid dyna ddiwedd yr acrobatiaid! Bydd Captive yn perfformio eu darn athletaidd sy'n ystyried y syniad o gaethiwed dynol. Mae pedwar dawnsiwr yn perfformio'r cyfuniad cyffrous hwn o ddawns, acrobateg a gwaith awyrol mewn cawell mawr. Yn ddryslyd ac yn sigledig, mae'r perfformwyr yn defnyddio eu sgil a'u greddf i oroesi yn y perfformiad emosiynol hwn. Mae Captive, sy’n eithriadol gorfforol ac yn cynnwys cyfuniad gwefreiddiol o ddawns ac acrobateg gyda naratif deinamig sy'n ystyried perthnasau dynol mewn caethiwed, yn cael ei berfformio gan y cwmni dawns enwog, Motionhouse.

Mud Pies Krystal Lowe

Bydd wyneb cyfarwydd yn Theatr Glan yr Afon, Krystal S. Lowe, yn perfformio yn Sblash Mawr gyda'i darn o'r enw, Mud Pies. Mae’r perfformiad rhyngweithiol hwn yn dod â chorfforoldeb garddio ac archwilio natur ynghyd ac yn rhannu sut mae llanast a chamgymeriadau yn hanfodol i dwf a lles. Bydd y perfformiad hwn yn mynd â chi ar archwiliad llawen o bridd!

frogs in bogs.jpg

Mae Familia de la Noche yn ychwanegu at y gwiriondeb i deuluoedd yn yr ŵyl gyda'u sioe ddwyieithog newydd sbon, Frogs in Bogs / Brogs y Bogs. Mae'r sioe ddwyieithog ddoniol hon, sy’n llawn neidio a dawnsio yn berffaith i blant 4+ oed ac yn cynnig diwrnod anhygoel allan i'r teulu i gyd, gyda cherddoriaeth newydd gan y cerddorion roc celf talentog o Gaerdydd, Heledd Watkins a Sam Roberts (HMS Morris).

Yn union fel pob blwyddyn arall, mae'r rhaglen eleni yn llawn adloniant difyr, diddorol, a doniol i deuluoedd. Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl yn cael ei rhyddhau ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol Glan yr Afon. I gael y wybodaeth ddiweddaraf ewch i https://www.newportlive.co.uk/cy/Theatr-a-Chelfyddydau/Gwyliau-a-Digwyddiadau/Sblash-Mawr/ 

Hoffai Theatr Glan yr Afon ddiolch i Gyngor Celfyddydau Cymru, Newport Bus, Friars Walk, AGB Casnewydd sydd wedi gwneud yr ŵyl yn bosibl. Ynghyd â Chyngor Dinas Casnewydd, Gwesty'r Mercure a phartneriaid y digwyddiad, Le Pub, am eu cefnogaeth barhaus.

Mae'r ŵyl yn ddigwyddiad na ddylid ei golli sy'n cael ei gynnal ar 22 a 23 Gorffennaf ledled canol dinas Casnewydd, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw'r dyddiad yn eich dyddiadur!