Dim Contract Na Ffi Ymuno
Rydyn ni'n hoffi cadw pethau'n syml felly does dim contract na ffi ymuno sy'n golygu llai o gostau a phwysau i chi!
Gallwch fyw bywyd iachach a hapusach gydag aelodaeth Casnewydd Fyw! Does dim ots os ydych chi'n gweithio allan yn rheolaidd neu os ydych chi'n ddechreuwyr llwyr, rydym ni yma i'ch cefnogi ac i'ch helpu i gyflawni eich nodau ffitrwydd. Gwell gweithio ar eich pen eich hun? Mae hynny’n iawn hefyd. Eich taith chi, eich ffordd chi!
Dechreuwch eich taith ffitrwydd gyda ni a bydd gennych fynediad at 5 o'n lleoliadau a'n cyfleusterau unigryw ledled Casnewydd lle gallwch elwa ar:
Rydyn ni'n hoffi cadw pethau'n syml felly does dim contract na ffi ymuno sy'n golygu llai o gostau a phwysau i chi!
Cadwch yn heini gyda mynediad at 5 campfa unigryw ar draws y ddinas sy’n cynnig ystod eang o bwysau swyddogaethol, cardiofasgwlaidd a phwysau rhydd i'ch cadw mewn cyflwr da!
Plymiwch i un o'n dau bwll 25m ar gyfer nofio hamddenol neu lonydd i roi hwb i'ch ffitrwydd a chynnal cymhelliant!
Dewiswch o amrywiaeth eang o ddosbarthiadau ymarfer corff cyffrous bob dydd. P'un a ydych chi'n magu cryfder a symudedd neu'n ymarfer ymlacio, mae rhywbeth at ddant pawb!
Mynediad at ystod o sesiynau cymorth personol gan gynnwys sesiynau 1 i 1 wythnosol sydd wedi’u cynllunio i'ch ysgogi a’ch cadw ar y trywydd iawn i wireddu eich nodau ffitrwydd.
1 sesiwn y dydd o naill ai tennis, badminton, pêl-bicl neu dennis bwrdd, ffordd wych o roi cynnig ar weithgaredd newydd gyda ffrindiau neu amrywio eich rhaglen ffitrwydd.
Gyda 5 lleoliad a chyfleuster unigryw, gallwch ddewis y lleoliad sydd mwyaf cyfleus i chi a'ch nodau ymarfer.
Mae eich aelodaeth yn rhoi mynediad hawdd i chi archebu eich hoff sesiynau 8 diwrnod ymlaen llaw, boed hynny ar ein gwefan, ein Ap neu'n bersonol fel na fyddwch yn colli allan.
Tretiwch eich hun a'ch ffrindiau neu'ch teulu i’r ffilmiau gorau diweddaraf, ffefrynnau'r teulu, ffilmiau annibynnol a rhaglenni dogfen yn Sinema Glan yr Afon.
Byddwch ymhlith y cyntaf i wybod am ostyngiadau gwych ar docynnau theatr dethol yn Theatr Glan yr Afon.
Cliciwch yma i weld telerau ac amodau aelodaeth.
Gallwch fynd i’n dosbarthiadau a defnyddio ein cyfleusterau hyd yn oed os nad ydych wedi ymaelodi. Cofrestrwch i gael mynediad hawdd ac am ddim at y system archebu a thalu ar-lein.
Mwy o wybodaethI’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich aelodaeth, rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau Cymorth Personol yng nghampfa’r Orsaf ac ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, cartref Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas a'r Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw trefnu’r sesiwn gymorth o’ch dewis.
Ar ôl i chi ymaelodi gyda Casnewydd Fyw, rydym yn argymell archebu eich sesiwn Groeso i Aelodau naill ai ar ein gwefan, ar Ap Casnewydd Fyw neu yn bersonol, cyn gynted â phosibl. Byddwch yn cwrdd â hyfforddwr a fydd yn helpu i'ch tywys o amgylch ein holl gyfleusterau a rhaglenni yn seiliedig ar eich nodau.
Mae Archwiliadau Iechyd yn ffordd wych o asesu eich lefelau ffitrwydd cyfredol, cyfansoddiad y corff, pwysedd gwaed, a mwy. Mae canlyniadau eich archwiliad iechyd yn rhoi man cychwyn i chi olrhain eich cynnydd. Rydym yn argymell archebu archwiliad iechyd bob mis er mwyn i chi allu gadw ffocws ar eich taith lles.
Wedi'i deilwra gan ein hyfforddwyr cymwys i gyflawni eich nodau a chynnal eich cymhelliant. Rydym yn argymell archebu adolygiad rheolaidd o'ch rhaglen bersonol bob 4 i 6 wythnos.
Mwynhewch 30 munud o arweiniad personol, cymhelliant a chefnogaeth gan ein hyfforddwyr, boed yn gyngor ar faeth neu'n arweiniad ar ddefnyddio offer i gael canlyniad penodol, bydd ein hyfforddwyr yn canolbwyntio ar eich anghenion.
Ymunwch â sesiynau llawn hwyl fel Cylchedau, Rig Fit a Ffitrwydd Swyddogaethol mewn awyrgylch cefnogol a bywiog, sy'n berffaith ar gyfer cwrdd â phobl o'r un anian.
£40.65 y mis
neu £365.85 y flwyddyn gyda 3 mis am ddim, gan arbed £121.95
Ymunwch Ar-Lein NawrAelodaeth lawn i oedolion 17-59 oed.
£26.15 y mis
neu £235.35 y flwyddyn gyda 3 mis am ddim, gan arbed £73.50
Ymunwch Ar-Lein NawrAelodaeth lawn i oedolion 17-59 oed. Oriau tawelwch yw hyd at 4pm bob dydd.
£20.35 y mis
neu £183.15 y flwyddyn gyda 3 mis am ddim, gan arbed £61.05
Ymunwch Ar-Lein NawrAelodaeth ffitrwydd ar gyfer aelodau rhwng 17 a 23 oed.
£25.00 y mis
neu £225.00 y flwyddyn gyda 3 mis am ddim, gan arbed £75
Ymunwch Ar-Lein NawrAr gyfer aelodau 17+ oed sydd ond eisiau defnyddio'r cyfleusterau yn yr Orsaf.
£24.45 y mis
neu £220.05 y flwyddyn gyda 3 mis am ddim, gan arbed £66.15
Ymunwch Ar-Lein NawrRydym yn cynnig aelodaeth ratach i'r rhai ar fudd-daliadau penodedig a myfyrwyr.
£22.05 y mis
neu £198.45 y flwyddyn gyda 3 mis am ddim, gan arbed £66.15
Ymunwch Ar-Lein NawrRydym yn cynnig aelodaeth ratach i'r rhai ar fudd-daliadau penodedig a myfyrwyr.
£33.65 y mis
neu £302.85 y flwyddyn gyda 3 mis am ddim, gan arbed £100.95
Ymunwch Ar-Lein NawrRydym yn cynnig aelodaeth ratach i'n partneriaid corfforaethol.
£20.35 y mis
neu £183.15 y flwyddyn gyda 3 mis am ddim, gan arbed £61.05
Ymunwch Ar-Lein NawrAelodaeth lawn i’r rhai 11 i 16 oed.
£31.10 y mis
neu £279.90 y flwyddyn gyda 3 mis am ddim, gan arbed £93.30
Ymunwch Ar-Lein NawrAelodaeth nofio yn unig ar gyfer oedolion 17-59 oed.
£30.50 y mis
neu £274.50 y flwyddyn gyda 3 mis am ddim, gan arbed £91.50
Ymunwch Ar-Lein NawrAelodaeth dosbarthiadau ymarfer yn unig ar gyfer oedolion 17-59 oed.
£18.30 y mis
neu £164.70 y flwyddyn gyda 3 mis am ddim, gan arbed £54.90
Ymunwch Ar-Lein NawrAelodaeth nofio a dosbarthiadau dŵr i oedolion dros 60 oed.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now