Cyfeiriadau IP a Chwcis

Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i'ch gwahaniaethu chi oddi wrth ddefnyddwyr eraill ein gwefan. Gellir cael gwybodaeth am eich defnydd cyffredinol o'r rhyngrwyd o’r ffeiliau cwcis hyn sy'n cael eu storio ar yriant caled eich cyfrifiadur. Mae cwcis yn cynnwys gwybodaeth sy'n cael ei throsglwyddo i yriant caled eich cyfrifiadur. Maen nhw’n ein helpu i wella ein gwefan ac i ddarparu gwasanaeth gwell a mwy personol.


Rydym yn defnyddio'r mathau canlynol o gwcis:

Cwcis hollol angenrheidiol. ​​​​​​Mae'r rhain yn gwcis sy'n ofynnol ar gyfer gweithredu ein gwefan. Maen nhw’n cynnwys, er enghraifft, cwcis sy'n eich galluogi i fewngofnodi i rannau diogel o'n gwefan.

Cwcis Dadansoddi/Perfformiad. Maen nhw’n ein galluogi i adnabod a chyfri nifer yr ymwelwyr a gweld sut mae ymwelwyr yn symud o amgylch ein gwefan wrth ei defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i wella'r ffordd y mae'r wefan yn gweithio, er enghraifft, drwy sicrhau bod defnyddwyr yn dod o hyd i'r hyn maen nhw’n chwilio amdano'n hawdd.

Cwcis swyddogaethol. Defnyddir y rhain i'ch adnabod pan fyddwch yn dychwelyd i'n gwefan. Mae hyn yn ein galluogi i bersonoli ein cynnwys i chi, eich cyfarch wrth eich enw a chofio eich dewisiadau (er enghraifft, eich dewis iaith neu ranbarth).

Cwcis Targedu/Hysbysebu. ​​​​Mae'r cwcis hyn yn cofnodi eich ymweliad â'n gwefan, y tudalennau rydych chi wedi ymweld â nhw a'r dolenni rydych chi wedi'u dilyn. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i wneud ein gwefan a'r hysbysebion a ddangosir arni yn fwy perthnasol i'ch diddordebau. Efallai y byddwn hefyd yn rhannu'r wybodaeth hon â thrydydd partïon at y diben hwn.


 

Yn fwy penodol, rydym hefyd yn defnyddio'r canlynol:


Cwcis hollol angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn hanfodol er mwyn eich galluogi i symud o amgylch y wefan a defnyddio’i nodweddion, fel cyrchu rhannau diogel o'r wefan. Heb y cwcis hyn ni ellir darparu'r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt, fel cyflwyno ffurflenni gwe yn ddiogel.

Cwcis 'hollol angenrheidiol' a gedwir pan fydd defnyddiwr yn ymweld â'r wefan hon:

Enw Cyhoeddwr Diben Dod i ben
ConcreteSitemapTreeID Casnewydd Fyw Dibenion gwefan amlieithog Hyd sesiwn y wefan
ccm-sitemap-selector-tab Casnewydd Fyw Dibenion gwefan amlieithog Hyd sesiwn y wefan



Cwcis Dadansoddi/Perfformiad

Mae'r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio gwefan, er enghraifft pa dudalennau y mae ymwelwyr yn ymweld â nhw amlaf, ac os ydyn nhw’n cael negeseuon gwall o dudalennau gwe. Nid yw'r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth sy'n adnabod ymwelydd. Caiff yr holl wybodaeth y mae'r cwcis hyn yn ei chasglu ei chronni ac felly mae’n ddienw. Fe'i defnyddir i wella sut mae gwefan yn gweithio yn unig.

Cwcis 'perfformiad' a gedwir pan fydd defnyddiwr yn ymweld â'r wefan hon:

Enw Cyhoeddwr Diben Dod i ben
_ga Google Cynhyrchwyd gan Google ar gyfer dadansoddeg gwefan 2 flynedd
_ga_########## [x5] Google Fe'i defnyddir i gasglu ystadegau gwefan ac olrhain cyfraddau trosi. 14 mis
LGTCMSSESSION Casnewydd Fyw Dadfygio materion gwefan Hyd sesiwn y wefan

 

Cwcis swyddogaethol

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i'r wefan gofio’r dewisiadau rydych chi’n eu gwneud (fel eich enw defnyddiwr, iaith neu'r rhanbarth rydych ynddo) a darparu nodweddion gwell a mwy personol. Er enghraifft, efallai y bydd gwefan yn gallu darparu adroddiadau tywydd neu newyddion traffig lleol i chi drwy storio mewn cwci y rhanbarth lle rydych chi wedi'ch lleoli ar hyn o bryd. Gellir defnyddio'r cwcis hyn hefyd i gofio newidiadau yr ydych wedi'u gwneud i faint testun, ffontiau a rhannau eraill o dudalennau gwe y gallwch eu haddasu. Gellir eu defnyddio hefyd i ddarparu gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanyn nhw fel gwylio fideo neu roi sylwadau ar flog.

Cwcis 'Swyddogaethol' a gedwir pan fydd defnyddiwr yn ymweld â'r wefan hon:

Enw Cyhoeddwr Diben Dod i ben
LGTCMSSESSION Casnewydd Fyw Dadfygio materion gwefan Hyd sesiwn y wefan
ConcreteSitemapTreeID Casnewydd Fyw Dibenion gwefan amlieithog Hyd sesiwn y wefan
ccm-sitemap-selector-tab Casnewydd Fyw Dibenion gwefan amlieithog Hyd sesiwn y wefan



Cwcis Targedu/Hysbysebu

Defnyddir y cwcis hyn i ddarparu hysbysebion sy'n fwy perthnasol i chi a'ch diddordebau. Fe'u defnyddir hefyd i gyfyngu ar nifer yr amseroedd y byddwch chi'n gweld hysbyseb yn ogystal â helpu i fesur effeithiolrwydd yr ymgyrch hysbysebu. Fe'u gosodir fel arfer gan rwydweithiau hysbysebu gyda chaniatâd gweithredwr y wefan. Maen nhw’n cofio eich bod wedi ymweld â gwefan a rhennir yr wybodaeth hon â sefydliadau eraill fel hysbysebwyr.

Cwcis 'targedu neu hysbysebu' a gedwir pan fydd defnyddiwr yn ymweld â'r wefan hon:

Enw Cyhoeddwr Diben Dod i ben
_fbp Facebook Storio ac olrhain ymweliadau ar draws y wefan 3 mis
sb Facebook Storio manylion porwr 2 flynedd
_scid sc-static.net Yn gosod dull adnabod unigryw ar gyfer yr ymwelydd, sy'n caniatáu i hysbysebwyr trydydd parti dargedu'r ymwelydd â hysbyseb berthnasol. Darperir y gwasanaeth paru hwn gan ganolfannau hysbysebu trydydd parti, sy'n hwyluso cynnig amser real i hysbysebwyr. 13 mis
_scid_r sc-static.net Yn gosod dull adnabod unigryw ar gyfer yr ymwelydd, sy'n caniatáu i hysbysebwyr trydydd parti dargedu'r ymwelydd â hysbyseb berthnasol. Darperir y gwasanaeth paru hwn gan ganolfannau hysbysebu trydydd parti, sy'n hwyluso cynnig amser real i hysbysebwyr. 13 mis

 

Gellir casglu'r wybodaeth ganlynol trwy eich dyfais a'ch porwr:

  • cyfeiriad IP eich dyfais (wedi'i gasglu a'i storio mewn fformat dienw)
  • eich cyfeiriad e-bost gan gynnwys enw cyntaf a chyfenw
  • maint sgrin y ddyfais
  • math o ddyfais (dynodwyr dyfais unigryw) a gwybodaeth y porwr
  • lleoliad daearyddol (gwlad yn unig)
  • dewis iaith a ddefnyddir i arddangos y dudalen we
  • efallai y bydd ein gwefan yn cofnodi’ch ymweliad drwy Hotjar


Mae'r data hyn yn cynnwys:

  • parth cyfeirio
  • tudalennau yr ymwelwyd â nhw
  • lleoliad daearyddol (gwlad yn unig)
  • dewis iaith a ddefnyddir i arddangos y dudalen we
  • dyddiad ac amser cyrchu tudalennau gwefan
     

Rydym yn defnyddio 'Cwcis Sesiwn', sy'n ein galluogi i olrhain eich gweithredoedd yn ystod un sesiwn bori, ond nid ydynt yn aros ar eich dyfais wedyn, a 'Cwcis Parhaus', sy'n aros ar eich dyfais rhwng sesiynau, at y dibenion a amlinellir uchod.

Gall Cwcis Sesiwn a Pharhaus fod yn gwcis parti cyntaf neu drydydd parti. Mae cwci parti cyntaf yn cael ei osod gan y wefan yr ymwelir â hi ac mae cwci trydydd parti yn cael ei osod gan wefan wahanol. Gall y ddau fath o gwci gael eu defnyddio gennym ni neu ein partneriaid busnes.

Bydd unrhyw gwcis trydydd parti yn cael eu llywodraethu gan eu telerau a'u polisïau preifatrwydd eu hunain, felly dylech chi ddarllen y rhain cyn rhoi eich caniatâd i alluogi'r cwcis trydydd parti hyn. Sylwch nad oes gennym unrhyw reolaeth dros gwcis trydydd parti.

Os ydych yn dymuno analluogi ein cwcis ar unrhyw adeg, gallwch wneud hynny drwy'r gosodiadau ar eich porwr ond os gwnewch chi hynny, ni fyddwch yn gallu defnyddio rhai nodweddion pwysig o'n gwasanaeth.

Efallai y byddwn hefyd yn casglu ac yn storio data personol ar eich cyfrifiadur neu ddyfais arall drwy ddefnyddio caches data cymwysiadau a storfa gwe porwr (gan gynnwys HTML5) a thechnoleg arall.