CEFNOGWCH NI
Mae Casnewydd Fyw yn cyflwyno rhaglenni chwaraeon a chelfyddydau hwyliog, cynhwysol a hygyrch yn ein cymuned ar gyfer plant, teuluoedd, ysgolion, clybiau chwaraeon a grwpiau lleol ledled y ddinas.
Rydym yn deall pwysigrwydd gweithgarwch corfforol, ymarfer corff, cadw'n heini a chymryd rhan yn y celfyddydau a gweithgarwch creadigol arall a bod y rhain yn hanfodol i les corfforol a meddyliol ein cwsmeriaid.
Rydym yn sefydliad elusennol nad yw’n dosbarthu elw, sy'n golygu bod ein holl incwm sy’n weddill yn cael ei ail-fuddsoddi yn y sefydliad i wella ein rhaglenni, ein cyfleusterau a’n gwasanaethau ac i gefnogi hyfforddiant a datblygiad staff. Fyddai hyn ddim yn bosibl heb eich cefnogaeth barhaus chi.
Fel aelod neu gwsmer Casnewydd Fyw rydych yn helpu i gefnogi ein gwaith cymunedol hanfodol ac rydym yn hynod ddiolchgar.
Cefnogwch ein Rhaglenni a'n Prosiectau
Os hoffech ein cefnogi, gallwch wneud hynny yn un o'r ffyrdd canlynol:
Gwnewch Rodd
Gallwch roi unrhyw swm i gefnogi ein prosiectau a'n gweithgareddau yn y dyfodol ar dudalen Go Fund Me Casnewydd Fyw.
Cyfrannwch nawrPrynwch Daleb Rhodd
Prynwch daleb rhodd ar gyfer gweithgaredd ffitrwydd neu gelfyddydol yn y dyfodol. P'un a ydych yn prynu un i chi'ch hun neu fel rhodd, gallwch fwynhau eich hun wrth ein cefnogi ar yr un pryd.
Siopa nawrCyfrannwch wrth i chi Siopa
Ymunwch ag Easy Fundraising heddiw a helpwch i'n cefnogi pan fyddwch yn siopa ar-lein. Drwy gofrestru byddwn yn derbyn rhodd wrth i chi siopa, heb unrhyw gost ychwanegol i chi.
Darllen rhagorCyfrannwch wrth i chi archebu tocynnau
Bob tro y byddwch yn archebu tocynnau i sioe, digwyddiad neu ffilm yng Nglan yr Afon cewch gyfle i dalu at y bunt agosaf a rhoi rhodd i'n cefnogi.
Archebwch TocynEin Cefnogaeth Gymunedol
Chwaraeon a Lles
Mae’r Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol yn cynnig ac yn hwyluso cyfleoedd chwaraeon o ansawdd uchel i blant, teuluoedd, ysgolion, cymunedau, clybiau a grwpiau lleol ledled Casnewydd. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni cynhwysiant cymdeithasol sy'n seiliedig ar chwaraeon, cymorth ar gyfer iechyd a lles teuluoedd, rhaglenni chwaraeon ysgol, llythrennedd corfforol a mwy. Mae eich cefnogaeth yn ein galluogi i barhau i gyflawni'r prosiectau a'r gweithgareddau sy'n golygu cymaint i'n cymuned.
Datblygu’r Celfyddydau
Mae tîm Datblygu Celfyddydau Cymunedol Glan yr Afon yn cynnig nifer o wahanol brosiectau, rhaglenni a mentrau sydd oll wedi'u llunio i gael cynifer o bobl â phosibl o bob oedran i ymwneud â'r celfyddydau a chreadigrwydd. Nod Glan yr Afon yw chwalu'r rhwystrau a allai fod yn atal aelodau o'r gymuned rhag cymryd rhan a dod i'r theatr yn ogystal â chefnogi artistiaid. Heb eich cefnogaeth chi, ni fyddai'r tîm yn gallu cynnal rhai o'r gweithgareddau gwych hyn.
Diolch
Diolch i'n holl gwsmeriaid ac aelodau anhygoel sydd wedi ein cefnogi. Ni allem wneud ein gwaith hanfodol i gefnogi lles y gymuned hebddoch chi.
cefnogaeth gorfforaethol
Os ydych yn fusnes neu'n sefydliad ac am ein cefnogi gallwch noddi prosiect, hysbysebu neu logi ein cyfleusterau.
Mwy o wybodaeth