Eich Cadw’n Ddiogel
Mae Casnewydd Fyw yn ymfalchïo mewn cynnig amgylcheddau diogel, llawn hwyl i bawb eu mwynhau.
Rydym oll yn rhannu cyfrifoldeb, ar y cyd ac yn unigol, i sicrhau bod pob plentyn ac oedolyn yn cael eu trin â pharch ac yn cael eu hamddiffyn rhag eraill a allai eu cam-drin.
Bod holl gyflogeion Casnewydd Fyw gan gynnwys aelodau o staff gwirfoddol a chontractwyr sy'n dod i gysylltiad â phlant neu oedolion mewn perygl wrth iddynt wneud eu gwaith yn deall eu cyfrifoldebau fel gweithwyr a lle bo angen cymryd camau i ddiogelu a hyrwyddo lles pawb sy'n cymryd rhan, yn gwsmeriaid ac yn ymwelwyr.
Rydym yn cyflawni hyn drwy sicrhau:
- Gweithredir polisïau a gweithdrefnau i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed ar draws y cyfleusterau a'r gwasanaethau a ddarparwn.
- Sicrhau bod y polisïau sydd wedi'u sefydlu yn unol â deddfwriaeth gyfredol a pholisïau'r Bwrdd Lleol Diogelu Plant.
- Rhoi arferion gorau ar waith wrth recriwtio a dethol staff i ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys cynnal archwiliadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd lle y bo'n briodol.
- Rhoi cyfleoedd i staff Casnewydd Fyw fynychu hyfforddiant sy'n eu galluogi i fod yn gymwys ac yn hyderus i ymdrin â sefyllfaoedd diogelu.
- Sicrhau bod sefydliadau sy'n defnyddio unrhyw rai o gyfleusterau Casnewydd Fyw yn mynd i'r afael ag unrhyw ofynion ac arferion diogelu.
- Gweithio gyda phartneriaid i ddylanwadu a hyrwyddo arferion ac egwyddorion diogelu ym maes chwaraeon, hamdden, y celfyddydau a diwylliant.
- Sicrhau y gall y cyfleusterau gefnogi protocolau diogelu a hyrwyddo arfer da ym meysydd diogelwch, teledu cylch cyfyng, cynllun, cymhorthion gweledol ac arwyddion.
Fel rhan o'n hymrwymiad i ddiogelu, byddwch yn gweld y posteri canlynol ym mhob un o'n cyfleusterau, ac mae'r posteri hyn yn rhoi gwybodaeth i bob ymwelydd ynghylch sut y gallwn ni i gyd gyfrannu at amgylchedd diogel.
Er mwyn sicrhau bod pyllau nofio a weithredir gan Casnewydd Fyw mor ddiogel â phosibl, gosodwyd canllawiau ar gyfer goruchwylio plant. Cyhoeddwyd y canllawiau gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch (CIMSPA).
Rhaid i blant o dan 5 oed fod gydag oedolyn cyfrifol o 17 oed o leiaf, ar sail un i un, beth bynnag fo'r gallu i nofio. Rhaid i'r oedolyn gael goruchwyliaeth gyson o'r plentyn yn yr ystafell newid ac yn ardal y pwll nofio.
Gall plant 5-8 oed, un oedolyn o leiaf 17 oed, fynd gyda hyd at ddau blentyn rhwng 5-8 oed. Rhaid i'r oedolyn hwn gael goruchwyliaeth gyson o'r plant yn yr ystafell newid ac yn ardal y pwll nofio.
Oherwydd dyfnder y Pwll Addysgu yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol, mae'r gymhareb yn caniatáu ar gyfer un oedolyn i ddau blentyn.
Canllawiau Goruchwylio Pwll Nofio
Mae Casnewydd Fyw yn dilyn canllawiau CIMSPA o ran yr argymhellion y dylai pob cyfleuster hamdden gofnodi manylion cwsmeriaid sy'n dymuno defnyddio offer ffotograffig i gofnodi delweddau o’u plant eu hunain neu berthnasau agos.
Yn unol â'r argymhelliad hwn, mae Casnewtdd Fyw yn mynnu bod unrhyw un sy'n dymuno defnyddio offer ffotograffig yn cofrestru eu manylion ar y "Ffurflen defnyddio cyfarpar ffotograffig". Mae'r ffurflenni wedi'u lleoli ym mhob derbynfa Casnewydd Fyw.
Defnyddio offer ffotograffig o fewn cyfleuster Casnewydd Fyw
Ceir sefyllfaoedd ac ardaloedd o fewn y cyfleusterau lle na chaniateir ffotograffiaeth. Mae ardaloedd o fewn Casnewydd Fyw lle na chaniateir ffotograffiaeth yn cynnwys ystafelloedd newid, toiledau.
Mae Casnewydd Fyw wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel i bawb sy'n cymryd rhan. Er mwyn sicrhau bod clybiau a sefydliadau sy'n darparu sesiynau a gaiff eu hyfforddi ac sy'n llogi'r cyfleusterau yn bodloni'r gofyniad hwn, mae Casnewydd Fyw yn casglu tystiolaeth o lywodraethu diogel. Mae angen y dystiolaeth hon ar adeg archebu ac mae'n cynnwys:
Manylion Yswiriant
Cadarnhad o dystysgrif GDG
Cymwysterau hyfforddi
Unrhyw drwyddedau / achrediadau NGB.
I gael manylion am sut i logi cyfleuster Casnewydd Fyw, cliciwch yma i i logi
Mae Canolfan Tenis Casnewydd yn glwb cofrestredig LTA. Mae Casnewydd Fyw yn gweithio gyda'r LTA i sicrhau ei fod yn bodloni safonau diogelu LTA ac yn rhagori arnynt.
Datganiad Diogelu Canolfan Tenis Casnewydd
Ni ddylech ddefnyddio'r pwll os oes dolur rhydd arnoch ac / neu rydych chi’n chwydu neu os ydych wedi profi’r symptomau hyn o fewn y 48 awr ddiwethaf.
Os ydych wedi cael diagnosis o Cryptosporidiosis, ni chewch ddefnyddio'r pwll tan bythefnos ar ôl eich symptomau olaf.
Os gwelwch unrhyw ysgarthion yn y pwll, ardal y pwll neu'r ystafelloedd newid, rhowch wybod i aelod o staff ar unwaith.
Beth yw Cryptosporidiosis?
Salwch sy’n cael ei achosi gan barasitiaid o'r enw Cryptosporidiwm ydyw ac mae'n fwyaf cyffredin mewn plant dan 5 oed, ond gall heintio pobl o bob oed ac mae'n ddifrifol mewn pobl sydd â diffyg imiwnedd.
Beth yw’r symptomau?
Mae’r symptomau’n cynnwys dolur rhydd dyfrllyd, poen yn y stumog, cyfog a thwymyn, a gallant bara hyd at 3 wythnos. Nid oes triniaeth benodol ar gyfer y salwch hwn.
Sut gallwch ei ddal?
- Yn uniongyrchol gan unigolyn sydd wedi’i heintio drwy gyffwrdd ysgarthion e.e. newid cewynnau
- Yn uniongyrchol gan anifeiliaid anwes neu anifeiliaid sydd wedi’u heintio
- Drwy lyncu dŵr halogedig
- Weithiau wrth fwyta neu yfed bwyd neu ddiod halogedig
- Ar wyliau dramor
Pam pyllau nofio a hamdden?
Mae pyllau nofio cael eu cysylltu â’r haint o bryd i’w gilydd. Y rhesymau mwyaf cyffredin am hyn yw:
- Bod defnyddwyr y pwll yn halogi’r dŵr ag ysgarthon yn ddamweiniol neu’n fwriadol
- Bod pobl sydd â Cryptosporidiosis yn defnyddio'r pwll ac yn gadael y paraseit yn y dŵr yn ddiarwybod
- Triniaeth dŵr gwael a diffygiol
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Casnewydd Fyw ar 01633 656 757.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon pellach yn ymwneud â diogelu, mae croeso i chi siarad ag aelod o staff, ffoniwch ni ar 01633 656757.