Cyfamod y Lluoedd Arfog
Mae Casnewydd Fyw yn falch o fod wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog fel dull o ddangos ei gefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd.
Cyfamod y Lluoedd Arfog
Yn ei waith, bydd Casnewydd Fyw yn ymdrechu i gefnogi egwyddorion allweddol Cyfamod y Lluoedd Arfog, sef:
- Na ddylai unrhyw aelod o Gymuned y Lluoedd Arfog wynebu anfantais yn sgil y gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a masnachol o’i gymharu ag unrhyw ddinesydd arall.
- Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd yn briodol ymdrin â’r Lluoedd Arfog mewn dull arbennig, yn enwedig y rheiny sydd wedi'u hanafu neu sydd wedi cael profedigaeth.
Dyfarnwyd y wobr Efydd i Gasnewydd Fyw i gydnabod ei addewid i gefnogi'r lluoedd arfog, gan gynnwys cyflogeion presennol neu ddarpar-gyflogeion sy’n aelodau o’r gymuned. Mae’n nodi ein bod yn sefydliad sy’n ystyriol o’r lluoedd arfog ac rydym yn edrych ymlaen at weithio’n glòs gyda mentrau'r Lluoedd wrth Gefn a Chymdeithas Cadetiaid Cymru a Chatrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol, Casnewydd.
I gael rhagor o wybodaeth am ein holl ymrwymiadau darllenwch ein haddewid.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein cynnyrch a gwasanaethau ffoniwch 01633 656757