Methu dod o hyd i rywbeth? Gallwch ddefnyddio ein nodwedd sgwrsio ar-lein ar waelod eich sgrin i siarad â'n tîm. Neu ffoniwch ni ar 01633 656767.

Beth yw eich polisi ad-dalu/cyfnewid?

Oni bai am ddigwyddiadau sy’n cael eu canslo, nid ydym yn ad-dalu na chyfnewid tocynnau.

Pa mor bell ymlaen llaw ddylwn i gyrraedd y theatr ar gyfer y sioe?

Rydym yn argymell eich bod yn cyrraedd 30 munud cyn amser dechrau eich sioe theatr neu 15 munud cyn dechrau eich ffilm i sicrhau digon o amser i brynu unrhyw luniaeth, sganio eich tocynnau a mynd i'ch seddi.

Sut ydw i'n defnyddio fy e-docyn?

Wrth gyrraedd eich sioe neu eich digwyddiad ewch i ddrysau'r awditoriwm lle bydd ein tywyswyr yn sganio'ch e-docyn ac yn caniatáu i chi fynd i mewn i'r awditoriwm. Nid oes angen i chi ddangos eich e-docyn i'r swyddfa docynnau.

Nid wyf wedi derbyn fy e-docynnau, pryd y byddant yn cyrraedd?

Dylai e-docynnau gyrraedd o fewn 15 munud wedi archebu. Os nad ydynt wedi cyrraedd cysylltwch â riverfront.boxoffice@newportlive.co.uk. Gwiriwch eich ffolder sothach / sbam gan y gallai'r e-bost ymddangos yma.

Rwyf wedi dewis fy seddi ar-lein ond nid yw'n gadael i mi archebu fy nhocynnau.

Wrth archebu ar-lein, ni allwch adael un sedd yn wag yng nghanol rhes. Edrychwch ar eich dewis o seddi ac os ydych yn gadael un sedd yn wag, dewiswch eto.

A oes angen i mi brynu tocynnau ar gyfer plant dan 3 oed?

Bydd angen i bob plentyn ac oedolyn yn eich grŵp gael tocyn.

Bydd angen talu am docynnau plentyn ar ôl ei ben-blwydd yn 2 oed. Cyn ei ben-blwydd yn 2 oed, bydd angen iddo gael tocyn am ddim gan staff y swyddfa docynnau - ni ellir archebu'r rhain ar-lein.

Ar gyfer rhai sioeau, sydd wedi'u targedu'n benodol at blant ifanc iawn, bydd angen i bawb yn eich grŵp gan gynnwys plant dan 2 oed dalu am eu tocynnau.

A oes mannau parcio yng Nglan yr Afon?

Nid oes gennym gyfleusterau parcio yng Nglan yr Afon.

Mae maes parcio talu ac arddangos bach ar hyd glan yr afon heibio adeilad Alacrity. Mae mannau parcio hefyd o dan Ganolfan Siopa Friars Walk neu ym Maes Parcio Aml-lawr Canolfan Kingsway sydd ar draws y ffordd.

A oes unrhyw fannau parcio hygyrch yng Nglan yr Afon?

Mae dau fan parcio hygyrch yng Nglan yr Afon. Yn anffodus, ni allwn gadw'r mannau parcio hyn. Gallwch gasglu a gollwng teithwyr yn uniongyrchol y tu allan i Lan yr Afon. I gael mynediad, pwyswch y botwm ar y rhwystr ym mhen castell yr adeilad.

Mae mannau parcio hygyrch ar gael ym meysydd parcio Friars Walk a Kingsway.

Ble mae'r orsaf drenau agosaf?

Mae Gorsaf Drenau Casnewydd 10 munud ar droed o Lan yr Afon.

O'r orsaf drenau, croeswch ffordd ddeuol Queensway ac ewch ar hyd Cambrian Road sydd i gerddwyr unig. Wedi cyrraedd Bridge Street, trowch i’r dde a mynd ar hyd Commercial Street, wedyn trowch i'r chwith a mynd ar hyd Corn Street (mae Banc Barclays ar y gornel), gan fynd heibio The Potters Pub a Phrif Orsaf Fysus Casnewydd. Wedyn croeswch ffordd ddeuol Kingsway a byddwch wrth Lan yr Afon.

A oes gennych ystafell gotiau?

Yn anffodus, nid oes gennym ystafell gotiau yng Nglan yr Afon mwyach. Rydym yn eich cynghori i ddod â dim ond yr hyn a all ffitio ar gefn eich cadair neu o dan y sedd o'ch blaen.

Sut galla’ i archebu gyda cherdyn Hynt?

Os oes gennych gerdyn HYNT ffoniwch ein tîm ar 01633 656757 a bydd yn gallu archebu tocyn HYNT i chi.

Pa fynediad i bobl anabl sydd gennych yn y theatr?

Mae ramp wrth ddrysau blaen a chefn Glan yr Afon. Mae mynediad lifft, mynediad i gadeiriau olwyn a chyfleusterau toiled ar gael ar bob lefel ac eithrio’r islawr. Mae naw lle i gadeiriau olwyn yn y theatr ac un ar ddeg o leoedd i gadeiriau olwyn yn y stiwdio. Croesewir cŵn cymorth a gellir gofalu amdanynt yn ystod perfformiadau trwy drefnu hyn ymlaen llawn.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am hygyrchedd yn Nglan yr Afon yma: Casnewydd Fyw | Hygyrchedd

A fydd y bar ar agor ar gyfer fy nigwyddiad?

Bydd nifer y tocynnau a werthir yn penderfynu faint o fariau fydd ar agor ar gyfer y perfformiad. Bydd y bariau hyn ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau.

Bydd y caffi bob amser ar agor gan weini detholiad o ddiodydd poeth, meddal ac alcoholig.

Ble a sut gallwn ni archebu diodydd ar gyfer yr egwyl?

Gellir archebu a thalu am ddiodydd ar gyfer yr egwyl yn y bar neu’r caffi cyn eich perfformiad. Yna bydd y rhain yn barod ac yn aros i chi eu casglu o'r pwynt casglu sydd wedi'i arwyddo fel y gallwch eu mwynhau yn ystod yr egwyl.

Beth yw amseroedd agor ac amseroedd gweini bwyd Caffi Glan yr Afon?

Gweinir bwyd bob dydd rhwng 9am a 4pm, neu hyd at 45 munud cyn yr amser dechrau ar noson sioe.

Cymorth Gwella Sain

Mae ein ap Mobile Connect yn cefnogi ein cwsmeriaid byddar neu drwm eu clyw. Gellir ei lawrlwytho ymlaen llaw trwy'r App Store. Cyrhaeddwch mewn da bryd i’n tîm eich helpu i roi popeth yn ei le. Bydd angen i gwsmeriaid ddod â'u clustffonau eu hunain neu gallwch gysylltu trwy gymorth clyw.

1. Ymunwch â'n Wi-Fi

2. Lawrlwythwch yr ap gan ddefnyddio un o'r dolenni isod

3. Dewiswch eich sianel sain

Sennheiser MobileConnect – Apps on Google Play

Sennheiser MobileConnect on the App Store (apple.com)

A oes unrhyw raghysbysebion cyn y ffilmiau yn Sinema Glan yr Afon?

Bydd hysbysebion a rhaghysbysebion cyn y ffilmiau ac mae'r rhain yn dechrau ar amser dechrau hysbysebedig y ffilm. Bydd hyd yr hysbysebion a'r rhaghysbysebion yn amrywio fesul ffilm.

Nid yw fy nhocyn yn cynnwys rhes neu rif sedd

Ni chaiff seddi penodol eu rhoi’n rhan o’n rhaglen theatr stiwdio sy’n golygu na fydd gennych rif sedd penodol. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw dewis lle hoffech chi eistedd wrth gyrraedd.

A yw aelodau Casnewydd Fyw yn cael 2 docyn sinema am bris 1?

Ydyn, gall aelodau Casnewydd Fyw cael 2 docyn am bris 1. I archebu'r tocynnau hyn ffoniwch ni ar 01633 656757. Ni allwch archebu'r tocynnau hyn ar-lein.

Sut ydw i'n dod o hyd i ddociau llwyfan y Brif Theatr a’r Theatr Stiwdio?

Gallwch ddod o hyd i ddoc y Brif Theatr gan ddefnyddio'r 'what three words' canlynol: Cofiadwy. Cipio. Adeiladwyr

Gallwch ddod o hyd i ddoc y Theatr Stiwdio gan ddefnyddio'r 'what three words' canlynol: Cerddor. Swynais. Tystiolaeth

Pa fwytai sy'n agos at Lan yr Afon?

Mae nifer o fwytai, caffis a sefydliadau bwyd brys yn Friars Walk, gyferbyn â Glan yr Afon. Ewch i wefan Friars Walk i ddysgu mwy: Eating & Drinking - Friars Walk Newport

Pa westai sydd gerllaw?

Mae nifer o westai a gwelyau a brecwast yng Nghasnewydd gan gynnwys The Mercure, Travelodge a'r Celtic Manor. Gallwch weld y llety sydd ar gael yng Nghasnewydd ar Booking.com: Booking.com: Hotels in Newport. Book your hotel now!