Trosolwg Technegol o’r Theatr Stiwdio
Mae gennym ddwy theatr yng Nglan yr afon. Y Theatr Stiwdio yw’r lleiaf a’r mwyaf agos atoch. Mae’r Stiwdio yn ofod theatr amlddefnydd gwych. Mae lle ynddi ar gyfer cynulleidfa o 128 mewn arddull theatr ar letem neu 100 yn arddull cabaret yn wastad ar y llawr. Mae opsiwn cael seddi ymwthiol neu ar ffurf cylch hefyd. Bydd y cynllun hwn yn lleihau capasiti felly bydd angen trafod gyda’r tîm cyn cytuno ar faint cynulleidfa.
Mae gan y Stiwdio 80 o oleuadau ETC y gellir eu pylu a mynediad rhwydd at y cyfarpar goleuo. Gan ein bod yn defnyddio’r gofod fel sinema hefyd, mae gennym daflunydd sinema Sony 4K y gellir ei ddefnyddio hefyd, a sgrin y gellir ei thynnu yn ôl (3.37m o uchder, 7.66m o led). Gallwch ddefnyddio allweddellau, piano unionsyth a phiano Grand Steinway, a llenni cefndir os oes angen. Mae ardal lwytho a cyfleusterau cefn llwyfan hawdd eu cyrchu hefyd. Bydd aelod o’r Tîm Technegol wrth law i gynorthwyo gyda’r gwaith gosod a dadosod, a sicrhau bod popeth yn mynd yn iawn o safbwynt technegol.
Gellir lawrlwytho Manyleb Dechnegol y Theatr Stiwdio o yma.
Rydym yn cynnal gweithgareddau o bob math yn y gofod hwn, gan gynnwys sinema, comedi, theatr, cerddoriaeth, dawns a sgyrsiau. Gweld ein Theatr Stiwdio: Canllawiau Rhaglennu i gael rhagor o wybodaeth.