oriel glan yr afon
Mae Oriel Glan yr Afon yn cynnal sbectrwm eang o arddangosfeydd celfyddydol amrywiol a chyffrous drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn falch i gynnal arddangosfeydd gan artistiaid proffesiynol a datblygol, cerflunwyr, grwpiau cymunedol, ac ysgolion. Dyma fanylion am yr arddangosfeydd sydd wedi cael eu harddangos yng Nglan yr Afon yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Arddangosfeydd y gorffennol...
Arddangosfa Diwrnod y Lluoedd Arfog 2023
Yr arddangosfa yw penllanw prosiect gwaith celf a luniwyd gan blant milwyr ar draws gwahanol awdurdodau lleol yng Nghymru.
Crëwyd y gwaith celf ar gyfer cystadleuaeth ac roedd yn canolbwyntio ar ddylunio portread teuluol yn dangos eu rhiant mewn gwisg filwrol, gyda’r ffrâm o gwmpas yn rhoi cipolwg ar eu taith fel teulu’r lluoedd arfog.
Roeddem am ddangos nid yn unig gydnabyddiaeth i bersonél y lluoedd arfog ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ond hefyd i'w teuluoedd a'r aberth maen nhw’n ei wneud hefyd. Hoffem ddiolch i holl blant y Lluoedd Arfog a roddodd o'u hamser i ddylunio darnau arbennig o gelf ac am fod mor wych, ac i'w hathrawon a'u rhieni am unrhyw gefnogaeth a roddwyd.
Dyddiad: Mehefin 2023
Du a Glas: Celf Gyfoes o Safbwynt Du
Mae gwaith Adians yn ymdrin â materion amrywiol. Mae'n cynnwys portreadau gyda naws gyfoes yn bennaf. Lliw yw'r ysgogiad gweledol i'r rhai sy'n edrych ar y gwaith.
Nod Adian yw defnyddio pob pwnc yn emosiynol er mwyn rhoi mynegiant ac ymateb personol i'r gwaith. Mae'n gobeithio bydd y gwyliwr yn cymryd rhan ar lefel ysbrydol i ffurfio eu casgliadau ei hunain i bob un o'i ddarnau.
Dyddiad: Mai 2023
Coleg Gwent: Celf a Dylunio
Mae Coleg Gwent, Campws Dinas Casnewydd yn eich gwahodd i ymuno â nhw, i ddathlu cyflawniadau eu myfyrwyr Celf a Dylunio talentog. Mae'r arddangosfa'n cynnwys gwaith ar draws cyrsiau’r pedair lefel, ar draws amrywiaeth o arbenigeddau artistiaid.
Dyddiad: Mehefin 2023
Creadigaethau Connor
Mae Connor yn 14 oed. Dechreuodd ddarlunio pan oedd yn 13 oed, cyn hynny nid oedd yn gallu dal pin yn iawn. Mae ganddo awtistiaeth ddwys felly nid yw'n gallu egluro o ble y daeth ei angerdd sydyn dros dynnu lluniau. Mae'n tynnu lluniau’n llwyr o'i gof.
Mae gwaith Connor wedi cael ei ddangos yng nghanol dinas Caerdydd, Oriel Heath, Penarth, ac roedd hefyd yn rhan o ŵyl "Celf ar y Bryn" Casnewydd.
Rhyddid a Chyfyngiadau gan Das Clarks
Yn 2021 cynhaliodd Das Clarks brosiect peilot gyda phreswylwyr a staff carchar y Parc. Mae'r prosiect wedi esblygu yn 'Wreiddiau Creadigol' rhaglen unigryw sydd wedi ysbrydoli’r rhai sy'n byw ac yn gweithio mewn caethiwed i archwilio rhyddid creadigol. Gyda sesiynau'n cael eu cyflwyno yn adrannau preswyl y carchar, roedd Gwreiddiau Creadigol yn cynnwys rhaglen sylfaen gychwynnol o archwilio creadigol. Datblygodd y gweithgaredd sylfaen yn sesiynau arbenigol yn gwneud printiau, paentio, ffotograffiaeth ac ysgrifennu. Mae'r gwaith yn yr arddangosfa hon wedi cael ei greu gan breswylwyr, staff a'r artistiaid sy'n rhan o'r prosiect.
Das Clarks yw Gareth Clark, Marega Palser a Dee Rogers gyda Bill Chambers, Marion Cheung a Jo Haycock.
Dyddiad: Mehefin 2023
Casnewydd, Natur a Phobl
Arddangosfa yn Dathlu Natur Casnewydd
Fe synnwch o weld popeth sydd ar eich stepen drws!
Mae hon yn arddangosfa ddeniadol, hardd o ffotograffiaeth, celf, barddoniaeth a ffilmiau sy'n dathlu ‘Natur Casnewydd’.
Mae wedi cynnwys cymunedau a gwirfoddolwyr o bob rhan o Gasnewydd ac mae wedi cael effaith enfawr ar adfer cynefinoedd a chadwraeth peillwyr, yn enwedig yn y 'Ffordd i Natur' a adhawliwyd yn ddiweddar, ac yn Twmps ger Barack Hill.
Dyddiad: Chwefror 2023.
We Are Here, Because You Were There
Mae'n fraint i Ffotogallery gyflwyno arddangosfa newydd, We Are Here, Because You Were There, prosiect cydweithredol gan y ffotograffydd Andy Barnham a'r ymchwilydd Dr Sara de Jong. Mae'r gweithiau’n defnyddio portreadau a dyfyniadau i ddogfennu profiadau cyfieithwyr o Afghanistan a gyflogwyd gan y Fyddin Brydeinig sydd bellach wedi cael eu hailgartrefu yn y DU.
"Mae'r corff pwysig hwn o waith yn canolbwyntio ar brofiadau uniongyrchol cyfieithwyr Afghanistan a'u brwydr am loches yn y DU ar ôl i'r Fyddin Brydeinig dynnu allan o Afghanistan. Mae'r prosiect yn tynnu sylw at effaith ymgysylltiad hanesyddol a diweddar Prydain ag Afghanistan a'r angen am sgyrsiau ehangach am ddiffyg llwybrau lloches diogel i'r DU."
- Siân Addicott, Cyfarwyddwr
Dyddiad: Chwefror 2023
Arddangosfa Ben-blwydd Llwybr Arfordir Cymru
Mae Glan yr Afon yn gartref i un o'r nifer o arddangosfeydd dros dro sydd wedi bod yn digwydd ar hyd llwybr arfordir Cymru ers mis Medi fel rhan o Brosiect Celf Coast. Y bwriad yw dathlu a nodi pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru yn 10 oed. Yr artist o Gymru, Neale Howells, sy'n arddangos y gwaith Celf sydd yn cael ei arddangos.
Safbwyntiau byrion
I ddathlu Mis Ymwybyddiaeth Corachedd 2022, rydym yn falch o gynnal lansiad y cyhoeddiad 'Short Perspectives', a gefnogir gan Urban Circle Newport. Mae'r cyhoeddiad sy'n canolbwyntio ar y gweledol yn amlygu hygyrchedd, cynhwysiant, a chysylltiadau cymunedol – o safbwynt sy'n wahanol i'r norm. Mae'r arddangosfa hon yn annog pobl i ddysgu am Gorachedd a dathlu pobl fach yn ein cymuned. Mae’n yn cael ei redeg gan y swyddog Cyfathrebu Ieuenctid, Danielle Webb.
Ail-Agor yr Oriel
Rydym wrth ein boddau o fod yn cyhoeddi ail-agoriad Oriel Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon. Fel y mae llawer ohonoch yn gwybod, oherwydd y pandemig diweddar a'r amgylchiadau anodd o amgylch hynny, mae staff Cyngor Dinas Casnewydd wedi meddiannu'r gofod oriel.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, roeddem yn gallu lansio Oriel y Mesanîn ac rydym wedi croesawu arddangosfeydd o Ffotomarathon Casnewydd, arddangosfa Make Do & Mend a arddangosfa Red Shoes, fodd bynnag, wrth i ni ddechrau tymor cyffrous newydd yr Hydref, rydym yn edrych ymlaen at ailagor drysau Oriel Glan yr Afon i'r cyhoedd; a pha ffordd well o lansio na chroesawu arddangosfa Gypsy Maker 5.
Bydd Cwmni Celf a Diwylliant Romani (RCAC) yn dod â'u prosiect parhaus, 'Gypsy Maker 5', sy'n dangos arddangosfa newydd o waith celf gan yr artistiaid Imogen Bright Moon, Corrina Eastwood a Rosamaria Kostic Cisneros.
Y gosodiad cyffrous hwn o waith a gomisiynwyd yn arbennig yw'r diweddaraf yn eu prosiect arloesol Gypsy Maker, menter sy'n cefnogi datblygiad gwaith artistig arloesol gan artistiaid sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae prosiect Gypsy Maker 5 yn ehangu gwaith y Cwmni Celf a Diwylliant Romani drwy barhau i ymgysylltu cymunedau SRT gyda'r cyhoedd yn ehangach mewn deialog barhaus am y ffyrdd y mae celf yn parhau i lywio ein bywydau heddiw.
Bydd yr arddangosfa ar agor rhwng 2 a 30 Medi, dydd Llun i ddydd Sadwrn 10am – 4pm. Mae mynediad am ddim.
Allwn ni ddim aros i chi ymuno â ni!
Arddangosfa 80 mlwyddiant Cymru a Brwydr Prydain
Bydd Casnewydd yn croesawu arddangosfa 80 mlwyddiant Cymru a Brwydr Prydain y mis Medi hwn fel rhan o ddigwyddiadau coffáu cenedlaethol sy'n nodi pennod bwysig yn hanes yr Ail Ryfel Byd.
Bydd yr arddangosfa hon yn gyfle perffaith i nifer o bobl yng Nghasnewydd gofio am arwriaeth yr Ychydig Rai.
Dyddiad: Medi 2022
Make Do & Mend
Arddangosfa gan Kate Mercer
Wedi'i gychwyn ym mis Mawrth 2020 (yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf yn 2020), mae 'Make Do and Mend' yn gyfres o gwiltiau clytwaith sy'n archwilio syniadau o lapio, cynhesu ac amddiffyn. Yn benodol, mae'r cwiltiau clytwaith hyn wedi'u gwneud o ffabrigau cotwm wedi'u hailgylchu, wedi'u hail-bwrpasu yn rhywbeth sy'n cynhesu ac yn cysuro'r rhai y maent yn eu cofleidiol.
“Yn ystod y cyfnod cloi cyntaf yn 2020, roeddwn yn byw oddi cartref, yn gwarchod fy mam a oedd yn derfynol wael. Roedd prosiectau tecstilau yn rhywbeth y bydden ni’n ei wneud gyda’n gilydd – roedd mam yn dysgu sgiliau gwnïo, gwneud, atgyweirio a chreu i mi. Gwnaeth cloi i lawr i mi fyfyrio llawer am syniadau pontio, yn enwedig trosglwyddo gwybodaeth o un genhedlaeth i’r llall.”
Mae Gwneud a Thrwsio yn fyfyrdod ysgafn o'r rolau a'r perthnasoedd hyn, a sut mae gweithredoedd yn effeithio ar y rhai o'n cwmpas ac yn dylanwadu arnynt. Mae'r broses o wneud y cwiltiau hyn yn trwytho adnewyddiad ac atgyweirio, gyda'r elfennau testun ychwanegol yn trosglwyddo gwersi bywyd ac arsylwadau i'w gwyliwr. Gan amgáu eraill â geiriau trwy decstilau, ffotograffiaeth a pherfformiadau perfformio mae'r cwiltiau hyn yn archwiliad o ddomestigrwydd a gwniadwaith mewn celf.
Os oes gennych ddiddordeb mewn arddangos yn ein horiel e-bostiwch sally-anne.evans@newportlive.co.uk neu ffoniwch 01633 656757.