Mae'n bleser gan Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon gyhoeddi y bydd Gŵyl y Sblash Mawr yn dychwelyd Ddydd Sadwrn 20 a Dydd Sul 21 Gorffennaf 2024, gan drawsnewid canol dinas Casnewydd yn ganolbwynt bywiog o greadigrwydd a dathlu.
Mae gŵyl y Sblash Mawr yn ddigwyddiad blynyddol sy’n denu miloedd i’r ddinas, ac mae’n cael ei chydnabod fel yr ŵyl gelfyddydol awyr agored am ddim fwyaf yng Nghymru, gyda cherddoriaeth fyw, theatr stryd, perfformiadau dawns, gweithdai, crefft a gweithgareddau i'r teulu cyfan.
Gyda phopeth am ddim, mae'r digwyddiad deuddydd yn brofiad teuluol perffaith i bawb o bob oedran. Dyma'r dechrau gorau posib i wyliau'r haf!
Gwybodaeth am Ardaloedd
Mae'r ardal hon yn cynnwys Theatr Glan yr Afon a'r cyffiniau, gan gynnwys Yr ardd, y Llwyfan Dathlu, Boulevard y Sblash Mawr a bws Casnewydd.
Ardaloedd Splashtonbury
Llwyfan Dathlu
Mwynhewch adloniant drwy'r dydd ar y llwyfan Dathlu, wedi'i leoli o dan gerflun y don ddur ar hyd glan yr afon.
Boulevard y Sblash Mawr
Mae Boulevard y Sblash Mawr wedi'i lleoli ar hyd glan yr afon, gan gysylltu'r Llwyfan Dathlu â Theatr Glan yr Afon.
Y tu mewn i Lan yr Afon
Bydd pob ystafell yng Nglan yr Afon yn llawn gweithgareddau’r Sblash Mawr. O'r ystafelloedd gweithdy ac ardal y bar i’r islawr a'r oriel, bydd y lleoliad yn fwrlwm o weithgareddau’r Sblash Mawr.
Bws
Diolch yn fawr i Newport Bus sy'n benthyg eu bws i ni am y penwythnos. Bydd y bws y tu allan i theatr Glan yr Afon gyda cherddoriaeth, stondinau a gweithgareddau.
Mae Sgwâr John Frost yn Friars Walk. Bydd actau’n perfformio mewn dwy ardal yn Sgwâr John Frost – yn union y tu allan i H&M ac o flaen adeilad Monmouthshire Building Society.
Mae ein Pwynt Gwybodaeth wedi'i leoli yma hefyd, gyda staff a gwirfoddolwyr o Casnewydd Fyw wrth law i ateb eich cwestiynau am y Sblash Mawr. Gallwch gael eich wyneb wedi'i baentio AM DDIM fan hyn.
Plas Wysg yw lefel isaf Friars Walk. Bydd yr actau'n perfformio ar y darn gwyrdd y tu allan i TGI Fridays, Prezzo a Wagamama.
Mae'r ardal hon yn cynnwys Commercial Street ac ychydig ymhellach i ffwrdd hefyd. Bydd perfformiadau a gweithgareddau'n cael eu cynnal mewn sawl lleoliad ledled yr ardal hon gan gynnwys Gallery57, The Place ac, wrth gwrs, bydd llawer o actau'n crwydro'r strydoedd, felly cofiwch ryngweithio â nhw!
Hygyrchedd
-
Mae pob rhan o'r ŵyl a'r perfformiadau yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.
-
Mae mannau parcio hygyrch ar gael ym meysydd parcio Friars Walk a Kingsway.
-
Gwrandewch ar y rhaglen sain ar gyfer penwythnos yr ŵyl yma.
-
Bydd ganolfan gwybodaeth yn cael ei staffio gan ein dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain yn ystod gwahanol bwyntiau drwy gydol y penwythnos.
-
Bydd amserlenni print mawr ar gael yn Swyddfa Docynnau Glan yr Afon ac yn y Ganolfan Gwybodaeth.
-
Mae gan Swyddfa Docynnau Glan yr Afon ddolen clyw i'w defnyddio gan bobl â chymhorthion clyw.
-
Bydd Theatr Glan yr Afon yn cynnwys Ardal Dawel; Lle tawel i fynd iddo os oes angen eiliad o dawelwch. I bobl ar y sbectrwm awtistiaeth neu unrhyw un a allai fod angen seibiant o'r ŵyl.
-
Rydym yn parchu anghenion ein holl ymwelwyr ac yn gwneud ymdrech ymwybodol i wneud ein digwyddiad mor hygyrch â phosibl. Os hoffech drafod gofynion neu bryderon penodol gydag aelod o staff, mae amrywiaeth o ffyrdd y gallwch gyfathrebu â ni - ffoniwch 01633 656679, e-bostiwch. riverfront.boxoffice@newportlive.co.uk neu dewch i mewn i lan yr afon a siaradwch â thîm ein Swyddfa Docynnau a fydd yn gallu eich helpu.
CYLLIDWYR, NODDWYR A PHARTNERIAID
Diolch yn fawr iawn i'n cyllidwyr, noddwyr a phartneriaid am helpu i wneud Sblash Mawr yn bosibl: