
Y cam cyntaf i fywyd mwy heini ac iach yw dechrau symud!
Does dim rhaid i chi wneud y cyfan ar unwaith, dechreuwch drwy gymryd y cam cyntaf! Yn Casnewydd Fyw rydym yma i'ch cefnogi chi'r holl ffordd! Ymunwch heddiw a chael eich rhoi mewn raffl i ennill Aelodaeth o 3 Mis Am Ddim!
Mae aelodaeth Casnewydd Fyw yn eich galluogi chi i fanteisio ar y campfeydd, y pyllau nofio a’r dosbarthiadau ymarfer corff a geir ym mhob un o'n canolfannau.
Fel rhan o'ch aelodaeth, gallwch fanteisio ar gymorth ffitrwydd personol am ddim sy’n cynnwys sesiwn groesawu, asesiad iechyd, rhaglen (cynllun ffitrwydd) a sesiwn 1 i 1 30 munud wythnosol gyda hyfforddwr ffitrwydd.
Bydd oedolion a phobl iau (11-17 oed) sy'n ymaelodi cyn 31 Mai 2022 yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill 3 mis o aelodaeth ffitrwydd am ddim.
Rhaid i gwsmeriaid brynu aelodaeth Ffitrwydd Oedolion neu Ffitrwydd Iau fisol, 3 mis neu flynyddol i gael eu cynnwys yn y raffl.
Dim contractau! Dim ffioedd ymaelodi!
Peidiwch ag oedi! Ymunwch â ni heddiw!
Prisiau Aelodaeth
Mae’r cynnig hwn ar gael i’r aelodaeth isod yn unig.
Oedolion ar Amseroedd Tawelach
Aelodaeth lawn i oedolion 17-59 oed. Oriau tawelwch yw hyd at 4pm bob dydd.
£22.50 /mis
£202.50 /blwyddyn
Dros 60 oed
Aelodaeth lawn i oedolion rhwng 60 oed a throsodd.
£21 /mis
£189 /blwyddyn
Consesiynau
Rydym yn cynnig aelodaeth ratach i'r rhai ar fudd-daliadau penodedig a myfyrwyr.
£18.96 /mis
£170.55 /blwyddyn
Gwasanaethau Argyfwng a’r Lluoedd Arfog
Fe wnaethon ni gynnig aelodaeth â gostyngiad i weithwyr y gwasanaeth argyfwng, gweithwyr y GIG a phersonél y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr.
£29 /mis
£261 /blwyddyn
Telerau ac Amodau: Dim ond un cais y caiff pob person ei wneud. Fyddwn ni ddim yn ystyried mwy nag un gan yr un person. Bydd un oedolyn yn ennill ei aelodaeth Ffitrwydd Oedolion am ddim am 3 mis a bydd un person iau (11-17 oed) yn derbyn Aelodaeth Ffitrwydd Iau am ddim am 3 mis. Mae telerau ac amodau Aelodaeth arferol yn berthnasol sydd i’w gweld yn newportlive.co.uk/terms-conditions. Ni ellir trosglwyddo'r wobr, ac ni chynigir unrhyw ddewis arall o arian parod. Nid yw costau teithio sy'n gysylltiedig â'r wobr hon wedi'u cynnwys. I fod yn gymwys ar gyfer y raffl, rhaid i chi brynu aelodaeth Ffitrwydd Oedolion neu Ffitrwydd Iau fisol, 3 mis neu flynyddol gyda Chasnewydd Fyw rhwng11 Ebrill 2022 a 31 Mai 2022 trwy wefan Casnewydd Fyw, trwy ffonio 01633 656757 neu drwy alw heibio derbynfa unrhyw leoliad Casnewydd Fyw. Caiff yr enillydd ei ddewis ar hap o blith yr holl ymgeiswyr cymwys gan Casnewydd Fyw a chysylltir ag ef neu hi dros y ffôn neu drwy e-bost o fewn 72 awr i gynnal y raffl gyda manylion am sut i hawlio’r wobr. Os nad oes modd cysylltu â’r enillydd cyn pen 7 diwrnod, mae Casnewydd Fyw yn cadw’r hawl i ddewis enillydd arall ar hap o blith yr holl gystadleuwyr cymwys eraill. Ni chaiff ceisiadau a ddaw i law ar ôl y diwrnod a’r amser cau eu derbyn. Ni fydd ceisiadau anghyflawn yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth. Rydych chi hefyd yn cytuno, os mai chi yw un o'r enillwyr, y gallwn ddefnyddio eich manylion wrth gyhoeddi canlyniad y gystadleuaeth, gan gynnwys defnyddio eich enw. E-bostiwch customerservice@newportlive.co.uk neu ffoniwch 01633 656757 os byddai'n well gennych i ni beidio â gwneud hyn. Nid yw’r gystadleuaeth yn agored i aelodau staff, gwirfoddolwyr, Cyfarwyddwyr Casnewydd Fyw na’u teuluoedd agos. Mae Casnewydd Fyw yn cadw’r hawl i dynnu’r gystadleuaeth hon yn ôl neu ei diwygio ar unrhyw adeg heb rybudd.
PÀS 5 DIWRNOD AM DDIM
Os nad ydych wedi penderfynu eto, rhowch gynnig arnom ni AM DDIM am 5 diwrnod. Mae tocyn 5 diwrnod am ddim ond ar gael i gwsmeriaid newydd nad ydynt wedi cael tocyn 5 diwrnod yn ystod y 12 mis diwethaf.
Cael eich Tocyn 5 Diwrnod am DdimYmrwymiad Covid-19

Mae Casnewydd Fyw wedi ymrwymo i’ch cadw’n ddiogel!
Nod ymrwymiad Covid-19 Casnewydd Fyw yw rhoi tawelwch meddwl i’n cwsmeriaid wrth iddynt ymlaelodi neu ddefnyddio ein cyfleusterau.
Rydym yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac UK Active ac rydym wedi cael Cymeradwyaeth Ymateb i Covid-19. Mae hyn yn cynnwys mwy o lanhau, llai o bobl, mesurau ymbellhau cymdeithasol, a gwisgo gorchuddion wynebau yn ein holl ganolfannau.
Gallwch ddod o hyd i’n canllawiau llawn yma.