Mae Momentwm yn brosiect sy’n cael ei redeg gan Casnewydd Fyw i annog preswylwyr, cymudwyr ac ymwelwyr yng Nghasnewydd a'r cyffiniau i feddwl yn wahanol am eu dewisiadau o ran teithio o amgylch y ddinas. Nod y prosiect yw cefnogi pobl sy'n dymuno teithio'n fwy llesol a dewis opsiynau gwell ar gyfer eu lles corfforol, emosiynol ac ariannol. Yn ogystal â chyfrannu at gymuned wyrddach ac iachach.
Mae gan y prosiect arlwy eang o weithgareddau cerdded a beicio am ddim gan gynnwys Sgiliau Beicio Oedolion, i bobl a hoffai ddysgu beicio i'r rhai sydd am ddatblygu eu sgiliau beicio a'u hyder ar ffyrdd prysur. Yn ogystal, mae'n cynnwys Her Seiclo Couch to 50k i'r rhai sydd eisiau her gymdeithasol a llawn hwyl.
Mae gweithdai Atgyweirio Eich Beic yn cynnig profiad ymarferol ac awgrymiadau cynnal a chadw i feicwyr er mwyn sicrhau bod eu beiciau'n aros yn y cyflwr gorau. Bydd Rhwydweithiau Cerdded a heriau cerdded gan gynnwys Couch to 5k, yn ail-ddechrau ym mis Mawrth.
Mae Emily Wood, yr arweinydd cerdded dynodedig, yn gyffrous i ddechrau arni. "Rydym wedi dylunio'r teithiau cerdded hyn i alluogi pobl i wneud ffrindiau newydd, teimlo'n well ynddynt eu hunain a mwynhau eu hardaloedd lleol," meddai Emily, sy'n frodor o Gasnewydd ei hun ac yn weithiwr ffitrwydd proffesiynol gweithredol yn ogystal â cherddwr brwd. "Rydyn ni yma i hyrwyddo ffordd actif o fyw yn ogystal â theithio llesol," ychwanegodd Emily, gan egluro bod pob taith gerdded yn cymryd rhwng 20 a 40 munud, a'u bod nhw am ddim.
Dywedodd Andrea Ovey, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes, “Mae Momentwm yn fenter wych i gael pobl yn fwy heini ac iach wrth gael effaith gadarnhaol ar Gasnewydd. Drwy annog pobl i ddewis ffyrdd mwy llesol o deithio, rydym nid yn unig yn gwella lles unigolion, ond hefyd yn cyfrannu at gymuned wyrddach ac iachach i bawb.”
Mae amserlen bresennol y Rhwydwaith Cerdded yn dechrau ddydd Llun 3 Mawrth 2025 ac mae'n cynnwys y teithiau cerdded tywys am ddim canlynol:
Dydd Llun - 11am - Parc Beechwood
Cwrdd yng Nghaffi Parc Beechwood, yn y parc
Dydd Mercher - 10am - Glebelands
Cwrdd yng Nghaffi Canolfan Bowlio Dan Do Casnewydd
Dydd Mercher - 1pm - Amffitheatr Caerllion
Cwrdd yn y prif faes parcio
Dydd Iau - 10am - Parc Beechwood
Cwrdd yng Nghaffi Parc Beechwood
I gael rhagor o wybodaeth a chadw eich lle am ddim ar y teithiau cerdded, ewch i'n gwefan www.newportlive.co.uk/momentwm, ap Casnewydd Fyw, neu ffoniwch 01633 656757.