![Facebook Banner.jpg Facebook Banner.jpg](/application/files/7817/3876/9648/Facebook_Banner.jpg)
Mae'n bleser gan Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon gyhoeddi y bydd gŵyl gelfyddydau awyr agored am ddim fwyaf Cymru, y Sblash Mawr, yn dychwelyd, a bydd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Gorffennaf 2025. Unwaith eto, bydd canol dinas Casnewydd yn cael ei drawsnewid yn ganolbwynt bywiog o greadigrwydd a dathlu, yn dilyn dros 25,000 o ymwelwyr y llynedd. Mae'r ŵyl ddeuddydd yn cynnwys cerddoriaeth fyw, theatr stryd, dawns, gweithdai, crefftau a gweithgareddau ar gyfer pob oedran. Wedi'i disgrifio fel "darn o Covent Garden yng Nghasnewydd", bydd strydoedd Casnewydd yn troi'n lwyfan awyr agored enfawr. Gall ymwelwyr ddisgwyl perfformiadau dros dro bywiog a phrofiadau bythgofiadwy, gan gynnig adloniant am ddim i bawb.
Mae'r ŵyl, sydd wedi’i threfnu gan Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, yn adlewyrchu ei nod i wneud y celfyddydau yn hygyrch i bawb, gan ddod â phobl o bob oedran a chefndir ynghyd i brofi, ymgysylltu a dathlu cyfoeth o dalent artistig yng nghanol y ddinas. Ers 2010, mae'r ŵyl wedi tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan ddod yn ddigwyddiad allweddol i'r sector celfyddydau awyr agored yn ne Cymru. Mae’r Sblash Mawr yn parhau i dyfu fel uchafbwynt yng nghalendr diwylliannol Cymru, gyda 45% o fynychwyr y llynedd yn dod o'r tu allan i ganol y ddinas i gychwyn gwyliau'r haf. Dywedodd un o'r mynychwyr: "Mae'n werth gwneud y daith ar gyfer y Sblash Mawr, am ddiwrnod o adloniant byw gyda'r plant."
Bydd yr ŵyl eleni yn adeiladu ar ei llwyddiant, diolch i gyllid a gadarnhawyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ochr yn ochr â chefnogaeth gan Friars Walk, gwesty’r Mercure, Le Pub, AGB Casnewydd, ac eraill. Dywedodd Jamie Anderson, Rheolwr Datblygu Creadigol Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon, "Mae’r Sblash Mawr yn ffordd wych o gychwyn yr haf yn y ddinas. Mae Casnewydd Fyw, mewn cydweithrediad â Chyngor Celfyddydau Cymru a'n partneriaid anhygoel sy'n gwneud yr ŵyl yn bosib, yn ymfalchïo yn rôl yr ŵyl wrth ddod â chymunedau Casnewydd ynghyd i ddathlu'r celfyddydau, diwylliant ac ysbryd bywiog y ddinas."
Meddai Andrea Ovey, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Casnewydd Fyw, "Rydym yn falch iawn o weld y Sblash Mawr yn dychwelyd ar gyfer 2025. Fel gŵyl gelfyddydau awyr agored am ddim fwyaf Cymru, mae'n dod â phobl ynghyd trwy bŵer creadigrwydd, ac yn taflu goleuni ar Gasnewydd fel cyrchfan ddiwylliannol fywiog, gan gael effeithiau pwysig eraill hefyd, gan gynnwys cynnydd yn nifer yr ymwelwyr i berchnogion busnes yn y ddinas yn ogystal â'r effaith gadarnhaol ar les meddyliol a chorfforol. Mae'n gyfle gwych i ddathlu'r celfyddydau, ysbrydoli
cynulleidfaoedd newydd, ac arddangos y ddinas ar lwyfan ehangach, y mae Casnewydd Fyw yn falch iawn o'i wireddu eto yn 2025. Rydym yn parhau i geisio nawdd ychwanegol i gefnogi'r Sblash Mawr, felly cysylltwch os hoffech gymryd rhan!" Mae’r Sblash Mawr yn cynnig llwyfan cyffrous ar gyfer cysylltu a chydweithio, gan wahodd artistiaid a chymunedau lleol i rannu eu straeon a'u creadigrwydd. Eleni, mae nifer o ffyrdd i gymryd rhan, gan gynnwys:
· Galwadau Cymunedol a Galwadau am Artistiaid: Cydweithio i greu gwaith deinamig, awyr agored sy'n arddangos straeon a gofodau Casnewydd.
· Comisiwn Theatr Cymraeg: Gall artistiaid wneud cais i greu darn theatr stryd bywiog a gyflwynir yn yr iaith Gymraeg ac sy’n dathlu’r diwylliant Cymraeg.
· Gwirfoddoli: Ymunwch â'r tîm y tu ôl i ŵyl celfyddydau awyr agored am ddim fwyaf Cymru.
· Nawdd: Cysylltwch eich brand â chynulleidfa amrywiol tra'n cefnogi'r celfyddydau yng Nghymru.
Mae’r Sblash Mawr 2025 yn argoeli i fod yn benwythnos na ellir ei golli sy'n llawn cyffro, ysbrydoliaeth ac ysbryd cymunedol. Cadwch y dyddiad ac ymunwch â ni yn yr ŵyl eleni. Am ragor o wybodaeth a manylion am sut i gymryd rhan, ewch i: newportlive.co.uk/bigsplash