Paratowch ar gyfer profiad hudolus wrth i Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon gyhoeddi tri aelod arall o'r cast ar gyfer cynhyrchiad hudolus eleni o 'Dick Whittington'. Rydym yn gyffrous i gyflwyno newydd-ddyfodiaid Panto Glan yr Afon Jonathan Houlston a Mia Jae i'n llwyfan, yn ogystal â chroesawu Elian West yn ôl.
Y llynedd, dathlodd Theatr Glan yr Afon fod ei phantomeim Beauty and the Beast wedi llwyddo i chwalu’r recordiau mynychwyr blaenorol ar ôl diddanu dros 27,000 o bobl, dros 65 o berfformiadau.
Gan adeiladu ar ei pherfformiad ardderchog y llynedd fel Rose, mae Elian West, sy'n enedigol o Gasnewydd, yn dychwelyd i lwyfan Glan yr Afon gyda her newydd wefreiddiol: ei thro cyntaf fel cymeriad drwg y panto. Gall cynulleidfaoedd edrych ymlaen at fwio ochr newydd sbon o'i thalent wrth iddi ymgymryd â'r rôl dihiryn panto glasurol hon.
Yn ymuno ag Elian yn yr antur eleni mae'r newydd-ddyfodiaid, Jonathan Houlston, a Mia Jae. Mae’r ddau berfformiwr o Gymru yn dod â chyfoeth o dalent a brwdfrydedd i'r cynhyrchiad. Bydd Jonathan Houlston yn swyno cynulleidfaoedd gyda'i bortread o Dick Whittington, arwr ein stori sy’n chwilio am enwogrwydd. Mae Mia Jae yn camu i rôl ein harwres, Alys Fitzmorgan, gan ddod â'i llais pwerus a'i phresenoldeb carismatig i'r llwyfan. Mae ei hegni ffres a'i pherfformiad deinamig, ynghyd â rhai ei chyd-aelodau cast, yn addo gwneud 'Dick Whittington' eleni yn brofiad bythgofiadwy.
Dywedodd Jamie Anderson, Rheolwr Datblygu Creadigol Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, "Mae'n hynod gyffrous i ni groesawu Mia a Jonathan i'r pantomeim Glan yr Afon ar gyfer y tymor sydd i ddod. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'r dalent sy'n dod trwy'r cynhyrchiad hwn yn rhagorol ac rwy’n edrych ymlaen i’r rhai sy'n cysylltu Panto Glan yr Afon â thymor y Nadolig weld, teimlo a chlywed yr hyn sydd gennym ar y gweill i bawb eleni."
Ewch ar antur yn Theatr Glan yr Afon o fis Tachwedd eleni! Mae'r stori ‘carpiau i gyfoeth’ hon yn cynnwys digon o ddoniolwch, golygfeydd trawiadol, gwisgoedd hardd, y dihirod gwaethaf a digon o gyfranogiad gan y gynulleidfa!
Peidiwch â cholli'ch cyfle i fod yn rhan o'r antur anhygoel hon! Ar y llwyfan o 27 Tachwedd tan 4 Ionawr bydd y pantomeim teuluol oesol hwn yn eich cludo i wlad lle mae cariad yn drech na phopeth.