
Er mwyn rhoi hwb i’ch rhaglen ffitrwydd yn y Flwyddyn Newydd rydym yn cynnig Profion Iechyd AM DDIM ym mis Ionawr sy'n ffordd wych o greu man cychwyn ar gyfer eich taith ffitrwydd!
Cynhelir y Profion Iechyd gan ein timau ffitrwydd cwbl gymwys gan ddefnyddio peiriannau InBody a Tanita o'r radd flaenaf sy'n mesur:
-
Pwysau
-
BMI (Mynegai Màs y Corff)
-
Braster y Corff
-
Braster Perfeddol (Braster Peryglus o Amgylch yr Organau Mewnol)
-
Màs y Cyhyrau
-
Lefelau Hydradu
-
Dwysedd yr Esgyrn
Mae mesuriadau'r corff a gofnodir yn cael eu lanlwytho'n awtomatig i ap Healthy & Active Casnewydd Fyw, gan eich galluogi i gadw golwg ar eich statws iechyd, rheoli eich rhaglen hyfforddi a rhannu eich data symud â'r tîm ffitrwydd i dderbyn cymorth hyfforddiant personol.
Cynhelir profion iechyd yn y lleoliadau canlynol: y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol, Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas a Chanolfan Casnewydd.:
Gellir archebu profion iechyd ar-lein, a thrwy app Casnewydd Fyw dan ‘cymorth staff y gampfa’ neu drwy ffonio 01633 656 757.
Gwobrau! Gwobrau! Gwobrau!
Bydd pawb sy’n archebu ac yn cwblhau Prawf Iechyd ym mis Medi yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill Magic Bullet Nutri Blend.
Mae'r Magic Bullet Nutri Blend yn ddewin y gegin amlbwrpas amryddawn. Mae’n cymysgu, torri, chwipio, deisio a malu – fel y gallwch baratoi byrbrydau a phrydau cyflym, iach a blasus mewn eiliadau!
Gellir archebu profion iechyd ar-lein, a thrwy app Casnewydd Fyw dan ‘cymorth staff y gampfa’ neu drwy ffonio 01633 656 757.